Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/339

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amryw bethau cysylltiedig â Methodistiaeth. Gwelwn (1) Fod Griffith Jones, tra ar y dechreu yn cydymdeimlo yn ddwfn a'r diwygiad Methodistaidd, erbyn hyn wedi troi yn feirniad, ac wedi roddi gormod o goel i'r chwedlau anwireddus a daenid am y Diwygwyr. Efallai fod a fynai awydd rhai o'r cynghorwyr am gael eu hordeinio yn ol dull yr Ymneillduwyr â hyn. (2) Fod Howell Harris yn fwy o Galfin, a braidd na ddywedem, yn alluocach duwinydd na Griffith Jones. Yr oedd yr olaf, yn bur amlwg, yn ormod tan ddylanwad Archesgob Tillotson, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell i dir Arminiaeth. (3) Fod Howell Harris, tra yn synio yn uchel am Griffith Jones, ac yn ei anrhydeddu yn fawr, yn rhy annibynol i'w ganlyn yn wasaidd, a'i fod yn meiddio. gwahaniaethu oddiwrtho gyda golwg ar rai o wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth.

Ond rhaid i ni ganlyn Howell Harris ar ei daith. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am Griffith Jones," meddai, "ac am ei holl geryddon; llefwn am i mi beidio cael fy ngadael heb ryw un i'm rhybuddio." Dydd Llun, pregethodd yn y Pale i gynulleidfa anferth, oddiar y geiriau: "Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi, er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddyoddef erddo ef." Yr oedd yr Arglwydd yma yn amlwg; torai llawer allan i folianu, ac arferai yntau ei ddylanwad i gymedroli yr hyn a dybiai allan o le. Yn y prydnhawn, yr oedd yn Carew, lle y pregethodd oddiar y Salm gyntaf. Odfa ofnadwy oedd hon. "Ar y cychwyn," meddai, yr oeddwn yn dra arswydlawn i'r annuwiol. Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd yn y lle mewn modd rhyfeddol iawn." Bu hefyd yn cynghori yr ŵyn, y rhai, yn angerdd eu zêl, oeddynt yn rhy barod i fyned allan o'r llwybr. Boreu dydd Mawrth, yn Carew, cafodd rhyw frawd afael rhyfedd ar weddi, nes peri i Harris deimlo fod yr Arglwydd yn amlwg yn Sir Benfro. Mewn lle o'r enw Lampha, ger tref Penfro, cynhelid Cwrt Leet, i ba un y cyrchasai amryw o'r mawrion; cymerodd yntau fantais ar yr amgylchiad i bregethu. Ei destun oedd, Ex. xx. 1: Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw;" a chyda llawer o serchawgrwydd ceryddodd y boneddigion, y clerigwyr, a'r bobl oll, am eu bywydau afreolus. Cymerai fantais yr adegau hyn i weddïo tros yr Eglwys, y brenin, a'r deyrnas, yr hon oedd yn llawn berw, ac i daranu yn erbyn y rhai a bleidient yr Ymhonwr (Pretender). Nos Fawrth, yr oedd yn Nerth, ger Aberdaugleddyf; dydd Mercher, yn Menfro a Walton, lle y pregethodd gyda chryn hwylusdod, oddiar Rhuf. viii. 15. Dydd Iau, cafodd odfa anghyffredin yn Hwlffordd. Yna aeth i Hay's Castle; yr oedd Duw yma yn amlwg; gwedi hyn i Lanilow a Longhouse; a boreu y Sulaethieglwys Morfil, nid yn nepell o Woodstock, i wrando Howell Davies. Dydd Llun, yr oedd Cymdeithasfa Fisol mewn lle o'r enw Ffynon Gaino. "Yma,' meddai, "agorodd yr Arglwydd fy ngenau i lefaru am y tân, ac am allu Duw, a'i fod ef yn y Gair oll yn oll. Cydunai yr holl frodyr fod y tân o Dduw. Y brawd Gambold a sylwai y rhaid i ni fod yn farw i ni ein hunain, heb ddysgwyl dim wrth fyned o gwmpas ond oerni, a noethni, a newyn, a thlodi, a chael ein difenwi, at hyny gan Gristionogion; ond y dylem fyned dros Grist pe baem yn garpiog, ac yn droednoeth, gan roddi ein dillad a'n hymborth y naill i'r llall, a bod heb y cyfryw ein hunain, os rhaid. Cydunai pawb. Cyfeiriais, gyda nerth, am beidio rhoddi tramgwydd i'r clerigwyr, hyd ag y mae yn bosibl; mai yn yr Eglwys Sefydledig yr ydym ni. Dangosais eu rhagfarn yn Ysgotland ac America. Cyfeiriais at le pob un; mai fy mhlant ysprydol i yw y brodyr Davies a Williams; ond gan eu bod wedi eu hordeinio, fy mod yn dal fy hun mewn darostyngiad iddynt, ac y dylem oll ddyfod i'w cynorthwyo. Siaradais am Griffith Jones, y dylem nesu ato, hyd byth ag y mae yn bosibl, a'i garu. Y dylem osod cateceisio i fynu hyd byth ag sydd yn bosibl, a chadw at y Gair ysgrifenedig, gan ddwyn pawb dynion ato, oblegyd efe yw ein rheol. Cydunai pawb. Cydunwyd hefyd i gadw y dydd cyntaf o Dachwedd yn ddydd o ymostyngiad."

Y mae un peth newydd hollol i ni yn yr hanes hwn, sef, mai Howell Harris oedd tad ysprydol Howell Davies, yn gystal a Williams, Pantycelyn. Eithr felly y dywedir yn bendant. Aeth Harris, yn yr hwyr, yn mlaen at Lwynygrawys; taranodd yn erbyn yr Ymhonwr, a chanmolodd y brenin George, a chafodd nerth anarferol. Yna cyfeiriodd ei gamrau trwy Eglwyswrw, Cerig Ioan, gan groesi i Aberteifi, ac ymweled a Blaenporth, Cwmcynon, a lleoedd eraill. Nos Wener, daeth i Langeitho; boreu dranoeth, croesodd y mynydd, gan basio trwy Abergwesyn, a chyrhaeddodd