Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/370

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd rhif y rhai oeddynt yn bresenol. Teimlent yn ddiolchgar am ei garchariad, oblegyd ei fod yn gyfleustra iddynt ddangos iddo ryw arwydd o'u serch. Dywedai Harris y rhaid iddynt oll wneyd ymdrech yn erbyn y diafol yn Ngogledd Cymru. Cyfeiriodd at ei safle ei hun; nad oedd yn ddyledus i unrhyw ddyn o fewn y byd, ond yn unig i'r Arglwydd; ei fod yn aml yn gwrthod arian fel cydnabyddiaeth am ei waith, oblegyd nad oedd yn rhydd i'w derbyn, oddigerth eu bod yn cael eu roddi mewn ffydd, gan ei theimlo yn anrhydedd i gael rhoddi i'r Arglwydd. Ymddiddanwyd hefyd a brawd a wrthodai athrawiaeth y gwaed. Dywedai Harris ei fod yn derbyn ac yn teimlo yr athrawiaeth; a'i bod i'w chael yn y Beibl, ac nid yn ffugrol, ond yn sylweddol ac ysprydol.

Yn ystod mis Rhagfyr, bu Howell Harris ar daith ddwy waith drwy ranau o Siroedd Morganwg a Chaerfyrddin. Y dydd. olaf o'r flwyddyn yr ydym yn ei gael yn Llanddowror, mewn ymgynghoriad a'r Parch. Griffith Jones. Llonwyd ef yn fawr wrth ddeall fod bwriad i osod i fynu ysgolion cateceisio yn mhob rhan o'r wlad, os byddai yr Archesgob, yn nghyd a'r esgobion a'r clerigwyr, yn foddlawn. Dywedai fod y Methodistiaid yn barod i gynorthwyo gyda hyn, ac i ymostwng i'r Esgob; eu bod yn benderfynol i beidio gadael Eglwys Loegr; a dangosai y graddau yr oedd cateceisio wedi cael ei ddwyn i mewn i'r seiadau preifat. Taer ddymunai ar Griffith Jones i ymuno â hwy, fel na fyddai dynion ystrywgar yn gallu eu rhanu, trwy gario chwedlau anwireddus am y naill i'r llall. Yr oedd y gymdeithas ag offeiriad duwiol Llanddowror yn falm i'w enaid.