Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn iaith y bobl am ryw haner cant. Cymaint o lenyddiaeth yn adlewyrchu syniadau y dydd ag a ddarllenid, deuai o Loegr, ac yr oedd ei ddylanwad fel gwynt heintus yn deifio pob blodeuyn prydferth a thêg yr olwg arno. Gwir nad oedd nifer y dar— llenwyr ond ychydig, ond o herwydd eu safle gymdeithasol medrent, fel y lefain yn y ddameg, suro pob peth y deuent i gyffyrddiad ag ef. Dylid cofio yn mhellach mai ychydig o ysgolion oedd yn Nghymru, ac yr anfonid yr ieuenctyd am addysg i'r trefydd mawrion Saesnig, a bod y rhai a allent fforddio hyny yn myned i Rydychain. Fel y gellid dysgwyl, deuent yn eu holau wedi ymlygru, ac wedi llyncu syniadau anffyddol ac afiach y lleoedd y buont yn aros ynddynt. Cadarnheir hyn gan dystioliaeth unfrydol y rhai oeddynt yn byw ar y pryd. Dywedant fod gwir grefydd ymron wedi darfod o'r tir, fod anfoesoldeb yn ei ffurfiau mwyaf hyll yn llanw y wlad; ac yn ychwanegol fod yr anwybodaeth fwyaf eithafol, a'r ofergoelaeth fwyaf hygoelus yn ffynu yn mysg y werin. Ychydig oedd nifer y Beiblau, llai fyth oedd nifer y rhai a fedrent eu darllen. Treulid nosweithiau y gauaf i adrodd ystoriau gwrachïaidd am fwganod, drychiolaethau, goleu corff, a phethau o'r fath.

Er rhoddi ryw syniad i'r darllenydd am sefyllfa isel y wlad, a pha mor llawn ydoedd o ofergoehaeth, rhaid i ni geisio ganddo ddyfod gyda ni ar daith ddychymygol, i ffermdy gwell na'r cyffredin, ryw noson yn y gauaf, lle y mae cwmni dyddan wedi ymgasglu. Er oered yr hin oddiallan, nid yw yn oer yn nghegin yr amaethdy, oblegyd llosga tân braf, cymysg o fawn ac o goed, ar yr aelwyd. Nid oes yr un ganwyll yn nghyn, y mae goleu y tân yn ddigon, a theifl y fflamau eu llewyrch ar y platiau piwter sydd ar y seld nes y maent yn dysgleirio drostynt. Eistedda yr hên y tu fewn i'r simne eang hen ffasiwn; mewn pellder gweddol y tu ol yr eistedd yr ieuanc, perthynol i'r ddau ryw; a'r gwaith, yr hwn a gerir yn mlaen gyda chryn asbri, yw adrodd chwedlau, hen a diweddar. Dywed un am ryw helynt a ddigwyddasai yn y fferm agosaf ond un. Ryw foreu yr wythnos o'r blaen, daeth hen wraig, hagr ei gwedd a melyn ei chroen, at y drws; aeth gwraig y tŷ at y drws i'w chyfarfod, pryd y cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt. "Bendith y nefoedd a fo arnoch! A


welwch chwi yn dda roi cwpanaid o haidd yn gardod i hen wreigan? "

" Y mae yn wir ddrwg genyf; yr ydym yn hollol allan o haidd; rhaid i'r hogiau fyn'd i'r 'sgubor i ddyrnu, cyn y byddo genym ddim at wasanaeth y tŷ."

" A ydych yn gwrthod y cwpanaid haidd? "

" Rhaid i mi wrthod heddyw, nid oes dim genyf at fy Ilaw."

" Chwi a ddifarwch cyn machlud haul am fod mor llawgauad."

Aeth yr hen ddynes i ffwrdd yn guchiog ei gwedd, gan fwmian bygythion; a throdd y wraig yn ei hol i'r gegin. Yno yr oedd y forwyn yn gwneyd paratoadau at gorddi. Yn mhen ychydig dechreuodd ar ei gwaith, a chorddi y bu am oriau meithion, ond nid oedd un argoel fod yr hufen am droi yn ymenyn. Gwawriodd ar feddwl y feistres mai melldith yr hen ddynes oedd y rheswm am y ffaelu corddi. Aeth mewn brys gwyllt at ei gwr oedd yn yr ydlan, gan ddweyd: —

"Ewch ar unwaith, cymerwch y ceffyl buanaf sydd yn yr ystabl; gyrwch ar ol yr hen ddynes a fu wrth y drws; y mae wedi rheibio yr hufen; dygwch hi yn ei hol bodd neu anfodd."

Ymaith a'r gwr; goddiweddodd y ddewines; gwnaeth iddi ddychwelyd; dywedodd hithau ychydig eiriau dan ei hanadl; ac ychydig o waith corddi a fu nes bod yr ymenyn yn Ilon'd y fuddai. Gwnaed y nodiadau oedd yn gweddu ar yr hanes; datganai rhai o'r cwmni ryw gymaint o syndod; ac eto nid oedd y syndod yn fawr, gan fod digwyddiadau o'r fath yn cymeryd Ile yn rhy gyffredin.

Gwedi byr seibiant dyma yr ail yn cymeryd ei ddameg, ac yn adrodd am Dafydd Pantyddafad yn yfed yn nhafarn y pentref ryw fis cynt. Ystormus oedd y nos, a chaddugol oedd y tywyIIwch; chwibanai y gwynt fel ellyll gwawdus yn nghorn y simne, a disgynai y curwlaw i lawr yn genllif, fel yr oedd yn berygl bywyd myned allan o dŷ. Eisteddai Dafydd yntau yn dra phruddglwyfus wrth y tân, gan geisio dychymygu sut yr äi adref, gan fod Pantyddafad ddwy filltir o bellder, yr ochr arall i'r afon Teifi. Wrth ei benelin yr oedd hen wreigan, gyda sJimid goch ar ei gwar, yn cribo gwlan yn ol ffasiwn yr hen Gymry. Gwaghaodd Dafydd ei beint, galwodd am un arall, ac wedi yfed dracht dda o hono, estynai ef i'r hen wraig a'r . cribau, er mwyn iddi