Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/233

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd galon Duw, a dychwelant yn llwythog o fendithion." Gyda chyfeiriad at yr hyn y cyhuddid ef yn fynych o honno, sylwa gyda medr mawr: "Er mai hanfod penboethni yw honni ein bod yn cael ein harwain gan yr Yspryd heb y Gair ysgrifenedig; eto dyledswydd pob Cristion yw cymeryd ei arwain gan yr Yspryd mewn undeb a'r Gair ysgrifenedig. Yr wyf yn dymuno arnoch, gan hynny, O gredinwyr, ar i chwi wylio symudiadau Yspryd y Duw bendigedig yn eich calonnau; a phrofwch eich syniadau a'ch cymhellion wrth Air di-feth a sanctaidd Duw. Trwy arfer y rhagocheliad hwn, chwi a hwyliwch yn ddyogel yn y canol rhwng dau eithaf peryglus, sef penboethni ar y naill law, a Deistiaeth ac anffyddiaeth ronc ar y llaw arall. Terfyna mewn diweddglo hyawdl: "Un gair," meddai, "un gair wrth fy mrodyr yn y weinidogaeth, ac yna byddaf wedi gorphen. Chwi a welwch, fy mrodyr, fod fy nghalon yn llawn; braidd na allwn ddweyd ei bod yn rhy lawn i lefaru, ac eto yn rhy lawn i fod yn ddystaw, heb ddyferu gair i chwi. Sylwais ar ddechreu yr anerchiad fod Enoch, yn ôl pob tebyg, yn ddyn cyhoeddus, ac yn bregethwr tanllyd. Er ei fod wedi marw, y mae yn llefaru eto wrthym ni, i fywiocau ein zêl, ac i'n gwneyd yn fwy ymdrechgar yn ngwasanaeth ein Meistr gogoneddus a bendigedig. Sut y pregethodd Enoch? Pa fodd y rhodiodd gyda Duw? Bydded i ni ei ddilyn, fel yr oedd efe yn ddilynwr Crist. Y mae y barnwr wrth y drws. Yr hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. Y mae ei wobr gydag ef; ac os byddwn ni yn zêlog dros Arglwydd y lluoedd, cawn heb fod yn hir lewyrchu fel y sêr yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad byth bythoedd."

Felly y pregethai Whitefìeld gerbron y Gymdeithasfa yn Watford, ac nid rhyfedd fod y frawdoliaeth yn toddi dan ddylanwad ei ymadroddion. Daw ei ddoniau godidog i'r golwg yn amlwg yn y difyniadau byrion hyn. Y mae yspryd y peth byw i'w deimlo ynddynt. Er fod ei bresenoldeb yn absennol, ac nas gallwn glywed acenion ei lais, y llais melus a allai wladeiddio cynulleidfa a'i llwyr goncro, meddir, trwy yn unig floeddio y gair "Mesopotamia;" eto, canfyddwn ynddynt yn amlwg nodweddion y gwir areithiwr. Y mae mor amlwg a hynny nad mewn llais a thraddodiad yn unig y gorweddai cuddiad ei nerth, ond ei fod yn dduwinydd gwych. ac yn fanwl ac yn athronyddol yn nghyfansoddiad ei bregeth.

A ganlyn yw prif benderfyniadau y Gymdeithasfa: "Fod y Parch. Mr. Williams i adael ei guwradiaeth, ac i fod yn gynorthwywr i'r Parch. Mr. Rowland. Fod y brawd Howell Harris i fod yn arolygydd dros Gymru, ac i fyned i Loegr pan elwir am dano. Fod y brawd Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i Mr. Harris, ac hefyd i'r brodyr Saesonig. Fod y brawd James Beaumont i gymeryd arolygiaeth Sir Faesyfed, a Sir Henffordd, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John Williams, John Jones, William Evans, David Price, ac hefyd gan Richard Lewis, os cymeradwyir ef gan y Gymdeithasfa Fisol. Fod y brawd Morgan Hughes, os teimla ryddid i hynny, i arolygu Sir Drefaldwyn, gan gael ei gynorthwyo gan y brodyr Lewis Evan, Benjamin Cadman, a Thomas Bowen (dalier sylw: gwedi hir brawf newidiwyd hyn, a gosodwyd Richard Tibbott yn ei le). Fod y brawd Thomas James i arolygu rhan o Frycheiniog, hyd yr afon Wysg, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr T. Bowen, Ed. Bowen, T. Bowen, Buallt, Jos. Saunders, John Williams, Tregunter, W Williams, Jenkin Jenkins, David Rees, a Rees Morgan. Fod y brawd Morgan John Lewis i arolygu cymdeithasau Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a Llywel, oll yn Mrycheiniog; Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin; a Mynwy, yr ochr arall i'r Wysg; ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John Jones, John Powell, Richard Thomas, John Belsher, Evan Thomas, Stephen Jones, Jeffrey David, a Jenkin John. Fod y brawd Thomas Lewis i arolygu y cymdeithasau rhwng y Passage a'r afon Wysg, i gynorthwyo y brodyr Seisonig, pan elwir am dano, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Geo. Cross. Fod y brawd Thomas Williams i arolygu Morganwg mor bell a Llantrisant, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr E. Evans, W. Powell, T. Price, W. Edward, T. Lewis, R. Jones, J. Yeoman, a H. Griffith. Fod y brawd John Harris i arolygu Sir Benfro, ei gynorthwywyr i gael eu penderfynu yn Nghymdeithasfa Fisol nesaf y sir. Fod y brawd Milbourn Bloom i arolygu Sir Gaerfyrddin hyd Gastellnedd, ac i gael ei gynorthwyo gan Jno. Richards, ac eraill. Fod y brawd James Williams i arolygu y rhan arall o Sir Gaerfyrddin, ac i gael ei gynorthwyo gan nifer o frodyr. Fod y