Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/921

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

21:42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?

21:43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.

21:44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.

21:45 A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe.

21:46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.


PENNOD 22

22:1 A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd,

22:2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab,

22:3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod.

22:4 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas.

22:5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach:

22:6 A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant.

22:7 A phan glybu’r hrenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt.

22:8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.

22:9 Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas.

22:10 A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.

22:11 ¶ A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano:

22:12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.

22:13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

22:14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

22:15 ¶ Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.

22:16 A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.

22:17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw?

22:18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?

22:19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog:

22:20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff?

22:21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw.

22:22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned i ymaith.

22:23 ¶ Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo,

22:24 Gan ddywedyd, Athro, dy-