ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
4:26 ¶ Ac efe a ddywedodd. Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear;
4:27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.
4:28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.
4:29 A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.
4:30 ¶ Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni?
4:31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear;
4:32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.
4:33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando:
4:34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.
4:35 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw.
4:36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef.
4:37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.
4:38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?
4:39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.
4:40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?
4:41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?
PENNOD 5
5:1 A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid.
5:2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,
5:3 Yr hwn oedd a’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:
5:4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.
5:5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
5:6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef;
5:7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
5:8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.)
5:9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.
5:10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad.
5:11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd, genfaint fawr o foch yn pori.
5:12 A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
5:13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr.
5:14 A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
5:15 A hwy a ddaethant at yr Iesu,