darfu i amryw o honynt roddi i fynu chwareu yn y fynwent. Ond aent wedin i gonglau lle nad oedd fawr tramwy; eithr mi a'i gwnaethum yn bwynt i'w canlyn, ac i lefaru wrthynt am y drwg o halogi Dydd yr Arglwydd felly. Weithiau bygythiwn alw ar wardeniaid yr eglwys, er y gwyddwn na fyddai hyny ond ofer, canys gan fod yn ddibris o'u llwon ni ddeuent hwy allan o'r tafarndai, er i mi fyned yno i'w cyrchu. O! chwychwi dyngwyr anudon, pa le y mae eich llwon!
Dechreuodd bregethu cyn bod yn ugain oed,[1] gan deithio o gwmpas, a chael ei gamdrin yn enbyd mewn amryw fanau yn Neheudir Cymru. Pan yn pregethu yn yr awyr agored yn Nhregolwyn, Bro Morganwg, lluchiwyd wyau clwc ato nes yr oedd ei ochrau yn ddolurus, a'i ddillad yn orchuddiedig gan aflendid. Methwyd taro ei ben, gan fod hen wreigan yn dal het yn amddiffyn iddo. Yn Llangattwg, swydd Frycheiniog, daeth yswain y pentref, ynghyd a'r offeiriad a'r clochydd, a gwr y tŷ tafarn, allan i'w wrthwynebu. Gafaelodd y cyntaf o'r rhai hyn yn ei goler, a rhoddodd ergyd iddo ar ei foch, ac yna dychwelasant yn eu holau i'r tafarndy. Yn Nghrug-hywel parai ysgrechfeydd y terfysgwyr i arswyd dreiddio trwy ei gnawd, a darfu iddynt ddryllio ffenestr y ty yn mha un y pregethai. 'Yr oeddwn unwaith,' meddai,[2] 'gerllaw eglwys Ystrad, yn Morganwg, tra yr elai chwareuyddiaethau yn mlaen, a sefais i bregethu wrth glawdd y fynwent. Yna darfu i'r rhai oeddynt yn chwareu pêl, ac yn dawnsio, ymatal, gan ddyfod y tu arall i'r clawdd i wrando, y ffìdleriaid a phawb. Gwedi i'r offeiriad, yr hwn oedd yno gyda hwynt, golli eu gwmni, dywedodd wrth y fîìdleriaid: Os ydych yn disgwyl cael eich talu, ewch yn mlaen a'ch gwaith; a chwithau sydd yn siarad, ewch ymaith oddiwrth y fynwent, daear gysegredig ydyw."
Profa y tystiolaethau hyn, a llawer o rai ychwanegol a ellid ddwyn yn mlaen, y rhai a gawsant eu hysgrifenu yn hollol annibynol ar eu gilydd, ac heb un amcan heblaw adrodd ffeithiau hanesyddol, fod cyflwr Cymru yn gyfangwbl fel y darfu i Williams, Pantycelyn, a Charles o'r Bala, ac eraill ei desgrifio; sef yn llawn annuwioldeb, anwybodaeth agos a bod yn baganaidd, ac ofergoeledd Pabyddol; na feddai y werin bobl fawr gwybodaeth am Dduw, na pharch i'r Sabbath, ond eu bod yn ymroddi i ofer-gampau a meddwdod, a phob math arall o lygredigaeth. Cadarnheir y cyfryw dystiolaethau, pe bai eisiau cadarnhau arnynt, gan yr erledigaethau a'r ymosodiadau creulon a wnaed ar y Methodistiaid cyntaf, pan yn myned o gwmpas i bregethu yr efengyl. Gwelir na chyfyngid yr erledigaethau o gwbl i Ogledd Cymru, er efallai mai yno y buont ffyrnicaf ac y darfu iddynt barhau hwyaf, ond eu bod yn cael eu cario yn mlaen yn y Dê yn ogystal. Yn sicr, pe bai rhanau helaeth o'r Deheudir wedi cael agos eu llwyr feddianu yn flaenorol gan yr Ymneullduwyr, fel y myn Dr. Rees, buasai y fath ymosodiadau ciaidd ar ddynion a deithient o gwmpas heb unrhyw amcan ond ceisio dwyn y byd at Grist, yn hollol amhosibl.
Cyn cael dirnadaeth glir am sefyllfa grefyddol y Dywysogaeth yr adeg y cyfeir iwn ati, rhaid i ni ddangos ansawdd crefydd yn yr Eglwys Wladol, ac yn mysg yr Ymneillduwyr. Am yr Eglwys Sefydledig, addefa ei haneswyr hi ei hun fod crefydd ynddi mewn ystâd ddirywiedig tu hwnt. Dywed Dr. Erasmus Saundersi:[3] fod amryw o eglwysydd wedi cael eu troi, naill ai yn ysguboriau neu yn ystablau; a bod eraill, enwau y rhai a roddir, heb neb yn tywyllu eu drysau, ac wedi dyfod yn aneddau y ddalluan a'r frân goeg. "Prin," meddai, "y cofia neb at ba wasanaeth eu bwriedid, os nad feallai yn Llanybri, lle y mae perchen y degwm wedi rhenti yr eglwys i'r Ymneillduwyr, y rhai oeddynt yn falch o'r cyfleustra i droi eglwys yn dŷ cwrdd. Mewn rhai lleoedd y mae genym eglwys. heb ganghell; mewn eraill nid oes genym ond darn o eglwys; hyny yw, un pen, neu un ochr yn sefyll; tra y mae rhai plwyfi heb ddim o gwbl. Mewn llawer iawn nid oes seddau, gyda'r eithriad o ychydig o ystolion a meinciau geirwon a thoredig draw ac yma. Y mae eu ffenestri bychain heb wydr, ac wedi eu tywyllu gydag estyll, matiau, neu ddellt, er cadw y gwynt a'r gwlawogydd allan. Eu muriau ydynt wyrddion, yn briwsioni i ffwrdd, ac yn ffiaidd; ac yn aml heb na golch na phlastr. Eu tô sydd yn darfod, yn crynu, ac yn gollwng defni; a'u lloriau ydynt wedi eu rhychio a beddau afiach, heb ddim palmant, ond wedi eu gorchuddio yn unig ag ychydig
frwyn." Hawdd deall nad oedd neb yn