Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/954

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt.

14:70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg.

14:71 Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano.

14:72 A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.


PENNOD 15

15:1 Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat.

15:2 A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

15:3 A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim.

15:4 A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.

15:5 Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat.

15:6 Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo.

15:7 Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.

15:8 A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.

15:9 A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?

15:10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.)

15:11 A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

15:12 A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?

15:13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.

15:14 Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.

15:15 ¶ A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio.

15:16 A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin,

15:17 Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben;

15:18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon.

15:19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef.

15:20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio.

15:21 A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef.

15:22 A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha, yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r benglog:

15:23 Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth.

15:24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gai pob un.

15:25 A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef.

15:26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN Yr IDDEWON.

15:27 A hwy a groeshoeliasant gyd