Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/228

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
  • Richard Jones, a John Deer, Aberthyn, Llanilltyd, ac Aberddawen.
  • Charles Powell, Glasbury a Bronllys.
  • John Jones, Cwmdu a Grwynefechan.
  • Morgan John, Palleg, Creunant, Llanddeusant, a Cwmaman.
  • Cymeradwywyd Wm. Harry, a John Richards.
  • Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr, oblegyd eu clauarineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb.
  • Cydunwyd na fyddai i'r un cynghorwr gael ei dderbyn i'n mysg ond y sawl a fyddai wedi ei gymeradwyo; ac nad oedd neb i fyned dros ei derfynau gosodedig heb gael ymgynghoriad a chyfarwyddyd yn gyntaf.
  • Cydunwyd fod i bob cynghorwr anghyoedd ddwyn adroddiad am y cymdeithasau sydd dan ei ofal, ynghyd a phwy a fydd wedi cael eu derbyn i aelodaeth, i'r Gymdeithasfa, yr hon sydd i gael ei chynnal y Mercher cyntaf gwedi y 25ain o Fawrth, 1743.

"Gwelodd yr Arglwydd yn dda fod yn mysg y brodyr, ac, yn ôl pob ymddangosiad, i lewyrchu ei wyneb ar eu hymgynghoriad. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw."

Gwelir fod yspryd yr ysgrifennydd, yr hwn nid oedd yn neb amgen na Howell Harris, wedi gwresogi o'i fewn wrth groniclo y cofnodion; y mae ei draed ar yr uchelfannau; ac ymdora ei deimlad brwdfrydig allan mewn moliant i'r Arglwydd, yr hwn a'u harweiniasai yn eu holl ymgynghoriadau. Y mae amryw bethau yn y cofnodion sydd yn galw am sylw. Gwelwn fod Watford yn cael ei wneyd yn fath o ganolbwynt i'r symudiad. Ai sefyllfa gyfleus y lle, fel man canolog rhwng Cymru a Lloegr, oedd y rheswm am hynny, ynte cymhwysder Thomas Price, perchennog a phreswylydd palas Watford, at y gorchwylion y rhaid eu cyflawni mewn lle o'r fath, nis gwyddom. Y mae y penderfyniad yn annog y rhai oeddynt yn betrusgar gyda golwg ar pa le y derbynient y cymundeb, i barhau i wneyd hynny yn yr Eglwys Wladol, wedi cael ei feirniadu yn llym. Meddai y Parch. T. Rees, D.D:[1] "Y mae y penderfyniad yn arddangos ymlyniad dull arweinwyr cyntaf y Methodistiaid wrth yr Eglwys Sefydledig, pan yr anogent eu canlynwyr i gymuno yn yr eglwysydd plwyfol gydag offeiriaid annuwiol, yn hytrach na chyda yr Ymneillduwyr clauar, pa mor dduwiol bynnag y gallent fod." Fod yr arweinwyr Methodistaidd, yn arbennig Howell Harris, yn dwyn mawr zêl dros yr Eglwys Sefydledig, sydd sicr; fel Eglwyswyr yr edrychent arnynt eu hunain; ac nid oeddynt am adael ei chymundeb, oni orfodid hwynt. Ond efallai nad oedd eu hymlyniad mor ddall ag y myn Dr. Rees. Gellir dwyn y rhesymau canlynol dros y penderfyniad y daethent iddo: (i) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddent hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyny gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymneillduwyr i adael yr enwad i ba un y perthynent. (2) Yr oedd yr oerni a'r clauarineb ysprydol oedd wedi meddiannu llawer o'r eglwysi Ymneillduol yr adeg hon, yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd yn mryd y Tadau Methodistaidd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyd-drigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo gan gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac mewn aml i fan yr oedd yr oerni yn gynnyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr iawn a roddodd. Yn yr Eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad a weinyddai fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored iddynt i adael cymundeb yr Eglwys," yr oedd yr anogaeth. Felly y dywed y penderfyniad. Ymddangosai yr adeg yn ymyl iddynt ar y pryd; yr oedd gwaith rhai o'r offeiriaid yn gwrthod y sacrament i'w canlynwyr fel yn dwyn pethau i argyfwng; ac os y dymunent i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu gweinidogaeth barhau ynghyd, heb fod rhai yn ymuno a'r blaid yma, a'r lleill a'r blaid arall, pwy a fedr eu beio? (4) Yr oedd yspryd diflas, ac, i raddau, erledigaethus, at y Methodistiaid, fel yr ydym wedi sylwi yn barod, wedi cael lle erbyn hyn yn mynwesau llawer o'r gweinidogion Ymneillduol, ac yn eu heglwysi. Mewn rhai

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales.