iaid yr Iddewon’, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef.
4 Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo;
5 Canys y mae yn caru ein cenedl m, ac , efe a adeiladodd i ni synagog.
6 A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: i’
7 Am hynny ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas.
8 Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod , dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ‘ ac meddaf wrth hwn, DOS, ac efe a a; ac wrth arall. Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna.
9 Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl .oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
10 A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11 A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr.
12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi.
13 A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.
14 A phan ddaeth atynt, efe a gyff-yrddodd a’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.
15 A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam.
16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Ymwelodd Duw a’i bobl.
17 A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch.
18 A’i ddisgyblion a fynegasant i loan hyn oll.
19 Ac loan, wedi ‘galw rhyw ddau oll ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ym yn ei ddisgwyl?
20 A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, loan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ym yn ei ddisgwyl?
21 A’r awr honno efe a iachaodd liiwer oddi wrth glefydau, a phlau, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddcilhon y rhoddes etc eu golwg.
22 A’r Iesu a atebodd;IL;i (.Idywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i loan y pethau a welsoch ac a glywsocli; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi en glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbya yr efengyl.
23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24 Ac wedi i genhadau loan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am loan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?
25 Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu a dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26 Eithr beth yr aethoch allan i’w wefed? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i’chwi, a llawer mwy na phroffwyd.
27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.
28 Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag loan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29 A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio a bedydd loan.