Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/226

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

atynt. Braidd na saif y Gymdeithasfa hon ar ei phen ei hun yn hanes y byd. Mewn difrif, edrycher arni, yn cael ei gwneyd i fynnu o chwech o ddynion ieuainc, pob un dan ddeg-ar-hugain oed, wedi ymgynnull mewn capel bychan ar lechwedd y mynydd, i drefnu mesurau i ddwyn Prydain at Grist! Nid gwallgof ydynt; ac nid wynebu ar anturiaeth, heb ymdeimlo a'i hanhawsderau, y maent ychwaith. Y maent yn ofnadwy o ddifrifol, eu calonnau sydd yn berwi ynddynt gan gariad at yr Iesu, a zêl am achub eneidiau; y mae amryw o honynt yn barod yn adnabyddus trwy Loegr a Chymru fel pregethwyr digyffelyb, y rhai gyda hyawdledd wedi ei ieuo gydag efengyl bur, a fedrant dynnu miloedd i'w gwrando, a'u cadw am oriau wyneb yn wyneb a sylweddau tragywyddoldeb. Edrychir arnynt gan gannoedd fel eu tadau yn Nghrist, a cherir hwy mor angerddol gan lawer, fel y tynnent eu llygaid o'u pennau iddynt. O'u cwmpas, yn y capel diaddurn, y mae degau a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu hofferynoliaeth, ac mewn canlyniad a ddechreuasent gynghori pechaduriaid; ond yn awr ydynt yn disgwyl yn bryderus am gael rhyw gyfran benodol yn y gwaith ysprydol wedi ei gyflwyno iddynt. Cyfarfod hanesyddol oedd y cynulliad; teimlir ei ddylanwad hyd y dydd hwn; a diau y bydd ei hanes yn felus hyd byth gan bawb ag y mae lles ysprydol Cymru yn agos at eu calonnau.

Gwaith cyntaf y cyfarfod oedd arholi y cynghorwyr cyhoedd, sef y rhai a arferent deithio o gwmpas i bregethu, dan nawdd y Diwygwyr. Ei henwau oeddynt Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, a Thomas Lewis. Deuant oll dan ein sylw eto. Profwyd hwy a chwestiynau celyd, a hynny nid yn unig gyda golwg ar eangder eu gwybodaeth, a'u huniongrededd, ond hefyd gyda golwg ar waith gras ar eu calonau, eu cymhellion i'r gwaith, a'r doniau a feddent fel cymhwysder ar ei gyfer. Gwedi bod yn ymddiddan a hwy yn y capel hyd saith, ymneillduwyd i balas Watford, ac yr oedd yn agos i un o'r gloch y boreu pan eu derbyniwyd yn aelodau o'r Gymdeithasfa. Whitefield a John Cennick a gymerent y rhan fwyaf blaenllaw yn yr ymddiddan. A ddarfu i Howell Harris gael briw am na chafodd ei osod yn y gadair, ac am fod y ddau Sais yn cael lle mwy amlwg nag efe? Yr ydym, oddiwrth rai dywediadau yn ei ddyddlyfr, yn tybio iddo gael. Cawn ef yn achwyn ar yr ymosodiadau a wnelai hunan arno: "Bydded i mi geisio bod yn ddim," meddai; "myfi yw y gwaelaf, y balchaf, y dallaf, a'r gwaethaf o bawb," meddai drachefn; dywed ei fod yn ofni agor ei enau, fod yn dda ganddo mai i ran Whitefield y syrthiodd y gwaith, yr ymawyddai am fod yn guddiedig a chael ei anghofio; ond fod prudd-der dirfawr wedi ymdaenu drosto. Ymddengys hyn fel pe bai yn ymladd yn erbyn rhyw siomiant a gawsai yn y cyfarfod. Paham lai? Dyn a gwendid ynddo oedd yntau. Ond cafodd fuddugoliaeth ar y teimlad anfoddog yn fuan, a thyr allan i weddïo dros Whitefield, yr offeiriaid, a'r cynghorwyr. Daeth y pwnc o fyned dros y môr i'w flino drachefn; dywed nad oedd wedi cael amlygiad clir o feddwl yr Arglwydd ar y mater; ond daeth i hyn: "Os wyf i fyned, yr wyf yn ddedwydd; os nad wyf i fyned, yr wyf yn ddedwydd; ond bydded i mi gael gras i ogoneddu Duw."

Boreu dydd Iau, am wyth, pregethodd Daniel Rowland, oddiar Rhuf. viii. i: "Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu;" yr oedd yn odfa nerthol. Dangosodd natur cyfiawnder Crist, a'r perygl i'r athrawiaeth am gyfiawnhad heb weithredoedd gael ei chamddeall a'i chamddefnyddio. Dangosodd yn mhellach nodau y rhai a gawsent eu cyfiawnhau trwy ras, nad ydynt yn byw mewn pechod, nac yn cael pleser ynddo; ac eglurodd nodwedd y rhai sydd yn rhodio yn ôl yr Yspryd. Cafodd y bregeth ddylanwad dwfn, yn enwedig ar y pregethwyr; teimlai Howell Harris ei fod ef yn caru yr Yspryd Glan yn arbennig, a dywedai James Beaumont ei fod ef wedi cael cariad newydd at y Tri Pherson. Ymffurfiodd y Gymdeithasfa drachefn am un-ar-ddeg. Prif waith y cyfarfod oedd arholi y cynghorwyr anghyoedd, yr hyn orchwyl a ymddiriedwyd yn bennaf i Howell Harris. Cafodd nerth rhyfedd gyda hyn. Dywed fod ei sylwadau yn cyrhaedd i'r byw; iddo gyfeirio at y farn, a thragywyddoldeb, a'r gyfraith, nes yr oedd dychryn yn ymdaenu dros bawb; "yr oedd yn lle ofnadwy," meddai. Gwasgodd arnynt, os oeddynt yn teimlo ddarfod i'r Yspryd Glan ymddiried gofal yr ŵyn iddynt, y rhaid iddynt gael eu llenwi a gofal tad, tynerwch mam, a chydymdeimlad brodyr; fod arnynt eisiau yr Iesu yn yr oll o'i enwau, brenin, offeiriad,