Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/241

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnaf. Yn ail, nad wyf yn myned i un man nad wyf yn cael tystiolaeth gan y brodyr, a rhai marciau gan Dduw, fod yr Arglwydd yn fy arddel fel offeryn yn ei law i wneuthur rhyw ddaioni yn ei eglwys. Yn drydydd, na adawodd fi yn fynych heb lawer o gymorth, ac na adawodd fi erioed, mor bell ag yr wyf yn cofio, yn hollol i mi fy hun. Yn bedwerydd, mi dybygwn rai prydiau fy mod yn teimlo newyn anorchfygol yn fy yspryd am ddychwellad pechaduriaid at Dduw, ac y gallwn ddweyd y trengwn pe y tawn. Yn bumed, yr wyf yn gwybod pe yr awn oddiamgylch y cawn lefaru wrth ddeg enaid am bob un yr wyf yn llefaru wrtho yn awr, a pha fwyaf o bysgod a fyddo, mwyaf oll o gysur sydd i daflu y rhwyd. Yn chweched, nid wyf yn awr yn cael llefaru ond unwaith yn y pedair—awr—ar—hugain, a'r unwaith hyny wedi nos, mewn rhai manau; ond pe bawn yn myned o amgylch mi a gawn lefaru gynifer gwaith ag y gallwn. Yn seithfed, mi a fyddaf yn gorfod dweyd nas gallaf fyned i rai manau, er fy mod yn cael fy anog gan Dduw i fyned, ac yn cael galwad gan ddynion. Yn wythfed, y mae genyf ormod i gymeryd gofal neillduol am danynt, a rhy fychan i fyned yn gyhoeddus oddiamgylch iddynt o hyd; canys y mae'r bobl, ar ol hir arfer o ddyn, yn esgeuluso dyfod i wrando, a chwi ellwch ddeall ei bod yn anghysurus i mi i fyned ddeng—milltir—ar—hugain o ffordd heb gael fawr pobl ynghyd yn y diwedd, a hyny yn y dydd." Diwedda trwy siarsio y brodyr yn y Gymdeithasfa ar iddynt edrych ati ar fod Yspryd Duw yn eu harwain mewn cysylltiad ag ef, a thrwy awgrymu tuedd i fyned o gwmpas ar ei gyfrifoldeb ei hun mewn dibrisdod o'u trefniadau. Hen Gristion syml oedd John Richard, fel y mae yn amlwg, yn arllwys •allan ei deimladau siomedig, oblegyd cael cyfyngu arno yn ei waith, gyda gonestrwydd unplyg; a mynega fod dau beth yn peri iddo amheu ei alwad, sef fod y brodyr yn ei rwystro, a'r olwg oedd yn gael ar fawredd y gwaith. Ond y mae ei brofiad crefyddol yn ogoneddus. " Y mae yn dda genyf wneuthur a allaf dros Dduw," meddai, "hyd yn nod pe byddai iddo fy nhaflu i uffern yn y diwedd; ond mi dybygwn nad oes yr un man a wnaeth Duw, gwneled y diafol ei waethaf, na fydd i mi fwynhau Duw ynddo, a chanmol yr anwyl Iesu." Anhawdd genym feddwl na ddarfu darlleniad y llythyr hwn dynu dagrau o lygaid y brodyr ymgynulledig; ac er na fedrent ganiatáu iddo yr hyn a ddymunai, gan mai cymharol fyr mewn doniau ydoedd, eto y teimlent eu calonnau yn cynhesu ato. Yr oedd llythyr o gyffelyb nodwedd wedi cael ei anfon hefyd gan Rhisiart William Dafydd, cynghorwr o Sir Gaerfyrddin, yr hwn y darllenasom am dano yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford ei fod i fyned dan arholiad.

Penderfynodd y Gymdeithasfa fod Whitefield i ysgrifennu atebion i'r llythyrau hyn; darllenodd yntau yr hyn a ysgrifenasai yn un o'r cyfarfodydd dilynol, yr hyn a dderbyniodd gymeradwyaeth unfrydol y brodyr. Y mae yr atebion ar gael, ac yn ddyddorol. Dy wed Whitefield wrth John Richard, gyda golwg ar ei fygythiad i myned o gwmpas ar draws pob trefniadau, y teimlasai y frawdoliaeth yn flin pe y rhoddasai achos cyfiawn iddo i gymeryd y cwrs hwn; ond gan na wnaethai, a chan y teimlai yn sicr mai dibwys, a hawdd rhoddi pen arno, fuasai unrhyw wrthwynebiad a allai efe godi yn y dull yma, ei bod yn teimlo y gallai ymddiried yr achos i'r Arglwydd Iesu, a bod yn hollol dawel yn ei gylch. Cydnabydda er hyny y gallai y Gymdeithasfa gyfeiliorni, a dywed y byddai y brodyr yn barod i ail-ystyried yn ofalus unrhyw brofion a ddygid yn mlaen fod yr hyn a benderfynasent yn groes i feddwl Duw. Yna a yn mlaen i ateb ei wrthddadleuon. Gyda golwg ar groniclo enwau yr aelodau mewn llyfr, dywed: " Pa beth, anwyl frawd, sydd yn anysgrythyrol yn hyn? Onid yw ein Harglwydd Iesu yn dweyd fod y bugail da yn galw ei ddefaid erbyn eu henw? Onid ydyw pob plwyf yn cadw coflyfr o'r plwyfolion? Onid yw yr Ymneillduwyr yn ysgrifenu enwau pawb mewn llyfr a fyddo mewn cymundeb gyda hwynt? A pheth yw llyfr Numeri ond cofres o enwau meibion Israel? Gyda golwg ar ymofyn am gyflwr ysprydol pob enaid, ymddengys i ni ei fod yn hanfodol angenrheidiol. Yr ydym yn edrych ar yr eglwys fel clafdy, a'i gweinidogion fel physigwyr, y rhai a ddeuant o dro i dro i edrych pa fodd y mae gyda y rhai sydd dan eu gofal. Yr wyf yn tybio pan aeth yr apostolion oddi amgylch i edrych hynt eu brodyr, iddynt chwilio i ansawdd yspryd pob un. Nid ydym yn gwybod pa fodd y gall gweinidog bregethu oddigerth ei fod yn gwybod am gyflwr ei bobl, na pha fodd y gallech chwi anfon yr adroddiad a anfonasoch, am yr hwn yr ydym yn diolch i chwi, oni bai i chwi wneyd rhyw ymchwiliad"