Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/230

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymsefydlu yn agos i Gastellnedd, ac i arolygu bob yn ail wythnos y seiadau yn Creunant, Hafod, Castellnedd, Palleg, Cwmamman, Llandilo Fach, Llangyfelach, Llansamlet, Llanddeusant, Blaen Llywel, Casllwchwr, Llanon, Pembre, a Defynog, gyda y brawd John Richard; a'u bod i gael eu cynorthwyo gan y brawd Jeffrey Dafydd yn Llanddeusant, John Powell yn Defynog, Jenkin John yn Llywel, Edward Meyrick yn Pembre, a George Phillips yn Nghastellnedd a'r Hafod.

  • Fod y brawd Richard William Dafydd i arolygu y seiadau yn Llandyfaelog, Cilgarw, Llanddarog, a Chaerfyrddin.
  • Fod y brawd John Rees i gynghori dan ofal y parchedig frawd William Williams.
  • Fod y brawd William Richard i arolygu y seiadau canlynol: Blaenheinaf (Blaenhoffnant), Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, Llechryd, a Lhmfair-y-llwyn.
  • Fod y brawd William Harry i gadw ysgol yn Sir Gaernarfon, ac i gynghori yn y gymydogaeth, hyd byth ag y medr, rhwng oriau yr ysgol.
  • Fod y brawd William John, Llanwrda, a'r brawd Dafydd, i gynorthwyo y brawd James Williams yn seiadau Llanwrda, Llansadwrn, Cilgarw, a Talley.
  • Fod y brawd Richard Tibbot i gadw ysgol yn Sir Benfro.
  • Fod y brawd John Dafydd i lefaru ar brawf o flaen y brodyr yn seiadau Llandyfaelog, a Chilgarw, hyd nes cawn farn y brodyr."

Dyma gofnodau Cyfarfod Misol cyntaf Sir Gaerfyrddin. Gwelir mor debyg oedd ei waith a'i arddull i eiddo Cyfarfod Misol yr amser presennol. Awgryma y cofnodau amryw gwestiynau dyddorol, nad oes gennym hamdden i sylwi arnynt; ond rhaid i ni ddifynu rhan o ddyddlyfr Howell Harris gyda golwg ar y cyfarfod. Fel hyn yr ysgrifenna: "Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant. Ar y ffordd yno yr oeddwn yn sych, a marw, a difater; ond yn y man, trwy gredu fod Duw wedi fy ngharu fel yr ydwyf, yn galed ac yn ddifater, dechreuodd cariad gynhesu yn fy enaid, a gollyngwyd fi yn rhydd. Gwelaf fod Duw yn fy ngharu yn fy mhechod, heb yr un rheswm am hynny, ond am mai felly y rhynga bodd yn ei olwg. Teimlais ynof fod Duw yn myned i wneyd rhyw bethau mawrion ynof fi, neu i mi, neu drwof fi, neu erof fi. Am y rhan fwyaf o'r ffordd yr oedd fy nghalon yn llosgi ynof fel pentewyn o'r tan. Daethum i'r lle gwedi deuddeg, ac yno yr eisteddasom yn penderfynu materion y seiadau hyd yn agos i saith, ac mewn gweddi. Dygodd yr Arglwydd fi y tu fewn i'r llen, a chadwodd fi yno yn hyfryd, am y rhan fwyaf o'r amser. Myfi yw y gwaelaf o honynt oll, ond yr hyn a ofnais a fuasai yn faich i mi a wnaed yn hawdd ac yn felus. Cytunasom oll. Yn sicr yr oedd yr Arglwydd yno. Ond wrth ganu yr hymnau diweddaf, cyneuwyd ynom y fath fflam fel na allem ymadael; yn sicr tosturiodd yr Iesu wrthym; ac er fy mod (yn flaenorol) yn ddifater, cyneuwyd ynof y fath gariad at y brodyr, fel yr oeddwn fel gwreichionen o dan mewn fflam. A phan y gwelais fod un o'r brodyr i fyned i Ogledd Cymru, darfu i fy enaid yn wir fendithio Duw am hynny. Wrth ganfod fod y nerth oll, fel pe bai, gyda y brawd Rowland, teimlais fy enaid yn ddiolchgar ynof; yr oeddwn yn foddlon cael fy yspeilio o'm nerth a'm doniau er mwyn iddo ef gael yr oll; llawenychais a bendithiais Dduw yn wir wrth ei weled ef mor llawn o Dduw. O, fel y gwresogem ynghyd! Gwedi eistedd a threfnu ein holl amgylchiadau, gwrandewais ar un o'r brodyr yn cynghori hyd nes oedd wedi naw. O'r fath bethau y mae yr Arglwydd yn myned i'w cyflawni ar y ddaear, yn neillduol erof ac ynof fi! O'r fath newyddion a glywais o Sir Aberteifi, y fath dywalltiadau o'r Yspryd sydd yno, y fath fflamiau o gariad! Fflamiai fy nghalon, a llosgai ynof fel pentewyn glo, wrth ganfod fel y mae Duw yn rhoddi gallu, a zêl, a goleuni i'r brodyr." Gwelir ddarfod i'r Cyfarfod Misol cyntaf derfynu mewn moliant; fod y brodyr yno oll yn gytûn ac yn cydweled; fod doniau ardderchog Rowland yn rhoddi iddo y flaenoriaeth ar bawb yn ngolwg Howell Harris, a'i fod yntau yn gallu bendithio Duw y nefoedd o herwydd y gras a arddangosid ynddo.

Yn nghofnodau Trefecca rhoddir hanes cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhrefecca, Chwefror 7, 1743, sef yn mhen pedwar diwrnod gwedi Cyfarfod Misol Llanddeusant. Dibwys oedd y penderfyniadau a basiwyd, ac yr oedd y rhai hyny i gael eu cyflwyno i ystyriaeth bellach y Gymdeithasfa. Y tebygolrwydd yw nad oedd yn Gyfarfod Misol rheolaidd, a gwelwn oddiwrth ddydd-lyfr Howell Harris nad oedd efe yn bresennol. Cynhaliwyd cyfarfod yn Tyfyn, neu Tyddyn, Sir Drefaldwyn, Chwefror 17, pan y penderfynwyd fod y brodyr Morgan