Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/367

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywodd; iddo, wedi cyrhaedd y cyfarfod, ymosod yn uniongyrchol ar y brodyr cynulledig, gan eu cyhuddo o geisio ei ddisodli yn ei absenoldeb, o bechu yn erbyn ei weinidogaeth, a phardduo ei gymeriad; iddo ddatgan na wnai ymostwng i gymeryd ei lywodraethu gan Daniel Rowland, a'i anfon o le i le i bregethu fel ei trefnid; ac na chymerai ychwaith ei gyfarwyddo gyda golwg ar gynwys ei weinidogaeth gan neb. Yr oedd yn ddyn o deimladau cryfion, a rhaid fod ei ruad ar lawr y Gymdeithasfa yn dra brawychus i'r frawdoliaeth. Yn ol pob tebyg, prin y caent wneyd unrhyw hunan-amddiffyniad ganddo; ac yn sicr, ni chaent gyfeirio at unrhyw fai a welent ynddo, er ei fod ef yn dynoethi eu beiau. hwy yn gwbl ddibetrus. O'r diwedd, llwyddwyd i'w dawelu, wrth fod nifer o'r cynghorwyr yn datgan o'r newydd eu hymddiried ynddo; ac, yn ol pob tebyg, wrth fod Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall, yn ei sicrhau nad oedd y chwedlau a gawsant eu cludo iddo yn wirionedd. Ar yr un pryd, nid annhebyg fod rhyw gymaint o sail i'r ystorïau yma. Gan fod nifer o gynghorwyr Sir Forganwg yn dra gwrthwynebol i syniadau athrawiaethol Harris, a bod yr odfaeon a gynhaliai yno yn aml yn gorphen mewn dadleuon brwd, a theimlad chwerw, nid annaturiol tybio ddarfod i'r Gymdeithasfa farnu mai gwell, dan yr amgylchiadau, fyddai iddo beidio ymweled à Morganwg can amled ag yr arferai, a gwneyd Sir Gaerfyrddin yn fwy o faes ei lafur. Ceir arwyddion annghamsyniol fod eiddigedd wedi dyfod i mewn rhwng Harris a Rowland erbyn hyn; yr oedd y ddau yn ddynion o dymherau cryfion, a'r naill fel y llall, efallai, yn hoffi llywodraeth, ac y mae yn fwy na thebyg fod eu canlynwyr yn chwythu'r tân o'r ddau tu. Nid yw papyrau Rowland, yn anffodus, ar gael; felly, nis gallwn roddi yr hanes fel. yr edrychai ef arno. Ond naturiol ddigon. tybio fod dylanwad mawr Harris ar y cynghorwyr, yn nghyd a'r dyrchafiad a gawsai i fod yn brif olygwr y seiadau Saesnig, wedi cynyrchu rhyw gymaint of eiddigedd yn mynwes y Diwygiwr hyawdl o Langeitho, yn arbenig gan ei fod yn ymwybodol y meddai ar ddoniau gweinidogaethol rhagorach na'i gyfaill. ochr arall, credwn y ceir arwyddion annghamsyniol, hyd yn nod yn ei adroddiad ei hun o Gymdeithasfa Castellnedd, fod Howell Harris yn hawlio arglwyddiaeth ac uchafiaeth yn mysg y Methodistiaidiaid. Cyhudda y brodyr o gynal Cymdeithasfa pan yr oedd ef yn absenol, fel pe byddai ei bresenoldeb yn angenrheidrwydd anhebgor mewn cynulliad o'r fath. Cyfeiria at ei "le" fel arolygwr cyffredinol, fel pe byddai uwchlaw eiddo Rowland, a Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, tra yn y blynyddoedd cyntaf y daliai ei hun mewn darostyngiad iddynt, am eu bod hwy yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd ef ond lleygwr. Ymddengys ei fod yn tybio, pan y datganai na wnai gydweithio â gwahanol frodyr, y gallai ysgwyd ymaith o'r frawdoliaeth y neb a ewyllysiai, hyd yn nod Rowland ei hun. Cryfheid ef yn yr ysprydiaeth hon, am y tybiai ei fod mewn cymundeb uniongyrchol a'r nefoedd, ac felly yn rhwym o fod yn iawn mewn pob dim, a'r rhai a'i gwrthwynebant yn gyfeiliornus. Ni wnai ymresymu gyda golwg ar ei syniadau duwinyddol; edrychai arnynt fel datguddiad a gawsai oddiwrth yr Arglwydd. Yn y cnawd yr oedd pawb a feiddiai olygu yn wahanol iddo. Tybiai, yn mhellach, ei fod yn cael llais yr Arglwydd gyda golwg ar luniad ei deithiau, trefniad amgylchiadau ei dŷ, ac amgylchiadau y seiadau, yn nghyd a'r moddion y dylid eu harfer i gario gwaith y diwygiad yn mlaen. O ganlyniad, nid oedd arno eisiau ymgynghori â neb am ddim; credai y dylai pawb ymostwng i'w drefniadau, am eu bod yn ddwyfol. Ond teg dweyd fod ei gydwybodolrwydd yn yr ol yn ddiamheuol; ei fod i raddau mawr yn anhunangar; os yr awyddai am y brif gadair, y gwnai hyny nid er mwyn porthiant i'w wagedd, ond er mantais i gario yn mlaen waith yr Arglwydd yn fwy effeithiol; a'i fod mewn yni, ac ymdrech, a pharodrwydd i dreulio ei hun allan yn ngwaith yr Iesu, yn rhagori ar ei frodyr oll.

Dychwelodd Howell Harris o'r Gymdeithasfa trwy Lansamlet a Blaenllywel, gan bregethu mewn amryw leoedd ar y ffordd. Ceir ei brofiad yn y difyniad canlynol allan o'i ddydd-lyfr: "O Arglwydd," meddai, "bydded i'r brodyr gael eu darostwng ger dy fron di. O anwyl Dad, nis gallaf foddloni rhoddi i fynu y goron a gyflwynaist i mi yn y gwaith hwn. Ond yr wyf yn dwyn y brodyr atat ti; pâr iddynt adnabod eu lle, ac i blygu i'th Yspryd." Wedi bod gartref yn Nhrefecca o gwmpas pythefnos, cawn ef yn cychwyn tua Watford, i'r Gymdeithasfa, er ymgynghoriad pellach à Daniel Row-