Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/403

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adael i'r Beibl agor o hono ei hun, a darllen yr adnod gyntaf a ddeuai o flaen ei lygaid. Holai gwestiynau i'r Anfeidrol ar bob mater, fychan a mawr, a chredai fod ystâd ei feddwl mewn canlyniad yn atebiad oddiwrth yr Arglwydd i'w ofyniadau. chawn ef yn awr, o herwydd y dueddfryd hon ynddo, yn cyfarfod a phrofedigaeth bur chwerw. Daeth dynes a ymunasai â chrefydd tan ddylanwad ei weinidogaeth ef, i Drefecca. Ei henw oedd Mrs. Griffiths, neu fel ei gelwir yn y cofnodau, "Madam Griffiths." Yr oedd ei gŵr, ar ol ei chamdrin yn enbyd, wedi ei gadael. Honai hon ei bod wedi ei Ilanw a'r ddawn brophwydol, a'i bod yn alluog i brofi yr ysprydion. Yn syn iawn, credodd yntau ei honiadau, ac yn ei ddiniweidrwydd, tybiodd fod Pen yr Eglwys wedi anrhydeddu y Methodistiaid ag un o ddoniau arbenig yr oes Apostolaidd. Meddyliodd y gallai fod o wasanaeth dirfawr i'r diwygiad, trwy fod yn lle llygaid iddo ef, gan ei gyfarwyddo pa fodd i ymddwyn mewn achosion o anhawsder, a'i alluogi i wahaniaethu y rhagrithwyr oddiwrth y gwir gredinwyr. Penderfynodd ar unwaith ei chymeryd gydag ef ar ei deithiau, er y gwelai y gwnai rhywrai dynu cam-gasgliad oddiwrth y cyfryw ymddygiad. Ond nid oedd ei briod yn credu ynddi. A phan aeth i osod y mater gerbron rhai o'r brodyr, yn y rhai yr oedd ganddo ymddiried, dang osasent hwythau anfoddlonrwydd. Ond fel arfer, ni wnai gwrthwynebiad leddfu dim ar ei syniadau; yn hytrach, gwnelai ef yn fwy penderfynol yn ei farn. "Rhaid i'r gwrthwynebiad hwn ddarfod," meddai," fel y mae pawb a'm gwrthwynebodd o'r dechreu wedi dyfod i'r dim. Diau genyf fod Mrs. Griffiths yn golofn yn nhŷ Dduw." Nid oes y sail leiaf dros amheu purdeb bywyd Howell Harris; yr oedd ei holl syniadau mor ddihalog a gwawr y boreu; yn wir, cyfodai ei berygl o'i ddiniweidrwydd, ac o'i anhawsder i ganfod achlysur i ddrwg. dybiaeth mewn pethau a ystyrid yn amheus gan bobl eraill. Ar yr un pryd, ymddengys rhywbeth tebyg iawn i fel pe byddai gorphwylledd crefyddol wedi ei feddianu. Yn bur rhyfedd, yr ydym yn cael i John Wesley, un o'r dynion craffaf ei farn, fod mewn profedigaeth gyffelyb. Modd bynag, y mae yn bur sicr ddarfod i hygoeledd Harris yn y mater roddi achlysur, am dymhor, i elynion yr Arglwydd gablu.

Ddechreu mis Tachwedd, cychwynodd ar daith trwy ranau o Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Nid awn i fanylu ar ei hanes, ond cawn yn nglyn â hi, ddau beth o ryw gymaint o bwysigrwydd. Un oedd, ei waith yn ymwasgu yn nes at James Beaumont, yr hwn a goleddai syniadau pur hynod am y Drindod, ac a aethai yn mhell i gyfeiriad Antinomiaeth. Meddai Harris ryw dynerwch rhyfedd at Beaumont; efe, mewn ystyr, oedd ei Absalom. Y mae yn awr yn ei gymeryd yn gydymaith iddo, yn ei ganmol yn pregethu, ac yn dweyd ei fod o yspryd mor ostyngedig, ac mor barod i gymeryd ei ddysgu. Sut y gallai ddweyd hyn sydd yn syn, pan yr oedd ef a'r cynghorwyr wedi treulio noswaith yn Nhrefecca i geisio darbwyllo Beaumont i adael rhyw ymadroddion an-Ysgrythyrol a ddefnyddiai, ac wedi methu. Gwyddai Harris ei fod, trwy wneyd cyfaill o Beaumont, yn tramgwyddo ei frodyr yn enbyd. Peth arall a nodweddai y daith oedd, ei waith yn hysbysu y cynghorwyr, nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt a John Wesley yn rhyw fawr iawn. Cefais ymddiddan â Mr. Wesley," meddai, "a gwelwn nad oeddym yn gwahaniaethu rhyw lawer gyda golwg ar berffeithrwydd, ond yn unig gyda golwg ar ei natur, am mai Crist yw ein perffeithrwydd ni, a'n bod yn tyfu i fynu yn raddol hyd ato trwy ffydd. Hefyd, am syrthiad oddiwrth ras, a pharhad mewn gras, yr ydym yn gwahaniaethu gyda golwg ar y pwynt lle y dylid ei osod. A chyda golwg ar brynedigaeth gyffredinol, ein bod ni yn credu ddarfod i Grist farw dros bawb, ond nad yw rhinwedd ei farwolaeth yn cael ei gymhwyso at neb, ond yr etholedigion. Cydunem hefyd gyda golwg ar gyfiawnhad; fod bywyd, yn gystal a marwolaeth Crist, yn cael ei gyfrif i ni." Tueddwn i feddwl fod Harris yn agored i gael dylanwadu arno i raddau gan ei gyfeillion, a bod eu syniadau hwy, am dymhor, yn cael lliwio ei syniadau ef, oni fyddai iddynt fyned i ddadleu yn ei erbyn, ac i'w wrthwynebu. Gwthiai Beaumont arno hefyd y syniad y cai, yn bur fuan, fod yn ben gwirioneddol ar yr holl seiadau yn Nghymru.

Ddiwedd mis Tachwedd, cychwynodd am Lundain, ac ni ddaeth yn ei ol hyd Ionawr 27, y flwyddyn ganlynol, sef 1750. Cyn ymadael, torodd ei gysylltiad yn llwyr a'r brodyr Saesnig. Y rheswm am hyn oedd anghydwelediad rhyngddo a Whitefield. Mynai y diweddaf iddo beidio ymgymysgu a'r Wesleyaid a'r Morafiaid, a mynychu eu