Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/829

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth.

17 Ond pan roddo efe rodd o'i etifedd¬iaeth i un o'i weision, bydded befyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i'r tywysog: eto ei etifedd¬iaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy.

18 Ac na chymered y tywysog o etifedd¬iaeth y bobl, i'w gorthrymu hwynt allan o'u perchenogaeth; eithr rhodded etifedd¬iaeth i'w feibion o'i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o'i berchenogaeth.

19 y Ac efe a'm dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua'r gogledd: ac wele yno Ie ar y ddau ystlys tua'r gorilewin.

20 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a'r pech-aberth, a lle y pobant y bwyd-offrwrn; fel na ddygont hwynt i'r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl.

21 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac a'm tywysodd heibio i bedair congi y cyntedd; ac wele gyntedd ym mhob congi i'r cyntedd.

22 Ym mhedair congi y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeu-gain cufydd o hyd, a deg ar hugain o led: un fesur oedd y conglau ill pedair.

23 Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch.

24 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma dy y cogau, lle y beirw gweinidogion y ty aberth y bobl.


PENNOD 47

1 AC efe a'm dug i drachefn i ddrws y 1\- ty; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y ty tua'r dwyrain: oherwydd wyneb y ty oedd tua'r dwyrain; a'r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i'r allot'.

2 Ac efe a'm dug i ar hyd ffordd y porth tua'r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua'r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau.

3 A phan aeth y gŵr yr hwn oedd a'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywys¬odd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.

4 Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y Iwynau:

5 Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.

6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y'm tywys¬odd, ac y'm dychwelodd hyd lan yr afon.

7 Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o'r tu yma ac o'r tu acw.

8 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfr¬oedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i'r gwastad, ac a ânt i'r môr: ac wedi eu myned i'r môr, yr iacheir y dyfroedd.

9 A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa Ie bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.

10 A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o En-gedi hyd En-eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod y môr mawr, yn llawer iawn.

11 Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt.

12 Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma y terfyn wrth