Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwirionedd yr oedd anwiredd yn prysur ddatod seiliau cymdeithas; wedi taflu rhinwedd a chrefydd dros y bwrdd nid oedd gan y bobl nerth i ddim; bygythiai eu blysiau droi yn feddau iddynt; yr oedd dinystr gwladol a chymdeithasol yn llygadrythu yn eu gwynebau; ac ymddangosent fel ar suddo yn dragywyddol dan adfeilion y moesoldeb y tynasent tan ei sail, Yr un pryd dychrynai yr ychydig bobl dduwiol a weddillasid, a chyfodent eu golygon at Dduw, gan waeddi: "O Arglwydd, pa hyd! pa hyd!"

Naturiol gofyn: Beth am glerigwyr yr Eglwys Sefydledig? Ai nid oeddynt hwy yn gwylio ar y mur, yn ol y llŵ difrifol a gymerasent adeg eu hordeiniad? Ai nid oeddynt yn ceisio atal y llifeiriant fel y gweddai i'w swydd? Na, ysywaeth " 'Run fath bobl ag offeiriad " ydoedd y pryd hwnw fel bron yn mhob oes. Arweiniai llu o'r clerigwyr fywyd anfucheddol, ac yr oeddynt bron mor anwybodus a thyrchod daear yn athrawiaethau yr efengyl yr ymgymerasent a'i phregethu. Gallent herio y penaf yn yr ardal am gryfder i yfed cwrw a gwirod; medrent ymgystadlu a neb pwy bynag, yn y gadair ger y tân hirnos gauaf, am adrodd ystoriau gogleisiol ac anweddus; yr oeddynt yn awdurdod ynglyn a'r campiau, a'r amrywiol chwareuon; ond yr oeddynt yn gwbl anwybodus yn efengyl Duw, ac yn llawer mwy cydnabyddus a bywyd a gweithrediadau Alexander Fawr, a Julius Caesar, nag a hanes yr Arglwydd Iesu. Rhag i neb dybio ein bod yn lliwio pethau yn rhy ddu, difynwn yr hyn a ysgrifenwyd gan yr Esgob Burnet yn y flwyddyn 1713: "Y mae y nifer fwyaf o'r rhai a ddeuant i'w hordeinio mor anwybodus, na all neb gael syniad am dano, ond y rhai y gorfodir hwynt i'w wybod. Y wybodaeth hawddaf yw yr un y maent ddyeithraf iddi; yr wyf yn cyfeirio at y rhanau mwyaf hawdd o'r Ysgrythyr. Nis gallant roddi un math o gyfrif hyd yn nod o gynwys yr Efengylau, neu y Catecism; neu ar y goreu, cyfrif anmherffaith iawn." Darlun ofnadwy o ddu, onide? A chofier ei fod wedi cael ei dynu gan esgob. Teg yw hysbysu fod dosparth o glerigwyr ar y pryd a arweinient fywyd moesol, a bod yn eu mysg ddynion dysgedig a thalentog. Y rhai hyn oeddent yr Uchel—eglwyswyr. Ond anurddid hwythau gan ddau fai. Un oedd eu rhagfarn at Ymneullduaeth. Dalient nad oedd neb yn weinidog i Grist os na fyddai wedi derbyn urddau esgobol, fod yr holl sacramentau a weinyddid gan yr Ymneullduwyr yn ddirym, a bod yr Eglwysi Ymneillduol oll mewn stad o bechod a damnedigaeth. Yn ychwanegol, yr oeddynt yn wleidyddwyr penboeth. Yr oeddynt, lawer o honynt beth bynag, yn Jacobiaid, sef yn annheyrngar i'r Brenin Sior, ac yn awyddus am weled Siarl Steward, yr Ymhonwr fel ei gelwid, yn esgyn i'r orsedd. Deuai pechod yn rhinwedd yn eu golwg, os dangosai yr hwn a'i cyflawnai zêl anghymedrol o blaid yr Ymhonwr; deuai sancteiddrwydd yn gamwedd os dangosid unrhyw frawdgarwch at yr Ymneillduwyr. Gallai dyn fod yn feddw trwy yr' wythnos, a byw y bywyd ffìeiddiaf; ond os yfai iechyd da yr Ymhonwr, ac os unai i felldithio y brenin, ystyrid ef yn sant. Ar y Ilaw arall gallai dyn fod yn ddysgedig, yn ddiwyd, yn ddefosiynol, a defnyddiol; ond os gwrthwynebai yr Ymhonwr, y safai yn gryf yn erbyn Pabyddiaeth, ac os amheuai fod yr YmneiIIduwyr oll i gael eu damnio, edrychid arno fel un anuniongred, a deuai ar unwaith yn nod i saethau y blaid Uchel—eglwysig.

Ychydig neu ddim gwell oedd pethau yn mysg yr Ymneillduwyr. Cwynent hwythau eu bod yn colli yr ieuenctyd, fod difrawder cyffredinoI ac oerni gauafaidd wedi ymdaenu dros eu cynulleidfaodd, a bod crefydd ysprydol yn nodedig o isel. Achwynent fod Ilawer o'u gweinidogion yn esgeulus ac yn arwain bucheddau anfoesol, a'u bod yn eu pregethau, y rhai a ddarllenid ganddynt, yn dangos mwy o gydnabyddiaeth a'r awduron clasurol nag a Gair Duw. Rhaid fod pethau wedi cyrhaedd sefyllfa alaethus, a dywed Tyerman mai cyfodiad a chynydd Methodistiaeth a achubodd Brydain rhagdinystr tymhorol a chymdeithasol. Yn gyffelyb y barna Macaulay.

Yr ydym wedi manylu ac ymhelaethu ar sefyllfa crefydd a moesau yn Lloegr, am fod yr unrhyw achosion, i raddau mwy neu lai, ar waith yn Nghymru, ac o angenrheidrwydd yn cynyrchu yr unrhyw effeithiau. Braidd nad oedd dylanwad Lloegr ar y Dywysogaeth yn gryfach y pryd hwnw nag yn awr. Rhaid cofio fod llenyddiaeth gyfnodol Gymreig heb wneyd ei hymddangosiad eto; na anwyd yr Amseran, y newyddiadur wythnosol Cymreig cyntaf, am gan mlynedd gwedin, ac na chyhoeddwyd y cylchgrawn misol cyntaf