myfi yw ARGLWYDD eich DUW, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.
3:18 A'r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffynnon Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.
3:19 Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.
3:20 Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth.
3:21 Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr ARGLWYDD sydd yn trigo yn Seion.
LLYFR AMOS.
PENNOD 1
1:1 Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn.
1:2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa.
1:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn.
1:4 Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad.
1:5 Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr ARGLWYDD.
1:6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD;. Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom.
1:7 Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
1:8 A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr ARGLWYDD DDUW.
1:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.
1:10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
1:11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol.
1:12 Eithr anfonaf dan i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.
1:13 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.
1:14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ae efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt.
1:15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr ARGLWYDD.
PENNOD 2
2:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.
2:2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a