Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/993

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf.

59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw.

60 A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog.

61 A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.

62 A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

63 A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro.

64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di?

65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.

66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r arch¬offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt,

67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:

68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith.

69 Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.

70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddy¬wedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod.

71 Hwythau a ddywedasant. Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.


PENNOD 23

1 AR holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat:

2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gwyr-droi’r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.

3 A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddy¬wedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.

4 A dywedodd Peilat wrth yr arch¬offeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.

5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma.

6 A phan glybu Peilat son am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. ,

7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at jHerod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef,; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9 Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo.:,

10 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.

11 A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ‘ ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo a gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.

12 A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth a’i gilydd.

13 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bob},

14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un .’a fyddai’n gwyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt:

15 Na Herod chwaith: canys an-