Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/225

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genau. Ni cheisiodd Wesley daflu rhwystr ar ffordd John Cennick, ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o fod yr efengylwr lleygol cyntaf perthynol i'r Methodistiaid Seisonig. Ac ymddengys ei fod wedi ei ddonio yn helaeth. Meddai barodrwydd ymadrodd mawr, a gwroldeb diderfyn. Pan yr ymrannodd Wesley a Whitefield, mewn canlyniad i syniadau Arminaidd y blaenaf, glynodd Cennick wrth y blaid Galfinaidd, ac yr oedd yn un o'r deuddeg a deugain a drowyd allan o gymdeithas Kingswood gan Wesley, yn y flwyddyn 1741. Efe, gwedi hyn, oedd llaw ddeheu Whitefield. Eithr yn y flwyddyn 1745, tra yr oedd Whitefield yn America, ymadawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd a'r Eglwys Forafaidd. Bu farw yn 1755. Dywed Tyerman am dano: "Meddai Cennick ei wendidau; ond mewn bod yn farw i'r byd, mewn cymundeb a Duw, gwroldeb Cristionogol, ac amynedd siriol, byddai yn anhawdd cael ei ragorach." Ychwanega Tyerman, gan lefaru oddiar safle Wesleyad: "Er ei Galfiniaeth, ac er ei ddadleuon a John Wesley, yr ydym yn caru y dyn."

Mab i weinidog Ymneillduol yn Burford, lle heb fod yn nepell o Rydychain, oedd Joseph Humphreys; ac er fod ei enw yn Gymreig, nid oes un sicrwydd ei fod o haniad Cymreig. Ganwyd ef Hydref 28, 1720, felly yr oedd ychydig dros ddwyflwydd ar hugain oed adeg y Gymdeithasfa yn Watford. Cafodd addysg well na'r cyffredin. Bu ei dad farw pan nad oedd Joseph ond llanc tair mlwydd ar ddeg; a chawsai yn ei ddydd ei ddirmygu gan Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, oblegyd ei zêl a'i fywyd Puritanaidd. Gwedi hyn anfonwyd Joseph i ysgol yn Llundain, yn mha un yr oedd dynion ieuainc yn cael eu parotoi ar gyfer y weinidogaeth, a thuag at y pwlpud yr edrychai yntau. Arferai y llanciau a fwriedid i fod yn bregethwyr gynnal cyfarfodydd gweddi; tybiai yntau ei hun yn ffodus mewn cael bwrw ei goelbren yn mysg dynion ieuainc o'r fath dduwioldeb a difrifwch; ond yn fuan gwelodd nad oedd yr oll ond clogyn, a'u bod yn ddirgel yn ymroddi i chwareuon annheilwng, yn gystal ag i ymddiddanion cellweirus ac ofer. Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da; daeth Joseph Humphreys yn fuan mor ysgafn a'r un o honynt; ac yn y dirgel yn inffìdel. Rhoddodd raff i'w nwydau llygredig, gan arwain bywyd cyhoeddus annuwiol. Yn raddol sobrodd drachefn, ymaelododd mewn eglwys Ymneillduol yn Llundain, a dechreuodd bregethu, "ond yr oeddwn heb fy argyhoeddi," meddai. Haf 1739, aeth i wrando Whitefield, gweinidogaeth yr hwn a ddylanwadai yn fawr arno; wrth weled y torfeydd yn ymwasgu yn awchus i wrando yr efengyl, dywedai ynddo ei hun: "Ni welwyd y fath beth yn Israel." Ceisiodd gymdeithasu ag ef, ac un nos cafodd y fraint o swpera gydag ef a Howell Harris, a rhai brodyr eraill, mewn gwesty yn Blackheath. Gwedi swpera, aed i siarad am bethau crefydd; aeth y tafarndy yn gysegr; teimlai Humphreys y lle yn nefoedd ar y ddaear. Un diwrnod, tra y canent emyn yn yr athrofa, lle y parhâi i fod yn efrydydd, cafodd y fath brawf o gariad maddeuol Crist, fel y toddodd ei galon o'i fewn, ac yr aeth ei lygaid yn ffynhonnau o ddagrau. Holai ei gyd-efrydwyr ef beth oedd y mater; ond yr oll a allai ateb oedd ei fod yn ddedwydd. Gwedi hyn, dechreuodd bregethu mewn ystafell ddawnsio; cafodd gynulleifaoedd mawrion, a ffurfiodd yno gymdeithas eglwysig, yn rhifo tua saith ugain o aelodau. Pregethai yr athrawiaethau Calfinaidd, pechadur yn cael ei gyfiawnhau gerbron Duw ar sail haeddiant Iesu Grist yn unig. Am hyn gwrthwynebwyd ef yn yr athrofa, daeth yn wawd ei gydefrydwyr, cafodd ei erlid gan ei athraw, a'i adael gan ei gyfeillion, tybiwyd ei fod wedi colli ei synhwyrau, a Rhagfyr 19, 1739, cafodd ei esgymuno o'r sefydliad, heb fod unrhyw gyhuddiad arall yn cael ei ddwyn i'w erbyn. Ond er pob peth rhaid oedd iddo gael pregethu, a bu yn gweinyddu i'r seiadau yn Deptford, Greenwich, a Ratcliffe. Caffai ei erlid; weithiau byddai mewn perygl am ei fywyd, oblegyd cerrig yn cael eu lluchio ato, ond ni ofalai. Yn y flwyddyn 1741 unodd a Whitefield, a phregethwr teithiol mewn cysylltiad ag ef ydoedd pan ddaeth i Gymdeithasfa Watford. Hawlia tegwch hanesyddol i ni grybwyll na fu diwedd ei fywyd agos mor ddysglaer a'r rhan gyntaf. Yn mhen amser gadawodd Whitefield, gan gymeryd ei ordeinio yn weinidog Presbyteraidd; a chwedi hynny urddwyd ef yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. A dywedir ei fod yn gwawdio y Methodistiaid, ac yn cyfeirio at ei hanes yn ei mysg fel adeg ei wallgofrwydd.

Y mae aelodau eraill y Gymdeithasfa mor adnabyddus fel nad rhaid cyfeirio