47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy lachawdwr.
48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig.
49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.
50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef.
51 Efe a wnaeth gadernid a’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52 Efe a dynnodd i lawr y cedym o’u heisteddfau, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.
53 Y rhai newynog a lanwodd efe a phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.
54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;
55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
56 A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.
58 A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.
59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad.
60 A’i fam a atebodd ac a ddywedodd; Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef.
61 Ewythau a d < tywtfdasant wrth»yNid oes neb o’th genedt a elwir ar yr eaw hwn.;
62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dadfe ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.
63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac an ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A Ayfedd’u a wnaethant oll.
64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd’, a’i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
66 A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodr asant yn eu calonnau, gas ddywedydy Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
67 A’i dad ef Saehareias a gynawnwyd-o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gafi’ ddywedyd;
68 Bendigedig fyddo Argtwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl;
69 Ac efe a ddyrenafodd’ gorn faCn’-awdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;
70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuadybyd: ‘
71 Fel y byddai i ni ymwared rflag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion;
72 I gwblhau’r drugaredd a’n tadau, ac t gofio ei sanctaidd gyfamod:
73 Y llw a dyngodd efe wrth eiit. tad-Abraham, ar roddi i ni,
74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelyn¬ion, ei wasanaethu ef yn ddi-ofn,
75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.
76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;
77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth fw bobl, trwy faddeuant o’u pcchodau,
78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd S ni godiad haul o’r uchelder,
79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, t gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.
PENNOD 2
1 BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augus¬tus Cesar, i drethu’r holl fyd.