Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bellach, rhaid i ni ddychwelyd at weithiau llenyddol Williams. Mae yn llwyr anmhosibl, o fewn ein terfynau ni, i fanylu ar amseriad llyfrau Williams. Rhaid i ni foddloni ar gyfeirio y darllenydd am bob manylion at Weithiau Williams, Pantycelyn, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., llyfr ag a bery yn gofgolofn oesol i'r bardd, ac yn anrhydedd arosol ar y golygydd llafurus a galluog. Rhoddwn yn y fan hon restr o'i lyfrau emynawl ef. Dilynwyd yr Aleluia gan Ganiadau y rhai sydd ar y mor o wydr, i Frenin y Saint; Ffarwel Weledig; Gloria in Excelsis; Rhai Hymnau Newyddion, ynghyd a dau lyfr o emynau Seisonig dan yr enwau, Gloria in Excelsis, a Hosannah to the Son of David. Cyfansoddiadau barddonol eraill Williams ydynt y rhai canlynol: Golwg ar Deyrnas Crist; Caniadau Duwiol; Theomemphis; Tair-ar-ddeg-ar-hugain o Farwnadau; Myfyrdodau ar Angau; Llyfr Amrywioldeb; Cerdd Newydd ar Briodas; a Gweddillion Awenyddol.

Wele eto restr o'r gweithiau rhyddiaethol a gyhoeddwyd ganddo: Sicrwydd Ffydd (cyfieithiad o bregeth Erskine); Pantheologia, neu Hanes Holl Grefyddau y Byd: Llythyr Martha Philopur; Ateb Philo Evangelius; Hanes Llwyddiant yr Efengyl (cyfieithiad); Crocodil Afon yr Aipht; Y Tri Wyr o Sodom; Aurora Borealis; Antinomiaeth; Drws Society Profiad; Cyfarwyddwr Priodas; Hanes Troedigaeth y Parch. Thomas Goodwin, D.D.; Imanuel; Ymddiddan rhwng Philalethes ac Eusebes, mewn perthynas i wir Gristionogrwydd.

Pan ystyriom fod Williams yn teithio o gwmpas pump-a-deugain o filldiroedd bob wythnos trwy gydol ei oes, ac yn pregethu ac yn cadw seiadau yn ddi-dor, ymddengys y gwaith llenyddol a gyflawnodd yn nemawr llai na gwyrth. Cyrhaedda ei emynau y nifer o 916, a'r penillion dros bedair mil. Y mae ei ddwy brif gân, Golwg ar Deyrnas Crist, a'i Theomemphis, yn cynnwys bob un dros bum mil o linellau, ac y mae amryw o'i ganiadau eraill yn gyfansoddiadau meithion. Ei brif waith rhyddiaethol ydyw ei Pantheologia, sef Hanes Holl Grefyddau y Byd. Rhed athrylith Williams drwy ei holl weithiau, ac y mae ei ysgrifeniadau rhyddieithol yn dwyn yr un nodweddau a'i gyfansoddiadau barddonol. Yr oedd meddwl Williams yn rhyfeddol o gynhyrchiol. Medrai ei awen ef aros yn hir ar ei hedyn. Esgynai yn uchel, a medrai aros yn hir heb ddisgyn. Dichon fod rhai o feirdd ac emynwyr ein gwlad wedi esgyn yn agos i'r un uchelderau ag yntau, ond ehediadau byrion oeddynt; gan nas gallent aros yn hir heb ddisgyn yn ôl i'r ddaear. Yr oedd awen Williams fel eryr cryf yn esgyn yn gyflym ac yn aros yn hamddenol ar ei hedyn, ac yn disgyn yn ddiludded wrth ei hewyllys. Neu, a newid y gymhariaeth, yn nghyfansoddiadau llawer o feirdd ein gwlad, yr ydym yn gweled afonydd llydain a llynnoedd prydferth; ond yn ngweithiau Williams cawn olwg ar y môr. Bardd di-urddau oedd, y mae'n wir, fel mai pregethwr di-urddau oedd Howell Harris. Gellid cymhwyso pennill Williams i Howell Harris fel pregethwr, ato ef ei hun fel bardd:

"Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cennad gan un esgob
Ag sydd llawer llai na Duw."

Ond cawsant ill dau eu hurddiad yn ddigyfrwng gan Dad y Goleuni. Cydnabyddwyd ef yn foreu yn fardd o uchel fri, gan y genedl Gymreig; a daeth yn fuan yn anghymharol fwy cymeradwy a phoblog na'r un bardd a fu o'i flaen. Darllenid a chenid ei weithiau yn awchus, a chafodd ei lyfrau gylchrediad digymar. Bu y frawdoliaeth farddonol yn hir cyn ei gydnabod. Nid oedd efe o'u hurdd hwy, ac am hynny anwybyddent a diystyrent ef. Ond os nad enillodd gymeradwyaeth y beirdd a gydoesent ag ef, gwnaeth fwy trwy ennill meddwl a theimlad y bobl. Dichon mai Sion Lleyn a Thomas Jones, o Ddinbych, oeddynt y cyntaf o "Feirdd Braint a Defawd" i ganiatáu iddo eistedd gyda'r beirdd. Yn yr hen Oleuad ceir cywydd o waith Sion Lleyn, dan y teitl, "Paradwys Gerdd yn cael ei holrhain, sef y farddoniaeth a gariodd y grawnsypiau i Israel Duw yn yr anialwch," ac ar ôl ymholi

"P'le ceir awen ysplenydd!
Mirain hoff wawd; morwyn ffydd?"

y mae yn ateb yn nacaol, na cheir hi gan Homer, Horas, Vyrsil, Ofid, nac ychwaith gan feirdd Cymreig ei oes ef:

"Nid [1] Efan, mwy na [2] Dafydd,
Nid [3] Hywel, er hel a'i rhydd;
Nid [4] Walter rydd geinber gân,
Gywreiniawg o'i gwir anian:
[5] y Bardd Glas, [6] Thomas, nid da
A gwrdd ddim a'r gerdd yma;
[7] Goronwy hen, gywreinia'i hawl,
Ni feddodd y gan fuddiawl."

  1. Ieuan o Leyn
  2. Dafydd Ddu
  3. Howell Ieuanc o Lanllyfni
  4. Gwallter Mechain
  5. Y Bardd Glas o'r Gadair
  6. Twm o'r Nant
  7. Goronwy Owen