Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/402

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mysg. Dangosais y modd y mae y brawd Rowland yn gwanhau fy nwylaw; fy mod yn Lloegr yn cael fy meio am gadw y Morafiaid a'r Wesleyaid allan o Gymru, ac yn Nghymru fy mod yn cael fy nghyhuddo o'u bradychu (sef i'r Morafiaid). Cyfeiriais at falchder, at gariad at y byd, ac nad oedd ef (Price) mor syml ag y buasai. Agorodd yntau ei holl galon a'i ofnau. Dywedodd na wnai y brawd Rowland gymeryd fy lle, yr unai â hwy i fy anrhydeddu am fy nhalentau a'm gwasanaeth; ond ei fod (Rowland) yn meddwl nad wyf yn arfer fy rheswm yn wastad, ond yn gweithredu oddiar deimlad y foment. Dywedodd, yn mhellach, na wnai ef (Price) a'r brodyr, gymeryd y brawd Rowland yn fy lle. Ymadawsom yn felus." Y mae yn bur sicr fod Thomas Price yn dweyd yn eglur beth oedd teimlad Daniel Rowland at y Diwygiwr o Drefecca, sef ei fod yn ei anrhydeddu am ei yni, a'i wasanaeth, ac nad awyddai mewn un modd am gymeryd ei le; ond ei fod yn beio arno am fyrbwylldra a diffyg barn.

Cawn Harris yn nesaf yn Dinas Powis, lle y pregethodd ar ateb yr Iesu i ddysgyblion Ioan Fedyddiwr. Duwdod Crist oedd y mater. Yn St. Andrew's, cyfarfyddodd a'r brawd Morgan Jones, gan yr hwn y clywodd am y gyfraith yn Ngogledd Cymru. Ni ddywed ddim am natur y newyddion. Ymddengys fod Morgan John Lewis yma hefyd, a thorodd Harris ato, parthed sefyllfa pethau yn eu mysg. "Dywedais," meddai, "fod y gwaith yn rhy drwm i mi, oni chawn gymorth gan eneidiau ydynt yn feirw iddynt eu hunain, ac yn ei gweled yn anrhydedd i ymdreulio yn ngwasanaeth yr Arglwydd, gan fod a'r achos ar eu calonau. Dangosais fod fy ngwaith mor fawr fel mai da fyddai i rywun ddilyn fy ergyd, gan fagu y cynghorwyr a'r goruchwylwyr ieuainc, a myned o gwmpas teuluoedd, i'w deffro, fel y byddo yr Arglwydd yn ben ar y cwbl. Cynygiais osod yr offeiriaid yn ben yn Lloegr ac yn Ngymru, ac i minau fod o'r golwg." Gwelir fod ei deimlad yn parhau i raddau yn chwerw at yr offeiriaid, a bod y cwestiwn, pwy a fydd ben? yn cael gormod o le yn ei feddwl. Aeth yn nesaf i St. Nicholas, a chafodd gyfleustra yma i wrando Howell Davies. Gwedi yr odfa, dywedodd Mr. Davies wrtho, fod y diafol yn rhuo yn ei erbyn yn ofnadwy yn Nghaerfyrddin, ac yn Dygoed, a'i fod yn cael ei gyhuddo o ryw anfoesoldeb, a bod caneuon gwawdlyd wedi eu cyfansoddi iddo. Aeth y peth trwy ei galon fel brath cleddyf. Wrth fyned tua'r Aberthyn nis gallai lefaru gan faint ei ofid. Yno, modd bynag, cafodd lawer o nerth wrth lefaru ar y geiriau: "Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw." Yn y seiat a ddilynai, dywedodd lawer am berson Crist, a'i waed, a'i haeddiant; ei fod yn Anfeidrol yn y groth, yn Anfeidrol yn ei enedigaeth, ac yn Anfeidrol yn ei fywyd, yn ei ufudd-dod, ac yn ei angau. Ceryddodd yr aelodau yn llym am eu balchder, eu cybydd-dod, a'r modd y gwarient eu harian, a rhybuddiodd hwy rhag barnu y cynghorwyr, onide, y gallent syrthio i'r un pechod a Corah. Wedi y seiat i'r aelodau, yr oedd seiat drachefn i'r cynghorwyr a'r goruchwylwyr, ac ymddengys fod Harris yn y seiadau yma yn trefnu pethau, fel pe y byddent yn meddu awdurdod Cyfarfod Misol. Pasiodd trwy Penprysc, gan bregethu efengyl y deyrnas, a daeth i Nottage. Yma, clywodd y bwriedid ei osod yn ymddiriedolwr ar y capel oedd agos a chael ei orphen yn Aberthyn. Taflodd hyn ef i beth petrusder; ofnai rhag i'r offeiriaid Methodistaidd deimlo, o herwydd fod ei enw ef yn y weithred, a'u henwau hwythau allan; ac na ddeuent i bregethu i'r capel o'r herwydd. "Yr wyf yn foddlon," meddai, "cymeryd fy rhan yn holl drafferthion tŷ Dduw, ond nid yn ei anrhydedd." Pasiodd trwy yr Hafod o Langattwg, gan ddyfod i Lansamlet, lle yr oedd torf anferth wedi ymgasglu. Cafodd odfa rymus, wrth ddangos gogoniant yr Iesu, ac anfeidroldeb yr iachawdwriaeth. Ei destun yn Abertawe oedd: "Canys efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau;" a bu ar ei oreu yn cyhoeddi dirgelwch y Drindod. Yn y seiat breifat, ceryddodd yr aelodau yn llym am eu balchder trefol, am eu gwrthwynebiad i frodyr o dalentau bychain i ddyfod i'w mysg i gynghori, ac am rwystro y gwaith trwy y cyfryw ymddygiad. "Nid yw hyn," meddai, "ond eich balchder, a'ch diffyg o farn addfed; yr hyn sydd arnom eisiau, yw cael gallu Duw gyda phwy bynag sydd yn dyfod." Oddiyma aeth yn bur fanwl trwy wlad Gower, a rhanau o Sir Gaerfyrddin, gan ddychwelyd i Drefecca tua chanol mis Hydref.

Gyda ei grefyddolder dwfn, a'i synwyr cyffredin cryf, yr oedd Howell Harris yn dra hygoelus, ac yn ymylu ar fod yn goelgrefyddol. Tybiai ei fod yn derbyn cenadwri bendant oddiwrth Dduw, trwy