Lacharn, ac yma ymddengys iddo gynyddu yn ddirfawr mewn hyawdledd a doniau gweinidogaethol, a darfod i'w bregethau hyawdl ac efengylaidd beri cyffro dirfawr yn y plwyf, ynghyd a'r plwyfydd cylchynol. Priododd a Miss Philhps, merch Syr Erasmus Philhps, Picton Castle. Yr oedd yn ddynes nodedig am ei duwioldeb; nid annhebyg mai trwy ei weinidogaeth ef y cawsai ei hargyhoeddi; ond yr oedd yn wanllyd o iechyd, ac ymddengys na fu iddynt blant. Yn mhen rhyw ddwy flynedd gwedi derbyn ei lawn urddau, cyflwynwyd iddo berigloriaeth Llandilo, Abercowyn; ac yn y flwyddyn 171 6, cafodd ficeriaeth Llanddowror, gan ei frawd-y-nghyfraith, Syr John Phillips, noddwr y fywoliaeth. Yr oedd Syr John Phillips yn ŵr tra boneddigaidd, a dywed Mr. Charles ei fod yn casglu oddiwrth ei lythyrau mai crefydd a duwioldeb oedd wrth wraidd y boneddigeiddrwydd. Cadarnheir y dystiolaeth hon gan liaws o ffeithiau. Pan yn Llundain ymgyfathrachai Sir John a Whitefield ac a'r ddau Wesley. Ceir cyfeiriadau mynych ato yn eu dydd-lyfrau fel boneddwr yn rhagori mewn crefydd; ac fel hwythau, ar un tymor o'i oes, bu yn mynychu y Gymdeithas Forafaidd yn Fetter Lane. Heblaw gwasanaethu yn Llandilo a Llanddowror, ymwelai Grifíìth Jones yn bur aml ag eglwys Llanllwch; a than ei weinidogaeth yma yr argyhoeddwyd Miss Bridget Vaughan, merch y Derllysg, yr hon y mae ei henw yn glodfawr trwy holl Gymru fel Madam Bevan. Bu y foneddiges hon yn gyfeilles iddo tra y bu byw; cefnogai ef yn mhob modd gyda ei lafur; ac yr oedd ei phwrs yn wastad yn agored pan fyddai galw. Ymledodd clod Griffith Jones fel pregethwr tros y wlad, cyrchai y bobl yn dyrfaoedd i'w wrando. Clywyd son am ei hyawdledd a'r nerth oedd yn cyd-fyned a'i weinidogaeth hyd yn nod yn Ysgotland, a chafodd ei alw i bregethu o flaen y frenhines Anne. Ein hawdurdod ar hyn yw Williams, Pantycelyn, yr hwn, heblaw bod yn emynydd digymhar, oedd yn hanesydd gwych. Fel hyn y dywed efe yn y farwnad ragorol a gyfansoddodd iddo: —
" Fe gadd Scotland oer ei wrando,
Draw yn eitha 'r Gogledd dir,
Yn dadseinio maes yn uchel
Bynciau 'r iachawdwriaeth bur:
Cadd myrddinau deimlo geiriau
Hedd, o'i enau 'n llawer man;
Clywodd hithau rym ei ddoniau
Frenhinol ardderchocaf Anne."
Daeth dan sylw y Gymdeithas er lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Pellenig fel un cymwys i'w anfon allan yn genhadwr i'r India; y mae llythyrau yn awr ar gael sydd yn dangos i daerineb dirfawr gael ei arfer arno; ac yn y diwedd cydsyniodd yntau. Ni wyddis pa beth a'i rhwystrodd i roddi ei fwriad mewn grym. Efallai mai cariad at ei gydwladwyr, a thosturi at iselder eu cyflwr, a'i gorchfygodd. Ond yr oedd llaw Rhagluniaeth yn y peth; yr oedd ganddi hi waith mawr i Griffith Jones yn ngwlad ei enedigaeth.
Rhydd Mr. Charles y desgrifiad canlynol o hono fel pregethwr: "Yr oedd ei destynau a'i ddull o ymadroddi yn neillduol o addas i gyflyrau ei wrandawyr; yn aml yn finiog, yn danllyd, ac yn ddeffrous; bob amser yn athrawiaethol, yn ddefnyddiol, ac yn fucheddol; yn cadw yn mhell oddiwrth benrhyddid Antinomaidd, a deddfoldeb digysur ac anffrwythlawn. Yr olwg arno yn esgyn i'r areithfa oedd neillduol sobr a phwysig. Darllenai y gweddïau gyda llawer o ddifrifoldeb, a'r llithiau yn arafaidd ac yn ddeallus. Yn ei bregethau dechreuai yn bwyllog, a dosranai y defnydd mewn llaw yn olau ac yn rheolaidd, mewn dull cyfeillgar, nid annhebyg i ymddiddan. Ond fel yr elai i mewn i'w fater, byddai ei yspryd yn tanio ac yn gwresogi, a'i ymadroddion yn fywiog ac yn awdurdodol, nes meistroli'r gwrandawyr yn gwbl. Yr oedd ei agwedd gorphorol yn barchus, ei lais yn eglur ac yn beraidd, ei resymiadau yn gedyrn, ei ddarluniadau yn ardderchog, a'i gynghorion a'i rybuddion yn llym, ac yn afaelgar yn y gydwybod. Yr oedd ei holl enaid yn y gwaith, ac yn profi yn fywiog bob teimlad addas i'r gwirionedd a draddodai.
I ddweyd y cwbl am dano mewn un gair, yr oedd wedi ei wisgo a nerth o'r uchelder, ac am hyny yr oedd yn gweini yn mhethau sanctaidd Duw, gyda harddwch a gweddeidd-dra addas, yn awdurdodol ac yn fuddiol." Y mae y darluniad hwn o hono gan Mr. Charles yn nodedig o fyw. Braidd nad yw ein dychymyg yn porteadu gŵr Duw yn esgyn yn araf ar hyd grisiau y pwlpud, gydag osgo difrifddwys, a sobrwydd tragywyddoldeb yn eistedd ar ei wedd. Wedi darllen y llithiau a'r gweddïau yn hyglyw dyna ef yn cymeryd ei destun ac yn rhanu ei fater; ymadrodda yn araf ar y dechreu, yn ol rheolau manylaf areithyddiaeth; ond yn fuan gwresoga ei galon tan ddylanwad ei fater; rhydd y gwirionedd ei holl yspryd yn