Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/240

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llandrindod; llywyddai Williams, Pantycelyn, ond yr unig benderfyniad a basiwyd oedd, fod y brawd Richard Lewis, Ymneillduwr, yn cael ei osod yn gynorthwywr i'r brawd James Beaumont.

Ar yr 8fed o Fehefin, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Longhouse, Sir Benfro, pan y llywyddai Daniel Rowland, a Howell Davies, ac yr oedd Howell Harris yn bresenol. Yn mysg pethau eraill, penodwyd nifer o eglwysi i fod dan arolygiaeth Thomas Meyler, John Harris, a William Richard. Pasiwyd fod y brawd Watkin Watkins i gymhwyso ei hun i fod yn ysgrifennydd i'r brawd Rowland, neu y brawd Davies. Fod y brawd John Jones i fod yn ddystaw am ryw amser, mewn trefn iddo gael ei ordeinio, hyd nes y byddo yr ordeiniad trosodd; a bod y brawd Richard Tibbot i weithio, ac i fynychu rhyw seiadau preifat, hyd nes y caffo ysgol Gymraeg.

Yr ydym yn dyfod yn awr at y drydedd Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd, yr hon a gynhaliwyd yn Nhrefecca, Mehefin 29 a 30, 1743. Yr oedd yn Gymdeithasfa bwysig, gan y disgwylid iddi adroddiadau yr arolygwyr gyda golwg ar rif ac ansawdd y seiadau. Daeth Whitefield yno o Lundain i gymeryd y gadair, gan drafaelu trwy Gaerloyw a Bryste; yr oedd yn bresenol yn ychwanegol Daniel Rowland, W. Williams, Howell Davies, John Powell, Thomas Lewis, a Benjamin Thomas, gweinidog Ymneillduol. Yr oedd y cynghorwyr cyhoeddus canlynol yno: Howell Harris,Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Thomas Williams, Richard Tibbot, Thos. Lewis, a William Richards. Fel hyn yr adrodda Whitefield hanes y Gymdeithasfa:[1] " Cyrhaeddais Drefecca dydd Mercher, Mehefin 29, lle y cyfarfyddais a byddin gyfan o dystion yr Iesu. Am bump yn y prydnhawn pregethais i; gwedi i mi orphen, pregethodd a gweddïodd Howell Davies. O gwmpas wyth, agorasom y Gymdeithasfa gyda difrifwch mawr. Yr oedd ein Hiachawdwr gyda mi mewn modd arbennig, yn fy nysgu, ac yn fy nghynorthwyo i lanw fy lle. Gohiriasom o gwmpas canol nos, ond darfu rhai o'r brodyr aros i fynnu trwy yr holl nos, gan groesawu y boreu gyda gweddi a mawl. Am wyth, cyfarfyddasom drachefn, a siriolwyd ni yn fawr gan adroddiadau syml yr arolygwyr am eu gwahanol seiadau. Parhasom gyda'r trefniadau hyd ddau yn y prydnhawn, a thorasom i fynu gyda difrifwch mawr a llawenydd sanctaidd. Cawsom undeb rhyfedd a'n gilydd. Yn wir, y mae yr Iesu wedi gwneyd pethau mawrion i Gymru. Y mae y gwaith wedi llwyddo yn ddirfawr. Synwn weled y fath drefn. Y mae y brawd Howell Davies wedi cael ei fendithio er argyhoeddiad clerigwr ieuanc, offeiriad St. Bartholomew, yn Llundain."

Yr offeiriad oedd y Parch. Richard Thomas Bateman, [2] at yr hwn yr ydym wedi cyfeirio yn flaenorol. Disgynai o deulu pendefigaidd, ac yr oedd yn ŵr o ddoniau mawr. Gwedi ei argyhoeddiad daeth yn weithiwr di-fefl yn ngwinllan Crist. Rhoddai bob rhyddid-i Whitefield a Wesley i bregethu yn ei eglwys, a chawn ei fod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid yn 1748. Eithr i ddychwelyd at y Gymdeithasfa, dywed y cofnodau iddi gael ei hagor gyda difrifwch arbennig gan Mr. Whitefield, trwy bregeth, a gweddi daer am arweiniad yr Yspryd Glan. Ei phrif waith oedd darllen a gwrando yr adroddiadau a ddygid gan yr arolygwyr am sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan eu gofal. Cawn gyfeirio at yr adroddiadau yma eto. Yr unig orchwyl arall a gyflawnodd, mor bell ag y dengys y cofnodau, oedd cymeryd i ystyriaeth lythyr John Richard, yr hwn a gondemniai y trefniadau a wnaethid yn flaenorol. Un o breswylwyr Llansamlet oedd John Richard; yr oedd yn arolygydd ar bymtheg o eglwysi yn nghyffiniau Morganwg a Chaerfyrddin, a phob un o ba rai y disgwylid iddo ymweled unwaith y pythefnos. Yn ei lythyr, maentymiai fod rhannu yr aelodau i sengl, priod, a gweddw, a'u holi yn fanwl parthed eu cyflwr ac ystâd eu heneidiau yn Babaidd; fod gosod eu henwau i lawr ar lyfr yn anysgrythyrol; a bod trefnu arolygwyr dros ranau o wlad yn gamwri. Ond y mae yn amlwg oddiwrth rediad yr hyn a ysgrifennai, mai prif achos ei anesmwythid oedd, fod y Gymdeithasfa wedi cyfyngu ei lafur i gylch, gan ei rwystro i fyned o gwmpas i bregethu fel yr ewyllysiai. Dywed fod y rhesymau canlynol yn ei berswadio mai ewyllys yr Arglwydd oedd iddo fyned oddi amgylch. "Yn mlaenaf," meddai, "yr wyf yn profi fy enaid yn fwyaf awyddus am fyned po fwyaf o Dduw sydd yn tywynnu

  1. Tyerman's Life of Whitefield, vol. ii., p. 62.
  2. Gwel tudal. 136