Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/401

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn meddu cymhwysder at drefniadaeth, a llawer o fedr at lywodraethu ac arwain, eto, nid dyma ei brif allu, na'i hoff waith. Uwchlaw pob peth, pregethwr oedd Whitefield, a galw pechaduriaid at Grist oedd y gorchwyl yn mha un yr ymhyfrydai. Ac er cael rhyddid i fyned o gwmpas i ba le bynag y byddai galwad, a phregethu yr Arglwydd Iesu yn mhob man lle y caffai ddrws agored, teimlai fod yn rhaid iddo roddi i fynu bob cyfrifoldeb a gofal am allanolion. (2) Yr oedd yr anghydfod a'r dadleuon parhaus a anrheithiai y Cyfundeb yn Lloegr, wedi blino ei yspryd; teimlai nas gallai gyd-ddwyn a'r brodyr gwrthnysig yn hwy; ac er nad oedd am dori ei gysylltiad â hwy, eto, nid oedd am gymeryd ei flino yn hwy gan eu hymrysonau. (3) Y mae yn bur sicr fod ei deimlad at yr Eglwys Sefydledig wedi newid. Ar y dechreu, credai fod diwygiad ynddi yn anmhosibl; barnai y byddai raid i'r Methodistiaid, fel corph o bobl, ei gadael yn bur fuan; ond yn awr, trwy gymdeithasu a llawer o fonedd y tir, ac yn arbenig a'r Iarlles Huntington, daethai i dybio mai trwy ddiwygio yr Eglwys, y gellid diwygio y deyrnas. Tybiai y cai ef ei wneyd yn esgob, ac y caffai clerigwyr efengylaidd eu dyrchafu i safleoedd o awdurdod, a thrwy hyn, y deuai yr Eglwys drwyddi yn efengylaidd. Felly, nid oedd yn awyddus am liosogi seiadau Methodistaidd, nac am fod yn arweinydd iddynt. Y mae yn bur sicr ddarfod iddo ddylanwadu ar Howell Harris, a'i wneyd yntau hefyd yn fwy ymlyngar wrth Eglwys Loegr.

Cawn Howell Harris, tua diwedd mis Medi, yn ymweled a rhanau o Sir Gaerfyrddin. Mewn seiat yn Llwynyberllan, dywedai ei fod yn foddlon bod o'r golwg mewn cysylltiad a'r gwaith; i Whitefield fod yn ben ar y Cyfundeb yn Lloegr, a Rowland yn Nghymru; ac os boddlonent, fod John Wesley drostynt hwythau drachefn. Y gwnai y lle isaf ei dro ef (Harris); fod cario y gwirionedd o gwmpas, heb neb yn ei weled, yn ddigon o anrhydedd iddo; ac nad gwaeth ganddo i eraill gael yr holl barch a'r poblogrwydd. Diau. ei fod yn hollol onest yn yr hyn a ddywed, ac mai dyna ei deimlad y foment hono. Eithr y mae un frawddeg yn dilyn, a awgryma ryw gymaint o chwerwder yspryd, sef: "Dymunaf na fyddo i'r brawd Rowland gael cwymp, fel yr ymddengys yn debyg yn awr. Yn bur fuan, cawn ef yn cychwyn am daith i Forganwg. Dywed ei fod yn wanllyd o gorph, a bod ei enaid yn flin ynddo o herwydd yr annhrefn oedd yn mhlith y Methodistiaid. Pregethodd y noson gyntaf yn Cantref; boreu dranoeth yn Taf-Fawr, ac achwyna yn enbyd ar erwinder y ffordd; y nos, yr oedd yn Llanfabon. Ar ei ffordd i'r Groeswen, clywodd am rhyw helynt a ddigwyddasai yn y Goetre. Teimlai faich annyoddefol yn pwyso arno mewn canlyniad; gwelai fod serch partïol yn debyg o wneyd byd o niwed yn eu mysg, ac ocheneidiai wrth weled Satan yn cael caniatad i'w rhwygo. Eithr wrth bregethu, ar Mat. xi. 28, 29, daeth yr Arglwydd i lawr, a chafwyd odfa rymus. Yn y seiat breifat, agorodd ei galon; dywedai ei fod yn gweled ei hun y gwaethaf o bawb; ond yn Nghrist ei fod fel pe byddai heb bechu, ac fel pe bai pechod heb ddyfod i'r byd. "Daeth awelon nerthol o'r Yspryd i lawr," meddai, pan y dangoswn ein hundeb â Christ. Gofynais iddynt, A ydych chwi yn teithio ffordd hyn? Dyma fy mywyd i. Nid wyf yn ddyledus i'r cnawd, ond i'r Arglwydd, am fyw iddo." Gwedi y seiat, bu gyda y pregethwyr a'r goruchwylwyr hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Daeth awel gryf i lawr yma eto. "Dangosais iddynt," meddai, "y Duw tragywyddol yn y preseb. Cwestiynais hwynt hyd adref am Dduwdod y Gwaredwr; dangosais y modd y datguddiwyd y gwirionedd hwn i mi; ac eglurais am fy undeb a'r Morafiaid, am ddirgelwch y Drindod, a'r modd y mae y Drindod sanctaidd yn preswylio yn Nghrist; am beidio gwneyd dim heb ymgynghori a'r Arglwydd, gan ei gydnabod ef fel Meistr. Daeth chwythwm cryf i lawr, a phenderfynasom lawer o bethau."

Dranoeth, aeth ef, a Thomas Price, o'r Watford, i Gaerdydd. Wrth glywed crochfloedd y werinos yma tueddai i grynu; ni fedrai feddianu ei hun am dipyn; ond yn y man nerthwyd ef i efengylu yn felus, oddiar y geiriau: "O angau, pa le y mae dy golyn?" Gwenodd yr Arglwydd arno ef ac ar y bobl. Cafodd ymddiddan maith. a'r brawd Price, yr hwn sydd yn haeddu ei gofnodi. "Cynygiais," meddai Harris, "roddi fy lle i fynu o ran yr enw o hono; i Rowland gael bod yn ben yn Nghymru, Whitefield yn Lloegr, a Wesley drostynt hwythau ill dau. Dywedais y gwnawn yr un gwasanaeth wedin ag yn awr, ac nad oes genyf fawr ymddiried yn neb; fy mod yn gweled diffyg arfer rheol cariad at ein gilydd, a bod eiddigedd wedi dyfod i'n