Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/357

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarfod i Arminiaeth ac Antinomiaeth gael ergyd effeithiol." Nos Lun, ymwelodd â Mynyddislwyn. Ei destun oedd: "Byddwch lawen yn wastadol;" ond yn lle dyddanu y saint, fel yr arferai wrth lefaru ar y geiriau hyn, arweiniwyd ef yn ddiarwybod iddo ei hun i daranu yn ofnadwy. "Yr oeddwn yn trywanu i'r byw y rhai ydynt yn llawen," ysgrifena, "ond sydd heb eu geni drachefn, ac heb ras Duw yn eu calonau. Yn arbenig, yr oeddwn yn ddychrynllyd i'r arweinwyr mewn rhysedd, ac i'r erlidwyr. Nis gallwn mo'r help. Yr Arglwydd a'm harweiniai; nid oedd genyf feddyliau o'r eiddof fy hun. Condemniwn y rhai oeddynt yn llawen am fod y byd ganddynt, ac am eu bod yn iach, ac yn debyg o fod yn hirhoedlog. Cefais fy arwain i daranu yn ofnadwy iawn yn erbyn yr offeiriaid cnawdol, y rhai ydynt yn rhegu, ac yn meddwi, ac yn anwybodus am Dduw. Dangosais nad rhyfedd fod y cyfryw i'w cael pan nad oes neb yn y plwyf yn gweddïo am gael dyn da yn offeiriad. A diweddais trwy ddangos mai o gariad at eu heneidiau yr oeddwn yn llefaru fel hyn." Pregeth ryfedd yn ddiau, oddiar y fath destun; ond teimlai Harris mai dyna y cyfeiriad y gofynai yr Arglwydd iddo ei gymeryd. Dydd Iau, y mae yn Llanfihangel, yn Sir Fynwy. Oddiyno â yn ei flaen i'r New Inn, eithr ychydig o nerth sydd yn cydfyned a'r llefaru. Yna, tramwya trwy Coedca-mawr, a Llanheiddel, gan ddychwelyd adref dranoeth, gwedi taith faith a phwysig.

Ddechreu Mai, y mae yn cychwyn eto am Lundain. Y mae nodiad yn ei ddyddlyfr sydd yn bwysig: "Aethum i Fair Oak erbyn yr hwyr. Ar y ffordd, cefais olwg ar ogoniant person Crist; eithr hysbyswyd fi fod y brawd Rowland yn benderfynol o wrthwynebu pregethu y gwaed. Daeth y newydd yn drwm ar fy enaid; ond gwnaeth Duw fi yn ostyngedig, a chefais nerth i lefain ar iddo anfon gyda'r hwn yr anfonai. Yr oeddwn yn foddlawn cael fy nyosg o'm holl ddoniau, ond i'r gwirionedd, a'r holl wirionedd, gael ei fynegu." Arosodd yn Llundain hyd gwedi y Gymdeithasfa, yr hon a gynhelid Mehefin 18, ac yna dychwelodd yn ei ol i Drefecca.

Ar y 27ain o Fehefin, cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca, a medd y Gymdeithasfa ddyddordeb a phwysigrwydd pruddglwyfus, oblegyd mai ynddi y dechreuodd yr anghydwelediad rhwng Howell Harris ag arweinwyr eraill y diwygiad yn Nghymru, a derfynodd yn y pen draw mewn ymraniad hollol. Caiff Harris adrodd yr hanes, oddiar ei safbwynt ef. "Teimlwn neithiwr a heddyw," meddai, "lwythi o feichiau ar fy enaid; yr oedd i mi agosrwydd yspryd mawr at y brawd Rowland; ond yr oedd fy nghalon yn ofidus oblegyd fy mhechodau fy hun, a phechodau y brodyr. Pan y gofynodd y brawd Rowland am lyfr i mi, teimlwn barodrwydd i roddi gwaed fy nghalon iddo. Teimlais fy hun dan angenrheidrwydd i siarad ag ef. Wrth ymddiddan ag ef yn breifat, yn lle cael fy maich wedi ei ysgafnhau, trymhawyd ef, fel y gallaf ddweyd fy mod yn dechreu dyoddef gyda Christ. Gwelais ychydig o'r baich y mae Crist yn orfod gario, oddiwrth gyndynrwydd a gwrthnysigrwydd ei blant; a phan yr wyf fi yn teimlo cymaint oblegyd ymosodiad arnaf o un cyfeiriad, pa faint a deimlai ef pan yr oedd holl bechodau ei bobl yn pwyso arno? Pan y cwynai Rowland ar y cynghorwyr, ac y dirmygai eu gweinidogaeth, dywedais nad oedd yn anrhydeddu y rhai oedd yr Arglwydd wedi anfon; a dyrchefais fy llef at Dduw, ar iddo eu gwisgo â gostyngeiddrwydd, ac os oedd rhai o honynt heb gael eu hanfon ganddo ef, ar iddo chwynu y cyfryw allan. Dymunwn hefyd ar iddo ddangos eu hanfoniad i'r anwyl frawd Rowland, yr hwn sydd yn credu eu bod yn dwyn gwaradwydd ar yr efengyl, ac nad ydynt yn gwneyd dim da. Yn fy ymddiddan a'r brawd Rowland, cefais ryddid i bwyntio allan yr oll a welwn yn feius ynddo, sef ysgafnder, a diffyg yspryd tadol, gan ddangos y dylem ni fyned o flaen y brodyr mewn ffydd, gostyngeiddrwydd, cariad, a hirymaros. Cyfaddefai yntau hyn, ond dywedai nad oedd yr Arglwydd wedi ei osod ef yn dad i'r saint, ac na feddai gymhwysder ar gyfer y lle. Atebais fy mod i yn ei anrhydeddu ef fel y cyfryw, ond fy mod yn gofidio wrth ei weled mor ddiofal yn gosod beichiau ar ysgwyddau ei frodyr. Dywedais ddarfod i mi lefaru yn Llundain, yn gyhoeddus ac yn breifat, yn erbyn y Morafiaid; yn erbyn eu balchder, a'u cyfeiliornadau; fy mod yn awr o'r un farn gyda golwg ar bob pwynt o athrawiaeth ag oeddwn ddeng mlynedd yn ol; nad oeddwn wedi cyfnewid o gwbl, na thuag at y brodyr a'm galwent yn gyfnewidiol. Pan y cyhuddai fi o Forafiaeth, am fy mod yn rhoddi arbenigrwydd