Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/235

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr anwyl frawd Harris fi yn awr o hyny, ac awgrymai fy mod y tro hwn yn debyg i Joshua yn rhannu y wlad. Y mae yn ymddangos fod Duw wedi rhoddi i'r brodyr sanctaidd ymddarostyngiad. Dewiswyd fi, os yn Lloegr, yn gymedrolwr parhaus; a gobeithiaf y bydd i'r iachawdwr roddi i mi yspryd at hyn. Teimlwn fy mod i raddau mawr dan addysg ddwyfol, a chydnabyddai y brodyr yn ewyllysgar yr awdurdod a rodded i mi. Y mae y brodyr wedi gosod y seiadau yn Nghymru ar fy nghalon. Efallai y deuaf i Lundain yn mhen mis. Ymddengys mai ewyllys yr Arglwydd yw i mi aros yn Nghymru am ryw bythefnos, a chymeryd taith trwy Sir Benfro. Y mae drysau llydain yn agored yno.

"Llantrisant, Ebrill 10, 1743. Pregethais y ddoe yn Nghaerdydd i gynulleidfa fawr. Eisteddai y gwatwarwyr mwyaf yn llonydd wrth fy ochr, a theimlai plant Duw y dwyfol bresenoldeb. Yn yr hwyr aethum i Ffonmon; derbyniodd Mr. Jones ni yn garedig; a gwelodd Duw yn dda lefaru drosof yn y seiat, lle y pregethais. Y boreu hwn pregethais drachefn. Yr oedd yn amser bendigedig. Y mae y brawd anwyl Harris yn pregethu yn Gymraeg. Y mae y bobl yma yn hynod syml." Felly yr ysgrifenna Whitefield, ond yn ol llythyr Howell Harris, yn Aberddawen y pregethai y ddau, ond aethant i Ffonmon i letya. Dywed hefyd mai yn Mhenmarc y pregethasant yr ail foreu.

Y mae y llythyr nesaf o Abertawe, ac wedi ei ddyddio Ebrill 12. Fel hyn y dywed gŵr Duw: " Y mae pethau mawrion yn cael eu gwneyd, ac i gael eu gwneyd yn Nghymru; y mae drws effeithiol wedi cael ei agor i bregethiad yr efengyl. Pregethais ddoe yn Nghastellnedd, oddiar dyganllaw (balcony) yn yr heol, i o gwmpas tair mil o eneidiau. Yr oedd yr Arglwydd gyda mi mewn gwirionedd. Y boreu heddyw pregethais yma (Abertawe) i o gwmpas pedair mil, gyda mawr eglurhad yr Yspryd. O gwmpas un, pregethais gyda mwynhad mawr yn Harbrook, bedair milldir o bellder, ac yr wyf newydd ddychwelyd er pregethu yma eto. Llefarai yr anwyl frawd Harris ddoe a heddyw yn Gymraeg." Yna y canlyn ôl-ysgrif, wedi ei hysgrifenu ar ol saith yn yr hwyr: "Yr wyf newydd orphen pregethu. Dychlamai eich calon gan lawenydd pe baech yma. Y mae Abertawe wedi ei chymeryd. Ni phregethais erioed gyda mwy o nerth argyhoeddiadol Yr oedd llawer o'r cyfoethogion a'r mawrion yn bresenol, a'r gynulleidfa yn fwy nag yn y boreu. Gorchfygodd yr Iesu trosof. Iddo ef boed yr holl ogoniant. Clodforwch ef; clodforwch ef drosof fi." Ysgrifenai yn amlwg tan ddylanwad y cyffro oedd wedi ei feddiannu yn y pwlpud, ac y mae yn hawdd gweled fod ei galon yn crychneidio ynddo. Tôn milwr buddugoliaethus, wedi ennill un o gaerau pwysicaf y gelyn, sydd i'w theimlo yn ei eiriau, a rhydd yr holl glod nid i'w ddewrder a'i fedr ei hun, ond i bresenoldeb yr Iesu, ei Gadfridog.

Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Lacharn, Ebrill 15, a dywed: "Wedi i mi adael Llantrisant, gwnaeth y diafol ymdrech galed i'm tynnu allan o Gymru, trwy geisio fy mherswadio na ddylwn fynd yn mhellach; ond yr oedd ein Hiachawdwr yn rhy gryf iddo. Pregethais dydd Mercher yn Llanelli i gynulleidfa fawr, ac yn yr hwyr yn Abergwili. Dydd Iau, pregethais yn Nghaerfyrddin, un o'r trefydd mwyaf a boneddigeiddiaf yn Nghymru; yn y boreu llefarwn oddiar ben y groes, yn yr hwyr oddiar fwrdd yn ymyl. Yr oedd y Sessiwn fawr yno. Dymunodd yr ustusiaid arnaf aros hyd nes y byddent hwy wedi codi, ac y deuent i wrando. Hwy ddaethant, a llawer o filoedd yn ychwaneg, ac amryw o bobl bendefigaidd. Yr oedd yr Iesu gyda mi, a hyderaf i lawer o dda gael ei wneyd. Y mae y brawd anwyl Harris yn cynghori yn mhob lle. Ymddengys ein Hiachawdwr fel pe byddai wedi rhoddi trefydd Cymru i mi. Yr wyf yn hoffi Cymru yn ddirfawr. Yn mhen rhyw ddeg diwrnod gobeithiaf fod yn Mryste." Y mae yn Hwlffordd, Ebrill 17, ac yn ysgrifennu: " Pregethais yn Narberth gyda mawr eglurhad yr Yspryd, i amryw filoedd o eneidiau, y rhai oeddynt nid yn annhebyg i lowyr Kingswood. Y boreu hwn pregethais yn Llys-y-frân i gynulleidfa gyffelyb i eiddo Moorfields; a'r prydnhawn i o gwmpas yr un nifer yn y dref hon. Hefyd, darllenais y gweddïau. Y mae yr awdurdod, y nerth, a'r llwyddiant sydd yn cael ei roddi gan Dduw i mi, yn mysg cyfoethog a thlawd, yn anrhaethadwy. O, cynorthwywch fi i'w foliannu." Pan yn dweyd fod y gynulleidfa yn Llys-y-frân yn debyg i eiddo Moorfields, diau mai cyffelyb mewn lluosogrwydd a feddylia; cyfrifai Howell Harris hi yn ddeuddeg mil. Tueddwn i feddwl fod y Diwygwyr, yn