Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/973

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

58 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.

59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Ar¬glwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.

61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhy.

62 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.


PENNOD 10

1 WEDI’R pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd, ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod.

2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhaeaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anami: gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf, am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf.

3 Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel wyn ymysg bleiddiaid.

4 Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd.

5 Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn.

6 Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys amo: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi.

7 Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o d9 idy.

8 A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a redder ger eich bronnau:

9 Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch.

10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’w heolydd, a dywedwch,

11 Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesau atoch.

12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno.

13 Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.

14 Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.

15 A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.

16 Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i.

17 A’r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.

18 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef.

19 Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.

20 liithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng