30 Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31 A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffclybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?
32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnud, ac yn llcfain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsinsoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33 Canys daeth loan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul gnnddo.
34 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr Rwm, cyfaill piab-licanod a phechiidiin;iid.
35 A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawt o’i phlant.
36 Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dy’r pharisead, ac a eisteddodd i fwyta.
37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhy’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
38 A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef a dagrau, ac a’u sychodd a gwalli ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd a’r ennaint.
39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei luin, gan ddywedyd, Pe bai hwn brofiwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.
40 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed.
41 Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain.
42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i car ef yn fwyaf?
43 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr\»yf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wnbo, Uniawn y bernaist.
44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddy¬wedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dy di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olcbodd fy nhraed a dagrau, ac a’u sych¬odd a gwallt ei phen.
45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a iiodd fy nhraed ag ennaint.
4’; Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei hami bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y niaddeuer ychydig iddo, a gar ychydig.
48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.
49 A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd?
50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.
PENNOD 8
1 A buwedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a’r deuddeg oedd gydag ef;
2A gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon yr aethai saith gythraul allan;
3 Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt.
4 Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg:
5 Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd.