Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/360

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

digon ar yr Ysgrythyrau, ond y gwyddent oll fel yr oeddwn wedi llafurio i osod i fynu gateceisio, a darlleniad cyson o'r Beibl. Pan y llefarodd y brawd Rowland. yn awdurdodol, datgenais fy mod yn gwadu ei awdurdod, fy mod yn edrych ar ei swydd fel dim; fy mod yn barod i'w dderbyn fel brawd, ond nid mewn modd arall. Gwedi darllen yr adroddiadau, gweddïodd un brawd; gweddïais inau, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais ryddid i lefaru yn hyf wrth y brodyr-yr oedd efe (Rowland) a'r offeiriaid wedi myned allan-gan ddangos fod gan yr Arglwydd lais tuag atom yn hyn; cyffröais hwy i fwy o ddiwydrwydd mewn darllen yr Ysgrythyrau, a llyfrau da eraill; am fod yn ddifrifol yn y gwaith, a mynu gweled eu bod yn gwneyd pob peth dros Dduw. Gwedi i ni swpera, ac i'r offeiriaid fyned i'w gwelyau, daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd rhyfedd; teimlwn fy nghalon yn fflam, a'm henaid yn llawn goleuni a ffydd. Arosodd cwmni da ar y llawr trwy y nos hyd bedwar o'r gloch y boreu, yn canu, ac yn gorfoleddu; yr oeddym yn debyg i Dafydd o flaen yr arch. Cynghorais i fwy o wyliadwriaeth, gostyngeiddrwydd, ac ofn duwiol. Ond goddiweddwyd fi gan y gelyn, a syrthiais am ryw gymaint o amser; ond cyfodwyd fi drachefn wrth fy mod yn gofyn yn syml gan yr Arglwydd. Yna, trefnais fy nheithiau."

Felly y terfyna hanes y Gymdeithasfa ofidus hon. Boreu tranoeth, yr oedd Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies yn ymadael am gartref; ond cyn eu myned, mynodd Howell Harris gyfle i ddweyd gair wrth Rowland. "Dywedais wrtho," meddai, "am ofalu pregethu llai allan o lyfrau, a mwy allan o'i galon, yr hyn a dderbyniai oddiwrth Dduw; fy mod yn gofidio wrth weled mor lleied o ffrwyth yr Yspryd yn ei ymddygiad; a'm bod yn falch gweled yr offeiriaid yn unol, er fy mod i yn ddafad ddu yn eu mysg." Cofnoda yn mhellach fod Rowland dyner wrth ymadael. Gwedi iddynt gefnu, pregethodd gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr gyda llawer o hwyl; dywedai nad oedd neb i feddu awdurdod ar y pregethwyr ond Crist, ac anogai y bobl i beidio myned i wrando offeiriaid cnawdol. Y tri offeiriad oedd wedi myned i ffwrdd a olygai, yn ddiau. Y mae teimlad Howell Harris ar derfyn y Gymdeithasfa yn anesboniadwy. "I'r Gymdeithasfa flaenorol," meddai, "mi a aethum yn llawn hyfrydwch, a sirioldeb, ac ymadawais dan feichiau trymion; daethum i'r Gymdeithasfa hon yn llwythog ac yn flin, ac aethum o honi yn llawn gorfoledd." Gorfoledd yn wir, pan yr oedd Methodistiaeth wedi cael dyrnod a barlysodd ei holl symudiadau am amser, ac oddiwrth ba un y teimla hyd y dydd hwn! Ond rhaid i ni gofio mai ysgrifenu hanes dynion anmherffaith yr ydym.

Rhaid i ni adael hyd yn nes yn mlaen unrhyw ymchwiliad i uniongrededd golygiadau duwinyddol Howell Harris, ond y mae yr hanes a rydd yn ei ddydd-lyfr yn awgrymu i'r meddwl amryw bethau. (1) Y mae yn dra sicr ddarfod iddo gamgymeryd geiriau Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall. Rhy brin y gallwn dybio iddynt ddweyd wrtho eu bod yn dirmygu ei weinidogaeth; cawsai ei eiriau eu bendithio er iachawdwriaeth i ddau o'r tri, a naturiol meddwl eu bod yn synio ac yn siarad yn barchus am ei bregethu. Anhawdd meddwl, ychwaith, eu bod yn ei gondemnio am alw Crist yn "Oen;" heblaw fod y term yn Ysgrythyrol, ceir ef yn britho pregethau Rowland, a hymnau Williams, Pantycelyn, a chydnebydd Harris ei hun fod y tri yn ymostwng i awdurdod y Beibl. Rhydd efe yr hyn a ddywedent fel yr ymddangosai iddo ef ar y pryd, pan yr oedd ei dymher wedi ei chyffroi i'r pwynt eithaf, ac felly yn analluog i ddirnad yn glir ystyr ymadroddion ei wrthwynebwyr. (2) Hawdd gweled ei fod yn y Gymdeithasfa yn cario pethau yn mlaen gyda llaw uchel. Ni wnai ymresymu a'r brodyr gyda golwg ar yr hyn a bregethai, am y tybiai ddarfod iddo dderbyn cynwys ei genadwri fel datguddiad oddiwrth Dduw; bygythiai, os gwrthwynebid ef, yru yn mlaen trwy ddynion a diaflaid; a dywedai nad oedd ei wrthwynebwyr ond fel gwybed yn ei olwg. Hawdd gweled hefyd iddo ddefnyddio ymadroddion chwerw a brathog. Cyhudda Rowland o fod yn meddu crefydd y pen, ac nid crefydd y galon; ac o fod yn cael ei lywodraethu gan falchder. Mor bell ag y gallwn gasglu, nid oedd yr offeiriaid agos mor chwerw eu hyspryd; ystyfnigrwydd yw y prif fai a rydd yn eu herbyn. (3) Rhaid cydnabod fod teimlad eiddigus wedi dyfod i mewn i fysg yr arweinwyr. Diau nad oedd y tri offeiriad, yn arbenig Daniel Rowland, yn rhydd oddiwrtho. Gwelent Howell Harris, er