Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/232

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harris, James Beaumont, a Herbert Jenkins, yn Nghymru; eu bod i gael fel cynorthwywyr, er mwyn arolygiaeth fanylach, y chwech cynghorwr anghyoedd a ganlyn, pob un o honynt i gael cylch a gofal neillduol, sef John Richard, William Richard, John Harris, Thomas James, John Jones, a Morgan John (Morgan John Lewis, yn ddiau), deuddeg cymdeithas yr un, neu lai, iddynt; a Morgan Hughes, James Williams, Milbourn Bloom, Thomas Lewis, Thomas Williams, Richard William David, chwech cymdeithas yr un. Yn gyflawn, 6 gweinidog urddedig, 6 i'w cynorthwyo; 6 cynghorwr dros ddeuddeg o seiadau, a 6 dros chwech o seiadau. Fod yr holl gynghorwyr anghyoedd eraill i roddi cyfrif am yr un neu ddwy gymdeithas sydd o dan eu gofal i'r ymwelydd cyffredinol a fyddo wedi ei osod drostynt; fel y byddo adroddiad, yn bersonol neu trwy lythyr, yn cael ei dderbyn yn mhob Cyfarfod Misol. Pan fyddo un yn cynyg ei hun fel cynghorwr, ei fod i gynghori yn mlaenaf yn y cymdeithasau preifat; ac yn gyntaf i dderbyn cymeradwyaeth rhyw Gristion, neu Gristionogion difrifol a phrofiadol, a'i clywsant ef yn aml; yn ail, barn tri neu bedwar o'r cynghorwyr anghyoedd a chyhoedd, a'r gweinidogion ordeiniedig; ac yn drydydd, ei fod i gael ei arholi parthed ei ras, galwad, cymhwysderau, doniau, ac athrawiaeth. Mewn trefn i ofalu am y tlawd a'r afiach, ac am yr arian a gesglir, ac i fod yn gennad y gymdeithas, ac yn dangnefedd-wneuthurwr; fod goruchwyliwr neu ddau i gael eu dewis yn mhob seiat. Mewn cysylltiad a'r 6 cynghorwr y cyfeiriwyd atynt, sef John Cennick, Howell Harris, &c., y rhai ydynt i fod yn gynorthwywyr y gweinidogion ordeiniedig, eu bod heb unrhyw derfynau gosodedig gyda golwg ar leoedd, ond i fyned o gwmpas fel y byddo galwad, eithr Howell Harris gan mwyaf yn Nghymru; a'r 12 cynghorwr arall y cyfeiriwyd atynt i gael terfynau penodol, y rhai y gellir eu newid trwy ymgynghoriad a'r gymdeithas."

Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa Chwarterol yn Watford, Ebrill 6ed a'r 7fed, 1743. Yr oedd yn bresennol o weinidogion ordeiniedig, Meistri Whitefield, William Williams, a Thomas Lewis, yn nghyd a Henry Davies, Ymneillduwr. O'r arolygwyr, yr oedd yn bresennol Meistri Harris, Herbert Jenkins, Thomas James, James Beaumont, Morgan Hughes, Morgan John Lewis, Thomas Williams, a Thomas Adams. Dewiswyd Mr. Whitefield yn llywydd, yr hwn a agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau: "Ac Enoch a rodiodd gyda Duw." Ymddengys iddo gael cymorth anarferol. Ysgrifena Whitefield yn ei ddyddlyfr: "Dydd Mercher, ar hanner dydd, agorais y Gymdeithasfa, gydag anerchiad difrifol ac agos, ar rodio gyda Duw. Teimlai y brodyr a'r bobl lawer o'r presenoldeb dwyfol. Gwedi hynny aethom at y trefniadau. Penderfynwyd amryw faterion o bwysigrwydd mawr. Torasom i fynnu o gwmpas saith; cyfarfyddasom drachefn am ddeg, a pharhasom yn penderfynu pethau perthynol i'r seiadau hyd ddau o'r gloch y boreu, Dydd Iau, eisteddasom drachefn hyd bedwar yn y prydnhawn. Yna, wedi cymeryd lluniaeth, pregethais ar orphwysdra y credadyn; gwedi hynny aethom yn y blaen gyda'r trefniadau, gan orphen y Gymdeithasfa o gwmpas haner nos."

Y mae pregeth agoriadol Whitefield ar gael, a diau ei bod yn un o'i oreuon. Temtir ni i ddifynu rhannau o honni: "Ni symudir y pechod preswyliedig yn hollol," meddai, "hyd nes y byddom yn crymu ein pen, ac yn rhoddi i fynnu yr yspryd, Llefara yr Apostol Paul am dano ei hun yn ddiau, a hynny nid pan oedd yn Pharisead, ond yn Gristion gwirioneddol, pan yr achwyna fod y drwg yn bresennol gydag ef, pan yr ewyllysiai wneuthur da; yn bresennol gydag ef, nid yn meddu llywodraeth arno, ond yn gwrthwynebu ac yn rhwystro ei fwriadau a'i actau daionus, fel na fedrai gyflawni yr hyn a ewyllysiai i'r perffeithrwydd ag y dymunai y dyn newydd. Dyma a eilw yn bechod yn preswylio ynddo. Ond am allu llywodraethol pechod, y mae yn cael ei ddinystrio yn mhob enaid sydd wedi ei eni yn wirioneddol o Dduw; a gwanheir ef yn raddol fel y byddo y credadyn yn cynyddu mewn gras, ac fel y byddo Yspryd Duw yn cael goruchafiaeth fwyfwy yn ei galon." Meddai drachefn: " Gweddi! gweddi! gweddi! Y mae yn dwyn Duw a dyn at eu gilydd, ac yn eu cadw ynghyd; y mae yn dyrchafu dyn at Dduw, ac yn tynnu Duw i lawr at ddyn. Os dymunech rodio gyda Duw, gweddïwch; gweddïwch yn ddi-baid. Byddwch yn aml mewn gweddi ddirgel. Pan gyda gorchwylion cyffredin bywyd arferwch saeth-weddïau yn barhaus. Anfonwch, o bryd i bryd, lythyrau byrion i'r nefoedd, ar adenydd ffydd. Cyrhaeddant