Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o eiddo y Parch. Edmund Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Mhontypwl, at Howell Harris, Awst 7, 1741, ceir y geiriau canlynol:[1] "Byddai yn dda genyf pe bai rhai o'r gweinidogion Ymneillduol iach yn ymwahanu oddiwrth yr Ymneillduwyr cyfeiliornus a phenrydd; ond efallai y daw i hyny. Y mae y ddau weinidog yn Mhenmaen yn gwadu fod unrhyw angen am ddisgyblaeth yn eu mysg hwy; a galwant fy ymdrechion i o blaid disgyblaeth wrth yr enwau sarhaus o ddefodau newyddion gorfanwl a chaeth Gwrthoda y dynion hyn gymeryd eu diwygio, fel y mae gwaethaf." Ymddengys y pregethai Howell Harris yn enbyd o lym yn erbyn clauarineb yr Ymneillduwyr, a cheir cyfeiriad at hyny yn yr un llythyr o eiddo i Edmund Jones. "Tra yr ydych yn llefain mor groch yn erbyn clauarineb ein Hymneillduwyr ni (yr Annibynwyr), nac esgeuluswch rybuddio rhag balchder ysprydol ac yspryd annhymerus y Bedyddwyr Ymneillduol, y rhai ydynt yn waeth, er fod yn cydfyned a hyny zêl nad yw yr Ymneillduwyr clauar eraill yn feddu."

I rai o'r gweinidogion yr oedd zêl ac angerddoldeb Howell Harris a Daniel Rowland yn dramgwydd. Byddent, meddai Dr. Rees, yn dweyd llawer o bethau a ddoluriai chwaeth goeth yr Ymneillduwyr. Er prawf o hyn rhoddir geiriau un Thomas Morgan, a fu yn gwrando Daniel Rowland yn agos i Gaerfyrddin.[2] Pregethai oddiar Hosea ii. 14. Ni chadwodd fawr at ei destun, ond yr oedd yn dra difrifol, gan geisio enill y serchiadau. Yr wyf yn meddwl i mi ddarganfod rhyw gymaint o effeithiolrwydd yn cydfyned a'i waith, er fod ganddo rai ymadroddion hynod o weiniaid." Bu yr un gŵr yn gwrando ar Rowland yn agos i Gaerphili. Meddai, " Ei destun oedd Barnwyr v: 23. Yr oedd ei bregeth yn ymarferol, ond nid yn feirniadol; canys dywedodd amryw bethau na ddywedasai, yr wyf yn meddwl, pe buasai wedi astudio y mater yn dda yn mlaen llaw." Dywed Dr. Rees fod y gŵr hwn yn un o'r mwyaf diragfarn yn mysg yr Ymneillduwyr! Prawf yr ychydig ganmoliaeth a rydd yn grintachlyd i Daniel Rowland, y pregethwr goreu, yn ol pob tebyg, a welodd Cymru erioed, fod ei yspryd wedi oeri o'i fewn, a'i fod yn rhoddi mwy o bwys ar ffurf nag ar wirionedd achubol.

Dwg y Parch. John Thomas, at ba un yr ydis wedi cyfeirio yn barod, dystiolaeth i'r oerfelgarwch enbyd a ffynai yn mysg yr Ymneillduwyr yr adeg yma. Cychwynasai ei fywyd crefyddol gyda'r Methodistiaid, ond yn 1761 ymunodd a'r Annibynwyr, neu fel y geilw efe hwy, yr Ymneullduwyr. Gyda chyfeiriad at hyn, dywed: "Cynghorwyd fi gan amryw o bryd i bryd i fyned i'r coleg, fel y gallwn gael ychydig wybodaeth. . . . Yr oeddwn yn canfod fod yr Ymneillduwyr yn eu disgyblaeth (ffurf-lywodraeth eglwysig?) yn unol a Gair Duw, ac yn nes at drefn Apostolaidd y Testament Newydd na'r Methodistiaid. Ond yr oeddwn yn caru bywyd a zêl y Methodistiaid, ac yn ofni clauarineb yr Ymneillduwyr, rhag, os ymunwn a hwy, i mi fyned yn glauar fel hwythau. ond dywedai rhai o honynt, os deuwn atynt, y gallwn fod yn foddion i'w gwresogi hwy." Penderfynodd fyned i Goleg y Fenni. "A phan fynegais fy mwriad i'r Parch. Daniel Rowland, ni ddywedodd ddim yn fy erbyn. Cyrhaeddais y Fenni tua diwedd 1761; a phan ddechreuais ddysgu llyfrau Lladin, a chanfod y fath annuwioldeb yn y dref, a'r fath glauarineb yn y gynulleidfa, teimlais fy mod wedi newid hinsawdd. A chan ofni y collwn dir yn fy yspryd, ymneillduwn bob canol dydd i'r coedwigoedd gerllaw yr afon Wysg i weddío, a phrofais hyny yn felus yn aml. Yn ystod y pedair blynedd y bum yn y coleg pregethwn yn fynych yma, ac mewn lleoedd eraill; yn ystod y gwyliau awn ar daith trwy wahanol Siroedd Cymru, yn arbenig Sir Aberteifi, gan bregethu gyda'r Methodistiaid a chyda'r Annibynwyr, pan y cawn ychydig o dân Llangeitho i gadw fy enaid rhag rhewi yn nghymydogaeth y Fenni. Yr oedd Mr. Rowland yn dra charedig wrthyf, a gofynai i mi bregethu yn Llangeitho weithiau. . . . Yr oedd y rhai mwyaf difrifol a phrofiadol yn mysg yr Ymneillduwyr yn fy hoffi; ond yr oedd y rhai clauar a ffurfiol o honynt yn edrych arnaf fel yn ormod o Fethodist, yn arbenig pan y cawn gymorth o'r nefoedd wrth bregethu. Eithr pan y byddwn yn sych ac yn farwaidd, gan lefaru o'm deall fy hun, dywedent fy mod yn debyg i Ymneillduwr."[3]

  1. Life of Howell Harris by H J Hughes tudalen 181
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 369
  3. Welsh Calvinistic Methodists tud 23-24