Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/231

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes, Benj. Cadman, a Lewis Evan i gymeryd gofal y seiadau yn Tyddyn, Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan, Bwlchyrhwyaid, a Mochdre, gyda Thomas Bowen fel goruchwyliwr neu genhadwr. Yr oedd Howell Harris yn hwn; eithr y mae yn amheus a oedd yn gyfarfod rheolaidd; y tebygolrwydd yw mai cymeryd mantais ar bresenoldeb y Diwygiwr o Drefecca a wnaed i ymgynghori ar ychydig bethau. Rhaid mai byr hefyd fu yr ymgynghoriad, oblegyd dywed Harris yn ei ddyddlyfr iddo fod yn ysgrifennu hyd o gwmpas deg, ac y mae yn pregethu yn Nhrefeglwys, pellder o ryw saith milldir, o gwmpas deuddeg. Tebyg mai gwedi yr odfa y nos flaenorol y bu yr ymgynghoriad.

Yn ganlynol, cawn gyfarfod yn Llanwrtyd, na roddir ei ddyddiad, pan y gosodwyd yr holl gynghorwyr yn y rhan honno tan ofal y Parch. W. Williams, oedd ar y pryd yn guwrad yn Llanwrtyd.

Mawrth i, 1743, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol dra phwysig yn Glanyrafonddu, Sir Gaerfyrddin, yn mha un y gwnaed cryn nifer o drefniadau, ac y cydunwyd ar nifer o gynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa Chwarterol oedd i gael ei chynnal yn Watford. Yn mysg pethau eraill penderfynwyd: "Fod y brawd David Williams, Llangyndeyrn, i gynghori yn unig gerbron y brodyr, yn y cymdeithasau preifat agosaf, hyd nes y byddo wedi cael tystiolaeth oddiwrthynt, a'i fod i ddyfod i'n Cymdeithasfa nesaf i gael ei holi.

Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi, am ein bod yn argyhoeddedig nad ydynt wedi cael eu hanfon gan Dduw: James Tomllins; Richard Thomas, Ystradfellte; John Watkins, Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.

Fod y brawd John Richard, Llansamlet, i gymeryd gofal, ac i gynghori yn seiadau Cefnfedw, Blaencrai, Llanddeusant, Cwmaman, Llanon, Pembre, Casllwchwr, Llandafen, Llandremor, Llangyfelach, Llansamlet, Castellnedd, Hafod, Creunant, a Talley; ei fod i ymweled a hwy unwaith bob pythefnos, un bob dydd, ac i gael ei gynorthwyo gan John Jones, Cayo, yr hwn sydd i ymweled a hwy unwaith yn y mis, gan fyned o gwmpas un wythnos, a gweithio yr wythnos arall

Fod y brawd William Harry i gadw ysgol yn Sir Gaernarfon; a'r brawd Richard Tibbott i gadw ysgol yn Sir Benfro.

Fod y brawd John David, o Landyfaelog, i lefaru yn seiadau Llandyfaelog a Chilgarw, ar brawf, gerbron y brodyr, hyd y Gymdeithasfa nesaf, pan y disgwylir barn y brodyr o berthynas iddo.

Fod Hopkin John, Llangyfeiach; John Meyrick, Llandafen; a John Jones, Llandyfalle, y rhai na ddaethant hyd yn hyn i'n Cymdeithasfa i gael eu holi, i aros yn y lleoedd a benodwyd iddynt fel y maent wedi eu sefydlu, ar yr amod eu bod yn dyfod y tro nesaf, os bydd hynny yn gyfleus iddynt."

Yr ydym yn rhoddi lle i'r cofnodau hyn, oblegyd eu bod yn ddangoseg o'r modd y gweithredai y Methodistiaid yn eu Cymdeithasfaoedd, a'u Cyfarfodydd Misol cyntaf; mor fanwl oeddynt yn eu trefniadau, ac mor ddidderbyn wyneb a chydwybodol. Am lawer o'r cynghorwyr y cyfeirir atynt, y mae pob peth perthynol iddynt ond eu henwau wedi myned yn angof; nid oes efallai gymaint a thraddodiad o barthed iddynt ar gael yn yr ardaloedd lle y preswylient; nid oes adswn o'u hanes wedi cyrhaedd i lawr i'n hoes ni; ac eto, y mae yn sicr fod rhai o honynt yn ddynion o ddefnyddioldeb mawr, os mewn cylchoedd cymharol gyfyng; eu bod yn llawn zêl ac ymroddiad, ac nid oes ond y dydd hwnnw a ddengys faint yr aberth a wnaethant dros yr Arglwydd Iesu, a pha mor ddyledus yw y cyfundeb Methodistaidd hyd yn nod y dydd hwn i'w llafur cariad.

Pasiwyd hefyd y penderfyniadau dilynol fel cynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa: "Fod y Gymdeithasfa Gyffredinol o weinidogion a chynghorwyr, sydd yn unedig yn Lloegr a Chymru, i gyfarfod yn unig bob hanner blwyddyn, oblegyd y pellder mawr. Fod y brodyr Saesnig i gyfarfod unwaith cydrhwng, felly hefyd y brodyr Cymreig, rywle tua chanol y Deheudir, fel y penderfynir; ond eu bod i ymohebu yn fisol trwy lythyrau. Fod cynifer ag a fedr o'r gweinidogion, a'r cynghorwyr cyhoedd, i gyfarfod unwaith y mis, neu ddwywaith rhwng pob Cymdeithasfa Chwarterol, neu i anfon eu llythyrau. Fod gofal cyffredinol yr holl achos i gael ei gyflwyno i'r gweinidogion ordeiniedig, sef meistri Whitefield, Rowland, Howell Davies, John Powell, Thomas Lewis, a William Williams; ac fel ymwelwyr cyffredinol, neu gynorthwywyr, dan y chwech gweinidog hyn, fod y chwech canlynol i gael eu hapwyntio, sef Meistri John Cennick, Thomas Adams, a Joseph Humphreys, yn Lloegr; a Meistri Howell