Llewellyn, rhigymwr a berthynai i'r eglwys, yn rhoi mynegiant i'r anfoddlonrwydd ar ffurf cân. Yn mhen dwy flynedd, sef yn y flwyddyn 1732, llwyddodd yr adran Arminaidd i ordeinio un Richard Rees, gŵr ieuanc o'u mysg eu hunain, ac wedi bod tan addysg Mr. Perrot yn Nghaerfyrddin, fel cyd-weinidog a James Davies. Mynega Sion Llewellyn ei foddlonrwydd ef a'i blaid i weinidogaeth Richard Rees mewn rhigwm, o ba un y mae a ganlyn yn ddifyniad: —
" Er cynhaliaeth mawr i'n crefydd,
Duw gododd Mr. Rees i fynydd;
Gwr llawn deall, dysg a doniau,
Llariaidd, gwresog ei rasusau.
Mi glywn y gwr yn rhoi ergydion,
Ac yn dechrea hela hoelion;
'Nol eu hiro yn olew 'r Yspryd,
Fe gerddai'r hoelion hyny'n hyfryd."
Fel hyn y parhaodd pethau yn Nghwmyglo am bymtheg mlynedd ychwanegol; y gweinidog Arminaidd yn gyru ei hoelion dewisol, ac yn ceisio eu sicrhau yn meddyliau y bobl, un odfa; a'r gweinidog Calfinaidd yr odfa ganlynol yn ceisio eu tynu allan, a gosod hoelion gwahanol yn eu lle. Nis gallai heddwch na llwyddiant ffynu fel hyn; felly nid syn darllen ddarfod i'r blaid Arminaidd yn 1747 ymadael, ac ymsefydlu yn Nghefncoedcymmer. Aeth hon yn raddol yn eglwys Undodaidd, Yn mhen pedair blynedd ymneillduodd yr aelodau perthynol i Cwmyglo a breswylient yr ochr arall i'r mynydd, gan sefydlu eglwys yn Aberdar. Aeth hon hefyd yn Sosinaidd. Yn 1750, pan yr oedd y gynulleidfa wedi symud o Cwmyglo i Ynysgau, ordeiniwyd Samuel Davies, mab y Parch. James Davies, yn gydweinidog a'i dad. Yr oedd Samuel wedi cael ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin, ac fel yr efrydwyr oll wedi llyncu y golygiadau Arminaidd; felly yn yr Ynysgau, ceid y tad a'r mab yn pregethu yn groes i'w gilydd, ac yn arweinwyr pleidiau gwrthwynebol. Ond achwyna y Calfiniaid yn enbyd fod James Davies yn goddef yn ei fab yr hyn na oddefai ar un cyfrif yn Richard Rees, ei gyd weinidog blaenorol. Bu aml i gyfnewidiad yn mhwlpud yr Ynysgau; byddai weithiau yn Galfinaidd, ac weithiau yn Arminaidd, os nad yn wir yn Undodaidd; ond da genym mai y blaid efengylaidd a orfu o'r diwedd, a bod yr eglwys yn awr mor iach yn y ffydd ag unrhyw eglwys yn Nghymru.
Cawn engrhaifft gyffelyb yn eglwysi Gefn-arthen a Phentre-tŷ-gwyn, yn Sir Gaerfyrddin, lle yr oedd rhieni Williams, Pantycelyn, yn aelodau. Yr oedd yma dri o weinidogion yn 1731 a 1732, sef David Williams a John Williams, meibion neu berthynasau Roger Williams, Cwmyglo, yn ol pob tebyg, a D. Thomas. Yr oedd y ddau flaenaf yn Arminiaid zeIog, ond yr olaf yn Galfiniad gwresog, ac wedi cael ei ddewis gan y blaid Galfinaidd yn yr eglwys, er gwrth-weithio dylanwad y ddau arall. Aeth yn rhy anghysurus i'r pleidiau fyw ynghyd, a chawn D. Thomas, yn 1739, yn traddodi ei bregeth ymadawol, gan ymsefydlu, efe a'r Calfiniaid a lynent wrtho, yn Nhy-yn-y-pentan. Ar wahan y bu yr eglwysi hyn am lawer o flynyddoedd, ond Ilwyddodd y Parch. Morgan Jones, Tŷ- gwyn, i'w hail uno mewn amser.
Er na fu ymraniadau o herwydd y ddadl Arminaidd mewn llawer o eglwysi, eto yr oedd dadleuon brwd trwy yr holl gynulleidfaoedd, ac yspryd chwerw yn cael ei fagu, er mawr niwed i grefydd ysprydol, ac er gwanychiad dirfawr i Ymneillduaeth. Tan y cyfryw amgylchiadau yr oedd cynydd yn amhosibl. Rhaid bod yr eglwysi a oddefai ddau weinidog yn pregethu yn erbyn eu gilydd, gyda'r naill yn galw y Ilall yn gyfeiliornwr, ac un adran yn edrych yn ddigllawn pan fyddai yr adran arall yn cael eu boddio, mewn cyflwr truenus o isel. Nid rhyfedd fod yr eglwysi Ymneillduol wedi myned yn eiddil, a di-ymadferth, pan y gwnaeth y Cyfundeb Methodisaidd ei ymddangosiad.
Nodweddiad yr ymneullduwyr pan gyfododd Methodistiaeth gan ffurfioldeb, difaterwch, a: oerni poenus. Yr oedd y gweinidogion wedi colli yspryd ymosodol y Tadau; ni theithient o gwmpas i geisio efengyleiddio y wlad ac i ddwyn y werin at Grist; boddlonent ar fugeilio yr ychydig braidd a berthynai iddynt, gan yn unig geisio cadw y rhai hyny rhag myned ar ddispsrod. Yr ychydig fywyd a feddent, deuai i'r golwg yn benaf mewn dadleu yn hytrach nag mewn ymdrechion i wneyd daioni. Addefwn yn hawdd fod rhai eithriadau gwerthfawr i hyn yn eu mysg, ond yr oeddynt yn dra phrin. Yr oedd yr oerni crefyddol yma yn ddiau mewn rhan yn ganlyniad yr heresi Arminaidd, yr hon fel iâ—fynydd (ice—berg) a oerai yr awyrgylch, er na fyddid wedi dynesu yn agos iawn ati. Gyda y ffurfioldeb oer yma ceid difaterwch mawr gyda golwg ar ddisgyblaeth. Aethai hyn mor bell fel yr oedd rhai gweinidogion zelog yn lled—ddymuno ymraniad. Mewn llythyr