ymddangos fod y nodiad yn hollol gywir. Nid ymwahanasai Herbert Jenkins oddiwrth ei hen frodyr, er iddo lafurio yn mysg y Wesleyaid am beth amser. Yn mhellach yn mlaen, dywedir yn y cofiant iddo ymuno drachefn a Mr. Whitefield, a llafurio gyda Cennick ac eraill yn Nghyfundeb y Tabernacl, a'i fod yn pregethu llawer yn Nghymru. Cawn ef mewn cymdeithasau perthynol i'w gyfundeb ei hun yn Mryste, Mawrth 20, 1744. Y mae llythyr o'i eiddo at Howell Harris, dyddiedig Ebrill 11, 1745, ar gael yn Nhrefecca, yn dangos ddarfod i Herbert Jenkins oeri rhyw gymaint at y Methodistiaid, ac at Harris ei hun. Achwyna yn y llythyr nad oedd Harris yn teimlo ato fel cynt, a'i fod wedi dwyn cyhuddiadau pwysig yn ei erbyn. Sef yn (1) Nad ydoedd ei holl galon ynglŷn wrth yr achos. Gwada hyn yn hollol, ond dywed yr ymddengys iddo fod Harris yn nesu yn rhy agos at y Morafiaid, a'i fod yntau yn eiddigus o'r herwydd. (2) Nad ydoedd yn cymeradwyo y trefniadau Methodistaidd a wnaed yn y Gymdeithasfa. Ateba ei fod yn cydweled a'r seiadau preifat, yn y rhai yr ymgynullai yr aelodau i weddïo, ac i ganu, ac i adrodd eu profiadau; fod y cyfryw gyfarfodydd wedi profi yn nodedig o fendithiol; ond nad oedd yn cydweled a gosod ymwelwyr dros y seiadau, ac mai goreu pa gyntaf y byddai hynny yn darfod. (3) Ei fod yn aros gyda y Methodistiaid, er yn anghytuno a'u trefniadau, gyda'r bwriad o ymadael yn mhen amser, a thynnu y bobl ar ei ôl. Y mae yn gwadu y cyhuddiad hwn yn y modd mwyaf diamwys. (4) Ei fod mewn ystyr yn ddyn gwahanol, ac yn teimlo yn wahanol at Howell Harris. Addefa fod peth gwir yn hyn: "Unwaith," meddai, " yr oeddwn yn eich gwneyd yn rheol cred ac ymddygiad; tybiwn eich bod yn anffaeledig. Ond yn awr yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd arnaf i beidio canlyn neb, ddim cymaint a cham, ond i'r graddau y mae efe yn canlyn Crist." Gorphena ei lythyr trwy ddweyd ei fod yn parchu Harris yn fawr, fel un oedd yn Nghrist o'i flaen ef, ac fel un a anrhydeddasid gan yr Arglwydd, trwy gael ei wneyd yn offeryn i ddychwelyd llawer o eneidiau.
Nid yw yn ymddangos i Howell Harris ddigio o herwydd y llythyr, ond yn hytrach i hyn glirio i ffwrdd lawer o'r niwl a orweddai rhyngddynt. Yn 1745, penodwyd Herbert Jenkins i wasanaethu yn y Tabernacl, fel olynydd i Harris, hyd Chwefror y flwyddyn ddilynol. Mewn llythyr arall at Howell Harris, hysbysa iddo lawn fwriadu myned i'r athrofa, a gedwid gan un Mr. Thompson, i berffeithio ei hun yn mhellach mewn Lladin a Groeg; ond er cynyg droiau, i gynifer o anhawsderau gyfodi ar ei ffordd, fel yr oedd yn argyhoeddedig nad ewyllys Duw oedd iddo fyned. Ddarfod i Mr. Stephens, gweinidog yr Annibynwyr yn Plymouth, ei annog i fyned i Gaerloyw, a chymeryd trwydded fel pregethwr Ymneillduol; fod y brawd Adams wedi gwneyd felly, gan gael trwydded, a myned i Orllewin Lloegr i lafurio; ond nas gallai efe feddwl gwneyd peth o'r fath heb ymgynghori yn gyntaf a'r Gymdeithasfa. Gyda golwg ar gael ei ordeinio yn Eglwys Loegr, ei fod yn awr yn gwbl ddiobaith. Buasai y dydd blaenorol gydag Esgob Bryste, ac yn dweyd ei holl hanes wrtho; gwrandawodd yr Esgob ef yn amyneddgar, ac ymddygodd ato yn foesgar, gan awgrymu iddo na fyddai fawr gwrthwynebiad i'w ysgolheigiaeth. Ond yr oedd Methodistiaeth Herbert Jenkins ar ei ffordd. Dywedodd yr Esgob wrtho y byddai yn anhawdd iddo gael teitl, a chael esgob a'i hordeiniai; ac hyd yn nod pe y caffai hyn, y gwneyd yr arholiad yn fwy caled iddo am ei fod yn Fethodist. Diwedda ei lythyr gyda'r geiriau hyn: " Yr wyf yn gobeithio y bydd i fy mrawd anwyl weddïo trosof pan fyddoch agosaf at yr Oen, erfyniwch arno am arwain ei blentyn yn ei holl ffyrdd."
Fel yr ofnai, methiant a fu pob ymgais o'i eiddo i gael urddau yn yr Eglwys Sefydledig. Mewn canlyniad, cawn ef yn bwrw ei goelbren gyda'r Ymneillduwyr, ac yn y flwyddyn 1749, urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Annibynol Maidstone, lle y llafuriodd, gyda mawr lwyddiant, am bedair-blynedd-ar-hugain. Bu farw yn anterth ei boblogrwydd, Rhagfyr 11, 1772, yn 51 mlwydd oed. Y mae yn sicr fod Herbert Jenkins yn ddyn gwych, yn bregethwr hyawdl, ac yn llawn o ynni; a phe y gwelsai y Methodistiaid eu ffordd yn rhydd i'w ordeinio, ni fuasai byth yn gadael y Cyfundeb. Cyfansoddodd amryw emynau, ac y mae un emyn o'i eiddo ar gael yn awr. Cynwysa bump o benillion ar "Gynydd Gras." Ymddengys iddo hefyd gyfieithu amryw o emynau John Cennick, y rhai, gydag eiddo David Jenkins, ei frawd, a argraffwyd dan yr enw, Hymnau ar