Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Howell Harris, ac yn awyddus am ei gospi, pe y medrent. (2) Fod bonedd y wlad yn dechreu troi o blaid y diwygiad mewn amrywiol leoedd. (3) Fod Harris yn barod wedi sefydlu nifer o seiadau, y rhai oeddynt yn hollol ar wahan i'r eglwysi Ymneillduol oedd yn flaenorol yn y wlad, ac nad oedd y gweinidogion Anghydffurfiol hyd yn hyn yn eiddigus o'r herwydd.

Yn mis Mehefin, cawn Harris yn canu yn iach i'w gyfeillion yn Llundain, ac yn cyrhaedd Trefecca. Heb orphwys ond noson yn nhŷ ei fam, cychwyna i'r Fenni; yr oedd cymdeithas y brodyr yno mor felus, fel na fedrodd gyrhaedd adref hyd yr hwyr; ac yna bu yn ysgrifenu hyd un o'r gloch. Tranoeth pregetha ddwy waith yn y Gelli, Brycheiniog. Y dydd canlynol, wyneba ar gynulliad annuwiol yn Longtown, Sir Henffordd; gyda ei fod ar ymyl y dorf, clywodd ddyn yn rhegu, a cheryddodd ef yn llym. Aeth y si trwy yr holl le fod Howell Harris yno, a daeth torf o ryw ddwy fil o'i gwmpas. "Rhoddodd yr Arglwydd nerth i mi i ymosod ar y diafol ar ei randir ei hun," meddai; "gosododd fy wyneb fel callestr, gan fy llanw o'r hyn a ddywedwn. Yn enwedig, pan welais rai boneddwyr a boneddigesau yn dyfod i wrando, gwnaed fi yn gryfach gryfach i ddarostwng eu balchder," Appeliodd hefyd at yr ynadon, ac at offeiriad y plwyf, gan ofyn iddynt pa fodd y rhoddent gyfrif o'u goruchwyliaeth, gan eu bod yn cefnogi tyngu, a meddwdod. Chwarddodd rhai o'r boneddwyr; "tynwch y clebrwr i lawr," meddai un arall; "ond ni ddaethai fy amser eto," meddai. Wedi pregethu mewn amryw fanau, aeth i Bontypŵl, lle y llefarodd am wroldeb Daniel, a'r tri llanc, ac fel yr oedd yr Arglwydd wedi sefyll o blaid ei bobl yn nydd y frwydr. Eithr erbyn hyn yr oedd yspryd erlid wedi ei ddeffro yn Mhontypŵl Daeth ustus heddwch ar draws y gynulleidfa ac yntau, gan ddarllen deddf terfysg, a gorchymyn iddynt ymwahanu mewn awr o amser. Addawodd yntau y gwnaent; ond gofynodd iddo a oedd yn arfer darllen deddf terfysg yn y gwahanol gampau, ac yn yr ymladdfeydd ceiliogod? Rhoddwyd ar gwnstabl hefyd i gymeryd Harris i fynu. Mynai ef fyned i'r carchar, ond perswadiwyd ef i roddi meichiau, y gwnai ymddangos yn Sessiwn Trefynwy. Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddo a'r ustus: —

Harris: "Nid oeddwn yn disgwyl mai mab yr Uchgadben H fuasai y cyntaf i ymosod ar gynulleidfa o Brotestaniaid heddychol; oblegyd dyn hynaws oedd efe."

Ustus: " Yr wyf wedi derbyn fy nghyfarwyddyd oddiuchod."

" Ai o'r nefoedd ydych yn feddwl?"

"Na, nid oeddwn yn golygu hyny."

"Dywedais wrtho," meddai Harris, "Pe y gwybuai ei fawrhydi mor deyrngar a diniwed ydym, na wnai feddwl yn uwch o hono ef am ein gorthrymu. Felly gadewais ef, wedi gadael rhai saethau yn ei gydwybod, a'i adgofio y rhaid iddo yntau roddi cyfrif gerbron gorsedd ofnadwy; ond y gwnawn weddïo drosto; a diolchodd yntau i mi." Yr oedd hyn ganol Mehefin, ac nid oedd y Sessiwn yn Nhrefynwy cyn Awst. Yn y cyfamser aeth Harris i Fryste, a phregethodd yno i gynulleidfa o Gymry. Cyfarfyddodd yno hefyd am y tro cyntaf â John Wesley. Ymddengys fod peth rhagfarn yn ei feddwl at John Wesley, am nad oedd yn dal yr athrawiaeth o etholedigaeth, a pharhâd mewn gras; nid anhebyg hefyd i'r rhagfarn gael ei ychwanegu gan Mr. Seward, yr hwn oedd wedi cwympo allan a Charles Wesley. Pregethai Mr. Wesley ar Esaiah xlv. 22: "Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber; canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall." Cyhoeddai y gwirionedd mawr am gyfiawnhâd trwy ffydd mor ddifloesgni a chlir, ynghyd a'r angenrheidrwydd, y fraint, a'r ddyledswydd o edrych at Iesu am gyfiawnder a nerth; ac yr oedd y fath ddylanwad nefol yn deimladwy yn yr odfa, fel y toddodd holl ragfarn Harris; ac er anghytuno ag ef gwedi hyn, nid amheuodd byth fod John Wesley yn weinidog Crist. Aeth yn ganlynol i ymweled ag ef yn ei lety, a phan y gwnaeth ei hun yn hysbys, syrthiodd Wesley ar ei liniau i weddïo drosto gerfydd ei enw, a thros Griffith Jones, a thros Gymru. Bu y ddau yn gyfeillion mwy hyd eu bedd.

Gwedi teithio rhanau helaeth o Gymru, dychwelodd i Drefynwy yn brydlon erbyn y Sessiwn. Teimlai yn bryderus ac yn isel ei yspryd; gwyddai nad oedd ganddo nac arian na chyfeillion i wynebu ar brawf costus; ac ofnai fod yr erledigaeth yn brawf nad oedd wedi cael ei alw i gynghori, a'i fod fel yr honai yr offeiriaid yn rhedeg heb gael ei anfon. Ond pan ddaeth i'r dref llonwyd ei galon; cyffröasai yr Arglwydd feddwl nifer mawr o ddynion da i ddod yno i'w bleidio, o Lundain, Caerloyw, a rhanau o Gymru. Yn ngwyneb