Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl ddyddiau eraill yr wythnos. Y mae diodydd cryfion wedi dyfod yn haint yn y ddinas. Y mae mwy o bobl yn marw o'r gwahanol glefydau a gynyrchir gan ymarferiad cyson o frandi a gwirf, nag sydd o bob afiechyd arall, o ba natur bynag. Pechod yn gyffredinol sydd wedi ymgaledu i'r fath raddau, ac wedi tyfu mor rhonc, fel yr amddiffynnir, ie, y cyfiawnheir, anfoesoldeb oddiar egwyddor. Câ llyfrau aflan, masweddgar, ac anllad farchnad mor dda, fel ag i gefnogi y fasnach o'u cyhoeddi. Nid oes un pechod nad yw wedi ffeindio ysgrifenydd i'w ddysgu a'i amddiffyn, a llyfrwerthydd a phedlwr i'w daenu ar led." Yr adeg yma yr oedd yfed gin wedi dyfod yn orphwylledd cyffredinol. Yn Llundain yr oedd un tŷ o bob chwech yn wirottŷ. Ar eu harwydd-estyll (sign- boards) addawai y tafarnwyr y gwnaent ddyn yn feddw am geiniog, ac y ffeindient wellt iddo i orwedd arno hyd nes y byddai wedi adfeddianu ei synwyrau. Afradedd oedd trefn y dydd. Nid oedd un teulu o bob deg yn ymgais am dalu ei ffordd. Y cwestiwn mawr oedd gallu bwyta yn fwy danteithiol, yfed yn fwy helaeth, a gwisgo yn fwy gwych na'r cymydogion o gwmpas. Bob nos goleuid y gerddi cyhoeddus a llus— ernau dirif, lle yr ymgynullai, wediymwisgo mewn sidan a phorphor, a chyda niwgwd ar eu gwynebau, lladron, oferwyr, hap— chwareuwyr, a phuteiniaid, yn gymysg a chyfoethogion a phendefigion o'r saíle uchaf, a lle y carient yn mlaen ymddiddan anniwair, ac y sibrydent athrod celwyddog. Cawsai pob dosparth ei feddianu a'r haint. Yr oedd clarcod a phrentisiaid, merched gweini a chogyddion, yn ymddilladu mor orwych a'u mestr neu eu meistres. . I gyfarfod yr holl afradedd yma rhaid, bid sicr, cael arian; ac edrychid ar bob ffordd i'w cyrhaedd, bydded onest, bydded an— onest, fel yn hollol gyfreithlon. Cyfrifid lladrad yn foneddigaidd, a hapchwareu yn ddyledswydd. Byddai boneddigesau yn dal cyngwystl yn eu tai, tra y byddai eu gwyr yn ymroddi i hapchwareu oddi— cartref; a chly wid swn disiau yn trystio ar ferfa olwyn yr hwn a elai o gwmpas i werthu afalau, penogiaid, a bresych, yn gystal ag ar fyrddau y pendefigion. Rhaid oedd cael arian, ac nid oedd wahaniaeth yn y byd pa fodd. Dywed y Wcehly Miscellany am 1732, fod y bobl wedi ymgladdu mewn pleser, fod ymgais at fyw yn dduwiol yn cael edrych arno mor hynod a phe yr ai dyn i'r heol wedi ymwisgo yn nillad ei daid; a bod clybiau anffyddol wedi cael eu ffurfio, gyda'r amcan addefedig o wneyd y bobl yn genedl aflan. Nid oedd bris ar rinwedd, a dirmygid crefydd a duwioldeb. Gellir cymhwyso geiriau y prophwyd Esaiah at yr oes: "Cenhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru; y pen oll sydd glwyfus, a'r galon yn llesg; o wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo, ond archollion, a chleisiau, a gwehau crawnllyd."

O'r diwedd, dychrynodd yr awdurdodau gwladol oblegyd y llygredigaeth a'r anfoesoldeb. Apwyntiwyd pwyllgor gan Dŷ yr Arglwyddi, "i chwilio i mewn i achosion yr anfoesoldeb a'r halogedigaeth rhemp presenol." Yn ei adroddiad mynegai y pwyllgor fod nifer o ddynion llygredig eu moes wedi ymffurfio yn ddiweddar yn glwb, dan yr enw Mallwyr (Blasters), a'u bod yn defnyddio pob moddion i geisio cael ieuenctyd y deyrnas i ymuno a hwy. Fod aelodau y clwb hwn yn proffesu eu hunain yn addolwyr y diafol, eu bod yn gweddïo arno, ac yn yfed iechyd da iddo. Eu bod yn defnyddio y fath iaith gableddus yn erbyn mawrhydi ac enw sanctaidd Duw, ac yn arfer ymadroddion mor aflan ac ehud, fel nad oedd y cyffelyb wedi ei glywed yn flaenoro, a bod y pwyllgor yn pasio heibio i'r cyfryw mewn dystawrwydd am eu bod yn rhy erchyll i'w hail adrodd. Adroddai y pwyllgor yn mhellach fod crefydd a phob peth cysegredig wedi cael eu hesgeuluso yn ddifrifol yn ddiweddar; a bod mwy o esgeuluso yr addoliad dwyfol, yn gyhoeddus ac yn breifat, ac o anmharchu y Sabbath, nag y gwybuwyd am y fath yn Lloegr erioed o'r blaen. Fod segurdod, moethusrwydd, hapchwareu, ac ymarferiad a gwirodydd, wedi cynyddu yn arswydus, Cynghorai ar fod i'r esgobion yn eu hymweliadau i siarsio y clerigwyr ar iddynt rybuddio y bobl a'u cymhell i fynychu y gwasanaeth dwyfol, ac ar fod i'r ieuenctyd yn y prifysgolion gael eu haddysgu yn ofalus yn egwyddorion crefydd a moesoldeb. Yn 1744 darfu i uchelreithwyr Middlesex gyflwyno y cwyn canlynol i'r barnwr yn y Sessiwn: "Fod y bobl yn cael eu llithro i foethusrwydd, afradedd, a segurdod; trwy hyn fod teuluoedd yn cael eu dinystrio a'r deyrnas yn cael ei dianrhydeddu; ac oni fyddai i ryw awdurdod roddi terfyn ar y fath fywyd afradlon, eu bod yn ofni yr arweiniai i ddinystr y genedl." Mewn