10 Am ddywedyd ohonot, Y ddwy gcnedl a'r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fl, a nyni a'i meddiannwn; er bod yr AKMI.WYDD yno:
11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ul dy genfigen, y rhai o'th gas yn eu hcrbyn hwynt a wnaethost; fel y'm had-waener yn eu mysg hwynt, pan y'th farnwyf di.
12 A chei wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i'w difa.
13 Ymfawrygasoch hefyd a'ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i'm herbyn: mi a'u clywais.
14 FelhynydywedyrArglwyddDDUW; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a'th wnaf di yn anghyfannedd.
15 Yn ôl dy lawenydd di am feddiant ty Israel, oherwydd ei anrheitbio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
PENNOD 36
1 TITHAU fab dyn, proffwyda with fynyddoedd Israel, a dywed, Gwrandewch, fynyddoedd Israel, air yr ARGLWYDD.
2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Oherwydd dywedyd o'r gelyn hyn amdanoch chwi. Aha, aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni:
3 Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, oherwydd iddynt eich anrheithio, a'ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd:
4 Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewcb air yr Arglwydd DDUW; Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'u hamgylch:
5 Am hynny fel hyn y dywed yr At* glwydd DDUW, Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o'r cenhedloedd, ac yn erbyn hoH Edom, y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu bun, a llawenydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i'w yrru allan yn ysbail.
6 Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd. Fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd.
7 Am hynny fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Myfi a dyngais, Diau y dwg y cenhedloedd sydd o'ch amgylch chwi eu gwaradwydd.
8 A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwriwch allan eich ceinciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i'm pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod.
9 Canys wele fi atoch, ie, troaf atoch, fel y'ch coledder ac y'ch heuer.
10 Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dy Israel i gyd, fel y cyfanhedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffeithwch.
11 Ie, amlhaf ynoch ddyn ac anifail; a hwy a chwanegant ac a f&wythant; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddeA gynt; ie, gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
12 Ie, gwnaf i ddynion rodio amoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac m ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddi-faid mwy.
13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych, Yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddi-faid:
14 Am hynny ni fwytei ddynion mwy, ac ni wnei dy genhedloedd