Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/234

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brawd David Williams i arolygu Sir Aberteifi." Tebygol mai David Williams, Aberthyn, gwedi hyn, oedd y brawd diweddaf.

Heblaw y trefniadau hyn, rhai a ddynodant wyliadwriaeth ddyfal dros yr holl gymdeithasau, pasiwyd, yn mysg eraill, y penderfyniadau canlynol: " Fod yr arolygwyr i gael rhyddid i bregethu ar eu teithiau, os gelwir arnynt, ac os tybiant yn eu calonnau y byddai i'r brodyr yn y Gymdeithasfa, pe yn gydnabyddus a'u hamgylchiadau, ganiatáu iddynt; nad yw y brodyr yn credu yn eu calonnau fod y brawd James Tomkins wedi cael ei alw gan Dduw i fod yn bregethwr, ac y maent yn penderfynu peidio ei gefnogi, a pheidio ei wahardd, ond ei adael i'r Yspryd. Fod pawb sydd yn tybio eu bod wedi cael eu galw i gynghori i wneyd apêl i un o'r Cymdeithasfaoedd Misol, gan yr hon y gwneir ymchwiliad manwl i'w doniau, eu gras, a'u galwad; os cymeradwyir hwynt, y maent i gael maes penodedig, fel y gwêl y Gymdeithasfa yn briodol; ac y mae y cyfryw gymeradwyaeth i gael ei ddwyn i'r Gymdeithasfa Gyffredinol, ac i gael ei gymeradwyo yno. Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am waith Duw yn eu meusydd neillduol i Lundain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i gyfeirio eu llythyrau at weinidog y Tabernacl, i ofal Mr. John Sims. Fod pob arolygwr i feddu llyfr, yn mha un yr ysgrifenna enwau ei holl gynghorwyr anghyoedd, ac enwau pob aelod perthynol i'r seiadau preifat, gan eu rhannu i ddynion priod, gwragedd priod, dynion sengl, benywod sengl, ac hefyd i ddwyn adroddiad am ystâd pob seiat i'r Gymdeithasfa Gyffredinol. Fod ysgrifennydd i gael ei benodi i bob Cyfarfod Misol, yr hwn a gofnoda y gweithrediadau mewn llyfr. Fod Cymdeithasfaoedd Misol i gael eu cynnal yn y lleoedd a ganlyn: Maesyfed a Threfaldwyn, gyda y Parch. W. Williams yn gymedrolwr; Siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, gyda Mr. Rowland yn gymedrolwr; Brycheiniog, gyda Thomas Lewis; Penfro, gyda Mr. Howell Davies; Morganwg a Mynwy, gyda Mr. John Powell. Fod pob Cymdeithasfa Fisol i gynnwys gweinidog ordeiniedig, os yn bosibl, fel cymedrolwr; arolygydd y rhandir, yn nghyd a'i gynorthwywyr; yn absenoldeb gweinidog ordeiniedig, yr arolygydd i fod yn gymedrolwr. Fod pob Cymdeithasfa i gael ei dechreu trwy weddi, a'i therfynu trwy weddi a chyngor, a bod yr holl arolygyddion i fod yn bresennol, heb eithrio y cynghorwyr anghyoedd, os hoffant ddyfod. Fod y Parch. Mr. Whitefield i ddewis y brawd Howell Harris i fod yn gymedrolwr yn ei absenoldeb."

Cofnodir yn mhellach ddarfod i'r Gymdeithasfa gael ei chario yn mlaen gyda llawer o undeb a chariad, ac i'r brodyr ymadael a'u gilydd gan fendithio Duw am yr hyn a wnaeth, a chan ddisgwyl pethau mwy yn y dyfodol. Ysgrifena Whitefield mewn llythyr ddarfod iddo ef gael ei ddewis yn gymedrolwr parhaus, os byddai yn Lloegr. Ni cheir hynny, mewn geiriau pendant, yn y cofnodau; ac eto cynhwysir ef, o ran ystyr, yn y penderfyniad fod Whitefield, os yn absennol, i benodi Howell Harris i gymeryd ei le. Edrycha Tyerman ar y penderfyniad hwn fel yn gosod Whitefield yn llywydd ar holl Fethodistiaid Cymru, a dywed fod sedd yr awdurdod yn cael ei symud o'r Dywysogaeth, ac yn cael ei gosod yn Llundain. Yr ydym yn amheus a olygai y Gymdeithasfa hynny yn hollol; ac eto, pan gofiwn fod y nifer amlaf o'r aelodau yn bleidiol i ffurflywodraeth esgobol, y mae yn ddiau y bwriadent gyflwyno gyda'r gadair ryw gymaint o awdurdod rhwng y Cymdeithasfaoedd.

Daethai Whitefield i lawr i Gymru y tro yma gyda'r bwriad, nid yn unig o gymeryd rhan yn ngweithrediadau Cymdeithasfa Watford, ond hefyd er cymeryd taith trwy rannau o'r Deheudir, a pha rai nad oedd wedi ymweled yn flaenorol. Yr oedd i'r daith amcan deublyg, sef pregethu yr efengyl am y deyrnas, hoff waith y gweinidog poblogaidd hwn; ac hefyd dwyn yr holl gymdeithasau crefyddol, a'r cynghorwyr perthynol iddynt, i syrthio i mewn a threfniadau y Gymdeithasfa, ac felly ffurfio yn corph cyfansawdd a chryf. Yn anffodus, nid yw holl ddyddlyfr Howell Harris ar gael; ond anfonodd Whitefield adroddiad dyddorol, a chymharol fanwl, o'r daith i Lundain, i'w gyhoeddi yn y WeeMy History. Ysgrifena y llythyr cyntaf o Watford, Ebrill 7, 1843. Gwedi rhoddi hanes y Gymdeithasfa, dywed: "Nis gallaf ddweyd wrthych y fath gynnydd sydd wedi cymeryd lle er y Gymdeithasfa o'r blaen. Yr wyf yn cofio pan y marchogwn ar hyd Gymru, bedair blynedd yn ôl, i'r Arglwydd beri i mi deimlo yn fy nghalon fy mod yn debyg i Joshua yn myned oddiamgylch, gan gymeryd y naill ddinas ar ôl y llall. Adgofiai