Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Profa y tystiolaethau yma, y rhai nad oes un rheswm dros ameu eu cywirdeb, fod cyflwr yr Ymneillduwyr pan y cyfododd y Methodistiaid yn Nghymru, yn dra gresynus; fod eu gweinidogion gan mwyaf yn ddifater a diyni; fod y weinidogaeth yn eu mysg yn ffurfiol, beirniadol, ac oer, heb fawr lle yn cael ei roddi i brif athrawiaethau crefydd efengylaidd; a bod yr eglwysi yn fychain ac yn lleihau yn gyflym, a'r aelodau yn rhanedig i wahanol bleidiau, y rhai oeddynt yn llawn teimlad chwerw at eu gilydd. Yr oedd Arminiaeth, a dueddai yn gryf at Ariaeth, yn dyfod i mewn fel llanw y môr; ac yn ol pob tebyg, oni bai am y Diwygiad Methodistaidd, buasai y rhan fwyaf o Gymru heddyw yn Undodaidd. Chwech o gapelau a'r rhai hyny yn gymharol fychain, a feddent yn yr oll o Wynedd. Yr oeddynt yn gryfach yn y Deheudir, ond yma hefyd yr oeddynt yn gwywo yn gyflym. Meddai Mr. Johnes am danynt:[1] Darfu iddynt wanychu eu hunain trwy eu dadleuon gyda golwg ar fedydd; parhausant i ddirywio hyd gyfodiad Methodistiaeth." Ychwanega yr un gŵr: "A siarad yn briodol, hanes Methodistiaeth yw hanes Ymneillduaeth yn Nghymru."

Pan yr aeth son ar led am y cyffroad a gynyrchid gan bregethu nerthol Howell Harris a Daniel Rowland, llawenychodd yr Ymneillduwyr a llawenydd mawr tros ben; teimlent fod gobaith am waredigaeth megys o safn marwolaeth. Yn y flwyddyn 1736, pregethai y Parch. Lewis Rees yn y Capel Ymneillduol yn Mhwllheli; cafodd y ddeadell fechan yno yn nodedig o ddigalon; achwynent fod yr eglwys yn lleihau, yr hen bobl yn marw, a neb o'r newydd yn ceisio crefydd, ac y darfyddai am yr achos yn fuan yn ol pob tebyg. Ond cynghorodd Mr. Rees hwy i ymgalonogi, gan ddweyd fod y wawr wedi tori eisioes yn y Deheudir, fod Howell Harris yn ddyn rhyfeddol, ei fod yn myned o gwmpas i bregethu a rhybuddio, a bod effeithiau hynod yn cydfyned a'i ymdrechion. Yn fuan mynodd Mr. Lewis Rees addewid gan Howell Harris y deuai i Wynedd. Cyffelyb oedd teimlad Edmund Jones, Pontypwl; David WiIIiams, Watford; Henry Davies, Bryngwrach, ac eraill. Gwelent yn y Methodistiaid gatrawd newydd yn cyfodi i ymladd rhyfel— oedd Duw yn y tir, ac er eu bod yn flaenorol wedi llaesu dwylaw, ac ar roddi i fynu mewn digalondid, effeithiodd dyfodiad y gatrawd ddewr hon i roddi yspryd newydd ynddynt. Cryfhaodd yr eglwysi Ymneillduol o hyny allan. Gellir dweyd ddarfod i'r Methodistiaid ddwyn i mewn yr elfenau canlynol: —

(i) Yspryd ymosodol hyf, yn beiddio gwrthwynebu anwiredd a rhysedd mewn modd cyhoeddus a phenderfynol.

(2) Cyhoeddiad pendant o'r athrawiaethau efengylaidd, a hyny gyda gwresawgrwydd angerddol. Yn arbenig pwysleisid ar yr angenrheidrwydd am ail-enedigaeth, a gwaith yr Ysbryd Glân.

(3) Gweinidogaeth personau heb urddau, os meddent ar gymhwysderau pregethwrol.

(4) Gofal manwl am ddychweledigion, yn arbenig trwy gyfrwng y seiadau profiad.

Nid ydym am hawlio i'r Cyfundeb Methodistaidd yr holl glod o fod yr unig offeryn yn llaw yr Arglwydd i efengyleiddio Cymru; gwyddom yn amgen. Gwir mai ar Howell Harris a Daniel Rowland y disgynodd y tân dwyfol gyntaf yn yr adeg hon o ddirywiad; hwy aeth o gwmpas fel llwynogod Samson, gan gyneu ffagl sydd yn parhau hyd heddyw. Ond mor wir a hyny, enynodd y tân yn bur fuan yn yr enwadau Ymneillduol oedd ar y maes yn barod. Cyfranogasant hwythau o'r un dylanwadau nefol mewn helaethrwydd. Eithr yr yspryd Methodistaidd, a deimlwyd yn gyntaf yn Nhrefecca a Llangeitho, a'u bywiocaodd. A threiddia yr yspryd hwnw trwyddynt, a thrwy eu holl weithrediadau, hyd y dydd hwn. Yn wir, gellir edrych ar yr Ymneillduwyr Cymreig presenol, yn angerddoldeb eu zêl a'u hymroddiad, .yn eu beiddgarwch i wrthsefyll drygioni yn eu holl ffurfiau, yn efengyleidddra eu gweinidogaeth, ac yn y lle mawr a roddir gan eu pregethwyr i bynciau hanfodol ein crefydd, yn gystal ac yn eu gofal am y dychweledigion, fel plant Daniel Rowland a Howell Harris yn hytrach nag fel olynwyr yr Ymneillduwyr cyntefig. Ar yr un pryd, cyfaddefa pob cristion fod ymdrechion y Tadau Methodistaidd, ynghyd a llafur y pregethwyr galluog a'u dilynodd ymron yn ddidor o hyny hyd yn awr, yn ffurfio penod ddysglaer a gogoneddus yn

hanes crefydd yn Nghymru.

  1. Causes of Disent in Wales