Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/298

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhag cynghori oblegyd byrder ei ddawn. Yr oedd y blaenaf yn bresenol, a chafwyd dadl faith ag ef; yr oedd yr olaf yn absenol, felly anfon cenadwri ato a wnaed. Yr ydym yn gweled ymlyniad cryf wrth. Eglwys Loegr yn ngwaith y Gymdeithasfa yn penderfynu peidio ymgyfenwi yn Eglwys nac yn Sect, ac yn gwarafun i'r cynghorwyr alw eu hunain yn weinidogion; Howell Harris, yn ddiau, oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau hyn; yr oedd efe yn fwy ymlyngar wrth yr Eglwys na neb; yr oedd Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol; ac yr oeddynt hwy yn llawer llai eu parch i'r Sefydliad, ac yn fwy parod i gefnu arno.

Y dydd Gwener canlynol cawn Harris yn Pentyrch, tua chwech milltir o Gaerdydd, ac y mae y nodiad yn ei ddydd-lyfr yn haeddu ei groniclo: "Yr oedd fy natur wedi ei llwyr weithio allan, ac ni chyfodais hyd gwedi deg. Wrth fod y brawd T. P. a minau yn agor ein calonau i'n gilydd, a chael fod fy ffaeleddau yn cael siarad am danynt yn ddirgel, cefais olwg ar natur hunan a balchder, gan ei weled ynof fel mynydd, yn ymddyrchafu yn erbyn Duw, a hyny i'r fath uchder fel nas gallai neb ond Duw ei faddeu a'i ddinystrio. Cefais galon i alaru o'i herwydd, a ffydd i gyf lwyno fy hunanoldeb a'm balchder i law Duw i gael eu dinystrio. Yr wyf yn cael fod y brodyr yn dyfod yn agosach ataf, gan deimlo fod eu hachos hwy yn debyg i'r eiddof fi.” Y mae yn glir mai yn mysg y Methodistiaid y siaredid am ffaeleddau Harris yn ddirgel; cyhoeddai ei elynion yr hyn a ganfyddent yn feius ynddo ar benau tai. Felly yr oedd tymher gyffrous y Diwygiwr, a felltenai allan pan ei gwrth wynebid, neu pan y sonid am ymadael ag Eglwys Loegr, wedi dyfod yn destun sylw yn mysg y cynghorwyr a'r aelodau cyffredin. Ymdeimlai yntau a'i ffaeledd, a gofidiai o'i herwydd, gan ei gymeryd at yr Arglwydd i gael maddeuant ac ymwared oddiwrtho. Dydd Sadwrn y mae yn Aberthyn. Boreu y Sul aeth i eglwys Wenfo, lle y gwasanaethai clerigwr efengylaidd o'r enw William Thomas; cyfranogodd o'r sacrament, a diolchai i Dduw ei fod wedi gadael yr ordinhad yn yr Eglwys. Llefai: "O Dduw, na fydded i ni gael ein troi allan o'r ordinhad yn yr Eglwys dlawd, amddifad hon; yn hytrach, bydded i ni ddyfod yn halen iddi. fydded i'n llygredigaethau ni, ein hunanoldeb, a'n balchder, a'n tuedd i ddirmygu eraill; nac i lygredigaethau rhai eraill, a'r yspryd erledigaethus sydd ynddynt, ein troi ni allan. O dychwel atom, a bydded i ni ddyfod yn oleuni yr holl dir."

Y mae y nodiad canlynol yn ei ddyddlyfr, wedi ei ysgrifenu yn Watford y dydd Mawrth dilynol, yn esbonio ei hun: "Y maent yn ceisio dwyn oddiarnaf yr hyn wyf yn barod wedi ei roddi ymaith, a'r hyn nad yw yn feddiant i mi, ond i Grist, sef fy mywyd. Gwelaf yn hyn brawf i fy ffydd. Y mae gwarant allan i fy mhressio i'r fyddin. Pan aethum i feddwl am y peth cefais ryddhad wrth lefain ar yr Arglwydd: Ó Arglwydd, yr hyn wyt ti yn wneyd a saif. Ti ydwyt frenhin. Nis gallant weithredu hebot ti. Yn awr, dysg fi yn unig i'th ogoneddu, ac i lawenychu fod genyfenaid a chorph i'w rhoi i ti. Ni chefais erioed brofiad mor felus. Y mae y newydd (am y warant) mor bell o fod yn boenus i mi, fel na chymerwn fil o fydoedd am fod heb ei glywed. Daeth y geiriau i fy meddwl a fendithiwyd i mi saith mlynedd yn ol, sef: 'Ni ddichon neb ei gau.' Gwelwn hwy oll yn llaw Crist." Profiad bendigedig. Nid ydym yn gweled Howell Harris yn ymddyrchafu mor uchel mewn gras, nac yn dangos yspryd mor ardderchog, un amser, a phan y mae yr ystorm yn rhuthro ar ei draws.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol, Mai 3, yn Llanfihangel; nid oedd yma eto yr un offeiriad urddedig yn bresenol, ac felly, Howell Harris a lywyddai. A ganlyn yw y penderfyniadau, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:

"Cydunwyd yma, fel yn Watford, gyda golwg ar gateceisio, ein bod yn ei argymhell ar y brodyr, a'n bod i ddefnyddio catecism Mr. Griffith Jones, yn neillduol y catecism ar y credo.

"Fod y brawd John Belsher i gynorthwyo y brawd Harris mewn helpio yr arolygwyr, fel y penderfynwyd yn Watford.

"Fod y cynghorwyr anghyoedd i gymeryd gofal uniongyrchol ymweled a'r cymdeithasau preifat, pan gyfarfyddant yn ddirgel, oddigerth ar amgylchiadau arbenig, pan fydd rhywrai i'w derbyn, neu i'w tori allan, neu ryw betrusder i'w symud, neu pan fyddo angen ymgynghoriad gyda golwg ar briodas.

"Cydunwyd fel yn Watford gyda golwg ar drefnu y cynghorwyr anghyoedd.

"Wedi ymddiddan a'n gilydd, a chyflwyno ein goleuni yn rhydd y naill i'r llall, gyda golwg ar ein dyledswydd at yr holl