Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/299

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hil ddynol, a'r berthynas yr ydym yn sefyll ynddi at bawb yn gyffredinol fel cydgreaduriaid, at yr holl eglwys dros holl fyd yn neillduol, fel corph Crist, ac at y gangen hon o honi yn y wladwriaeth hon, ond yn fwyaf arbenig at y rhai sydd yn cymdeithasu â ni, cydunasom, er mwyn symud mor bell ag y medrwn bob maen tramgwydd, i gymuno yn ein heglwysydd plwyfol, ac i gynghori y bobl i wneyd hyny, fel na byddom yn ymddangos yn debyg i sect. Yr oeddem wedi cyduno yn flaenorol i beidio galw ein cymdeithasau yn eglwysi, ond seiadau o fewn yr Eglwys Sefydledig; ac i beidio galw y cynghorwyr yn weinidogion. Yn neillduol, gan ein bod yn gweled fod petrusder y rhan fwyaf (gyda golwg ar gymuno yn eu heglwysydd plwyfol) yn codi o'u tywyllwch a'u llygredd, ac nid o'u gras; yn (1), am eu bod yn edrych ar, ac yn tramgwyddo wrth feiau rhai eraill, sydd yn derbyn gyda hwy, yr hyn sydd yn sawri yn gryf o yspryd y Pharisead yn pwyntio at y Publican, ac yn bradychu anwybodaeth gormodol am danynt eu hunain, a rhy fach o dosturi at eraill; yn (2), am eu bod yn edrych ar waeledd neu bechadurusrwydd yr offeiriad, gan ddweyd: Pa fodd y gallwn ddysgwyl bendith, neu dderbyn lles trwy y cyfryw un? yr hyn sydd yn profi diffyg ffydd i edrych trwy y moddion at Dduw, ac yn dangos dibyniad ar ras y person sydd yn gweinyddu, ac nid ar y gras sydd yn Nghrist.

"Cydunodd y brawd Morgan John Lewis â hyn, mewn ffordd o gyd-ddwyn, hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn. Yn unig, mynegai fod eu heglwys blwyfol hwy mewn annhrefn hollol, heb un trefniant sefydlog gyda golwg ar amser (yr ordinhad); a phan y cynygiai gael yr ordinhad yn St. Brides, i'r offeiriad ei dderbyn yn garedig, gan ddweyd nad oedd ganddo un gwrthwynebiad iddo, ond fod y canonau yn erbyn. Ni feddai y brawd Belsher ryddid llawn gyda golwg ar hyn, ond cadwai ei amheuaeth iddo ei hun. Yr oedd y lleill yn foddlon."

Gwelir fod yr un materion yn cael eu trin, a'r un penderfyniadau yn cael eu pasio, mewn gwahanol Gyfarfodydd Misol. Yr amcan oedd cael cyd-ddealltwriaeth ar ran yr holl gymdeithasau a'r holl gynghorwyr yn ngwahanol ranau y wlad. mae yn amlwg ddarfod i berthynas y Methodistiaid a'r Eglwys Sefydledig fod yn destun dadl faith yn y cyfarfod. Eithr ni chollodd Harris ei dymher, fel yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu. Yn hytrach, pwyswyd y rhesymau o blaid ac yn erbyn ymadael gyda gofal; ac yn y diwedd trodd y cyfarfod o blaid aros hyd nes y byddai iddynt gael eu bwrw allan. A ydyw Harris yn rhoddi rhyw gymaint o liw ei syniadau ei hun ar y cofnodau, pan yn crybwyll fod y cri am beidio cyd-dderbyn â dynion annuwiol o law offeiriad anfoesol, yn codi nid o ras, ond o lygredigaeth, ac yn sawri o yspryd Phariseaeth, nis gwyddom. Diau mai felly y teimlai efe, a naturiol tybio fod ei deimladau yn dylanwadu arno pan yn ysgrifenu.

Dydd y Gymdeithasfa, Iau Dyrchafael, sef Mai 3, 1744, ysgrifena yn y modd a ganlyn: "Saith mlynedd i'r dydd hwn, pan yr ymddangosai y drws fel yn cael ei gau yn fy erbyn i fyned o gwmpas, darfu i dad anfon ei fab i geisio genyf lefaru yn ei dŷ ef, yr hyn a brofodd yn foddion i agor y drws i mi i fyned o amgylch. Ac yn awr yr wyf yn myned i gael ei ferch." Gwelwn oddiwrth y difyniad hwn mai Mr. Williams, o'r Ysgrin, oedd y boneddwr o Sir Faesyfed a wahoddodd Harris i bregethu yn ei dŷ, yn y flwyddyn. 1737, ac a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i ledu y diwygiad dros y wlad. Ymddengys fod priodas agoshaol Howell Harris yn cyffroi mawrion Brycheiniog a Maesyfed yn ddirfawr. Yr oedd Williams, o'r Ysgrin, yn foneddwr, ac yn perthyn i'w cylch neillduol hwy; a byddai cael Miss Williams yn wraig yn dwyn Harris, y Methodist a ddirmygent yn eu calon, i fath o gysylltiad â hwy, yr hyn beth nis gallant ei oddef. Ei rwystro i briodi Miss Williams, o'r Ysgrin, oedd y prif amcan. wrth godi gwarant i'w bressio i fod yn filwr. "Yr wyf yn cael," ysgrifena, "fod llid yr ynadon yn cyffroi yn ddirfawr yn fy erbyn. Dywedai U.H. wrth dad y gwnai fy anfon i'r rhyfel, pe yn unig er fy rhwystro i gael ei ferch yn wraig." Darfu iddynt gynhyrfu brawd Miss Williams i fod yn wrthwynebol i'r briodas, ac i ymuno yn eu cynllwyn.

O'r diwedd dyma yr ystorm yn dechreu rhuthro arno. Dydd Mawrth, Mai 8, ysgrifena: "O gwmpas un o'r gloch daeth William Ga'r cwnstab i gymeryd Jemmi i fod yn filwr." James Morgan, golygwr ei dy, a chynghorwr gyda'r Methodistiaid, oedd "Jemmi." "Cawswn fy rhybuddio eu bod yn dyfod; felly