Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/400

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael yr anrhydedd o adael bendith ar fy ol, pa le bynag yr af, i'r eglwys, i'r byd, ac i'r cynghorwyr. Llawer o ddarganfyddiadau melus o'i ogoniant a roddwyd i mi gan yr Arglwydd."

Ar y 25ain o Fawrth y dychwelodd Howell Harris. Y dydd Mawrth canlynol, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. "Yn y seiat gyffredinol," meddai, "cefais y fath deimlad o'r cariad a'r presenoldeb Dwyfol, fel na allwn lefaru. Yr oedd. pawb yn llawn o Dduw. Yna, fy ngenau a agorwyd dros ddwy awr, mewn tynerwch a chariad; dangosais iddynt am gariad Duw, am yr anrhydedd o gael bod yn ngwasanaeth Duw, ac am fywyd ffydd." Yn y cyfarfod neillduol, holodd y cynghorwyr yn fanwl, a threfnwyd teithiau pob un. Ar y dydd cyntaf o Ebrill, cychwynodd am Lundain, ac ni ddychwelodd yn ei ol hyd y nawfed o Fai. Un hwyr, yn bur fuan wedi ei ddychweliad, daeth y Parch. Price Davies, Ficer Talgarth, i ymweled ag ef, ac yr oedd yn fwy isel a serchog nag y gwelsai Harris ef erioed o'r blaen. Adroddodd ei holl hanes wrth Price Davies, y modd y cawsai ei ddeffro trwy ei waith ef yn galw y bobl at y sacrament, a'r modd y dechreuasai fyned o gwmpas i bregethu. Nad oedd ganddo unrhyw gynllun ar y cychwyn; nad oedd wedi clywed am Whitefield na Wesley, ac nad oedd ganddo unrhyw ddychymyg y buasai y gwaith yn cynyddu fel y gwnaethai. Datganai, yn mhellach, ei benderfyniad i lynu wrth yr Eglwys Sefydledig. "Dywedais," meddai, "y dylai y rhai a ddygasid i fynu yn yr Eglwys aros ynddi; os codai rhyw betrusder yn eu meddwl y dylent fyned ag ef at yr offeiriad; os na wnai ef ddangos amynedd a rhoddi boddlonrwydd. iddynt, y dylent fyned at ryw offeiriad arall; os na chaent eu boddloni gan unrhyw offeiriad, y dylent ddyfod ataf fi, neu ryw un o honom (y Methodistiaid); ac os methent gael boddlonrwydd yn neb o honom, yna, eu bod at eu rhyddid i ganlyn eu goleuni, a'u cydwybod." Datganodd, yn mhellach, am elyniaeth yr offeiriaid ato, eu bod wedi arfer pregethu yn ei erbyn, a darfod iddo fod mewn perygl am ei fywyd oddiwrthynt; ond mai am ddiwygiad oedd efe, a gwneyd cymaint o dda ag a oedd bosibl, a phe y gadawai y Methodistiaid. yr Eglwys, y gadawai yntau hwythau. Addefai Mr. Davies fod eisiau diwygiad yn fawr. "Yna," meddai Harris, "dangosais i Mr. Price Davies, fod rhagfarnau (yr offeiriaid at y Methodistiaid) wedi lleihau yn ddirfawr, am fod llawer o bethau oedd yn feius ynom wedi cael eu cywiro, a'u bod yn gweled ein bod yn glynu wrth yr Eglwys. Addefais hefyd ddarfod i mi ac eraill fod yn rhy wresog yn ein zêl. Dywedai yntau mai hyn a aethai i glustiau y clerigwyr a'r esgobion; eto, addefai fod llawer o honynt yn ddynion drwg, a'i fod ef ei hun yn eithaf drwg." Wrth glywed yr addefiad hwn, torodd y Diwygiwr i folianu: "Rhyfedd, Arglwydd," meddai; "beth na elli di wneyd? Yna, aeth yn mlaen i ganmol yr Eglwys, fod ei gwasanaeth o'r fath felusaf. Yr ydym yn croniclo yr hanes hwn er mwyn tegwch hanesyddol, yn gystal ag o herwydd ei ddyddordeb. Profa fod yspryd Howell Harris, oedd yn wastad yn gynhes at yr Eglwys Sefydledig, ac yn ymlyngar wrthi, er cymaint o feiau a ganfyddai o'i mewn, erbyn hyn yn ymgordeddu am dani yn dynach, a'i fod yn benderfynol o beidio ei gadael, hyd yn nod pe bai raid cefnu ar y Methodistiaid, oblegyd ei ymlyniad. Nid annhebyg mai adnewyddu ei gymdeithas â Whitefield a ddygodd oddiamgylch y cyfnewidiad hwn yn ei deimlad.

Yn mis Mai, pasiodd Daniel Rowland. trwy Drefecca, a bu Harris yn ei wrando yn pregethu. Ei destun ydoedd, Rhuf. viii. 13, a'i fater, gras mewn ymdrech â phechod. Dywedai na ildiai gras i lygredd hyd nes y byddai y drwg wedi ei lwyr orchfygu; fod y Cristion yn marweiddio gweithredoedd y cnawd, ac a'i holl galon yn eu cashau; fod llawer o Phariseaid i'w cael, oeddynt yn foesol yn unig oddiallan, ac na wna dim foddloni Duw na gras ond llwyr ddinystr pechod. Yr oedd yr athrawiaeth wrth fodd calon Howell Harris. "Gwelwn," meddai, "fod yr Arglwydd yn myned allan yn erbyn pechod; canfyddwn hyn wrth ei fod yn rhoi y fath gomissiwn i'w was, a gwnaed i'm henaid lawenychu ynof o'r herwydd."

O ganol Mai hyd ddiwedd Gorphenaf, y mae y dydd-lyfr ar goll. Ddechreu mis Awst, aeth Howell Harris i Lundain, ac arosodd yno hyd ganol Medi. Prif ddigwyddiad y cyfnod hwn oedd gwaith Whitefield, mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd yn y Tabernacl, Medi 1-7, yn ymneillduo yn gyfangwbl oddiwrth arolygiaeth y Cyfundeb Saesnig, ac yn trosglwyddo yr holl ymddiriedaeth i Howell Harris. Cydunai amryw bethau i beri i Whitefield gymeryd y cwrs hwn. (1) Er