Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/224

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd hyd saith, yna aethom i dŷ y brawd Price." Ar un olwg, y mae yn syn iddynt gael y capel, gan fod David Williams, y gweinidog, wedi darfod cydweithio a hwy. Ond dylid cofio mai rhai a ddychwelasid trwy weinidogaeth Harris oedd y nifer amlaf o'r aelodau yno; mai ei ymweliad ef yn 1738 a fu yn achlysur i'r capel gael ei adeiladu; ac yr ystyriai yr eglwys ei hunan ar y pryd i raddau mawr yn Fethodistaidd, a pharhaodd i deimlo felly hyd nes y darfu i syniadau Arminaidd, a hanner Ariaidd David Williams, orfodi y Methodistiaid i ymwahanu, ac i adeiladu capel y Groeswen. Dewiswyd Mr. Whitefield yn gadeirydd. Agorodd yntau y cyfarfod trwy weddi, mawl, a chyngor. Dywed Harris na welodd y fath serchowgrwydd meddwl, y fath gariad a grym, wedi cyd-gwrdd yn neb ag yn y gŵr da hwnnw. Heblaw Mr. Whitefield, yr oedd yn bresennol y Parchn. Daniel Rowland, John Powell, a William Williams, oll yn offeiriaid urddedig; ynghyd a Mri. Howell Harris, Joseph Humphreys, a John Cennick, lleygwyr. Y chwech hyn yn unig a gyfansoddent y Gymdeithasfa ar y cyntaf. Ystyrid y tri offeiriad yn perthyn iddi ar gyfrif eu hordeiniad; Howell Harris ar gyfrif ei sefyllfa eithriadol fel y mwyaf ei lafur o bawb, a sylfeinydd y nifer amlaf o'r seiadau; a Mri. John Cennick a Joseph Humphreys, oblegyd y safle uchel a feddent yn mysg Methodistiaid Lloegr. Cuwrad Aberystruth, ger Blaenau Gwent, oedd y Parch. John Powell; argyhoeddasid ef trwy weinidogaeth Howell Harris, pan yr ymwelodd gyntaf a'r rhan honno o'r wlad; a daeth mewn canlyniad yn bregethwr efengylaidd a thra sylweddol. Er ei holl awydd am wneyd daioni, cafodd ei erlid yn fawr yn Aberystruth. Ymddengys fod ei wraig hefyd yn ddynes nodedig o grefyddol; a dywed Mr. Edmund Jones y tybid yn gyffredin,[1] ddarfod i waith rhai o'r prif blwyfolion, yn mysg pa rai yr oedd ei thad, wrthwynebu caniatáu i Daniel Rowland bregethu yn yr eglwys effeithio mor ddwys ar ei meddwl, fel ag i fyrhau ei dyddiau. Gwedi dyoddef llawer oblegyd ei gysylltiad a'r Methodistiaid, cafodd Mr. Powell fywoliaeth yn rhan isaf o Fynwy, lle y trigodd hyd ddydd ei farwolaeth.

John Cennick ydoedd fab i Grynwr o Reading, a chafodd ddygiad i fynnu crefyddol, gan gael ei arfer i weddïo nos a boreu gan ei fam. Eithr tyfu yn fachgen drwg a wnaeth John. Arferai ganu caneuon masweddgar, chwareu cardiau, a mynychu y chwareudai; anfonodd ei dad ef naw gwaith i Lundain i'w brentisio i ryw gelfyddyd; eithr ni chymerai neb ef gan mor ddrwg ydoedd, oddigerth rhyw saer, yr hwn a'i derbyniodd ar brawf, eithr a wrthododd ei gymeryd fel egwyddorwas pan ddaeth yr amser i hynny. Argyhoeddwyd y llanc tra yn cerdded Cheapside, un o heolydd poblog Llundain, yn y flwyddyn 1735, tua'r un adeg a Howell Harris. Pa foddion a fendithiwyd iddo, nis gwyddom; ond bu mewn teimladau ofnadwy am amser. Ymprydiai yn fynych, a hyny am amser maith, a gweddïai naw gwaith bob dydd. Ofnai ysprydion yn enbyd; ac yr oedd arno fawr ddychryn cyfarfod a'r diafol. Gan y teimlai fod bara, hyd yn nod bara sych, dienllyn, yn ymborth rhy dda i bechadur mor fawr ag efe, ymroddodd i fwyta cloron, mês, a glaswellt; ac ymawyddai am fyw yn gyfangwbl ar lysiau a gwreiddiau. Ni chafodd heddwch i'w enaid hyd Hydref, 1737; y pryd hwnnw datguddiodd Duw ei drugaredd iddo, ac aeth yntau i'w ffordd yn llawen. Dechreuodd bregethu ar unwaith, fel Howell Harris, a chyfansoddi hymnau. Argraffwyd nifer o'i hymnau, wedi ei golygu gan Charles Wesley, yn y flwyddyn 1739. Yr un flwyddyn cyfarfyddodd a John Wesley, yr hwn a'i hapwyntiodd yn ysgolfeistr i Kingswood, ger Bryste, lle yr oedd nifer mawr o lowyr wedi eu dychwelyd. Cyrhaeddodd Kingswood yn mis Mehefin; er ei fawr siomedigaeth cafodd fod Wesley wedi ymadael am Lundain, ond gwahoddwyd ef i fyned i wrando rhyw ddyn ieuanc yn darllen pregeth i'r glowyr. Lle y cyfarfod oedd dan gysgod sycamorwydden, yn ymyl y fan y bwriedid i'r ysgol fod. Daeth y glowyr ynghyd, tua phum cant o honynt, ond ni ddaeth darllenydd y bregeth. Bu raid i Cennick bregethu iddynt, a chafodd odfa nerthol; dygodd Duw dystiolaeth i air ei ras, a chredodd llawer i fywyd tragywyddol. Pregethodd drannoeth, a dwy waith y Sul dilynol. Daeth Howell Harris i'r lle; ymroddodd y ddau, pregethwr diurddau cyntaf Lloegr, a phregethwr diurddau cyntaf Cymru, i bregethu i dyrfaoedd oeddynt yn awchus am wrando y Gair; fel pan gyrhaeddodd John Wesley yno y dydd Mawrth dilynol, yr oedd clod y ddau efengylwr yn mhob

  1. History of the Parish of Aberystruth.