heb neb i'w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a'i llefarodd.
4:5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd.
4:6 Yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:
4:7 A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
4:8 A thithau, tw^r y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.
4:9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor.
4:10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes, ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir, yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion.
4:11 Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i'th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion.
4:12 Ond ni wyddant hwy feddyliau yr ARGLWYDD, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a'u casgl hwynt fel ysgubau i'r llawr dyrnu.
4:13 Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a'th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i'r ARGLWYDD eu helw hwynt, a'u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear.
PENNOD 5
5:1 Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.
5:2 A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel, yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.
5:3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel,
5:4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.
5:5 A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathru o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf.
5:6 A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â'i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.
5:7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
5:8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.
5:9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.
5:10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:
5:11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:
5:12 A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:
5:13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:
5:14 Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd, a dinistriaf dy ddinasoedd.
5:15 Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.