Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/404

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymdeithasau, fel yr arferai wneyd. A hyn ni chydsyniai yntau: "Fy awydd mawr i," meddai wrth Whitefield, "yw undeb, ar i'r eglwys weledig fod yn un, fel yr eglwys ddirgeledig, ac ar i Grist gael ei bregethu yn ol dysgeidiaeth yr Ysgrythyr." Ychwanegai: "Dywedais wrtho nad oedd ganddo awdurdod arnaf fi, mwy nag sydd genyf fi arno ef, sef yn unig dweyd wrth ein gilydd beth a welwn allan o le, y naill yn y llall." Y mae ymddygiad Whitefield yn y mater yma yn dra hynod, yn arbenig gan ei fod ef wedi ail-ddechreu newid pwlpud â John Wesley, a'u bod yn cyduno i ddwyn yn mlaen wasanaeth crefyddol, un yn darllen y gweddïau, a'r llall yn pregethu. Modd bynag, oerodd hyn deimlad Harris at Whitefield, a phenderfynodd na wnai lafurio mwyach yn yr un cyfundeb ag ef.

Ar y dydd olaf o Ionawr, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn y New Inn, Sir Fynwy, ac aeth Harris yno. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Daniel Rowland. Ar y dechreu, hoffai Harris yr athrawiaeth; pan y dywedai y pregethwr fod yr iachawdwriaeth wedi ei gorphen, chwythodd awel dyner dros y cyfarfod. "Ond," meddai, "tywyllodd bethau trwy ymadroddion cnawdol am y Drindod; gellid meddwl wrtho fod y Tad ar ei ben ei hun pan yn creu; fod y Mab wrtho ei hun pan yn prynu; a'r Yspryd Glan wrtho ei hun pan yn sancteiddio. Dywedai hefyd, fod y dynion goreu yn amheu weithiau, oblegyd eu llygredigaethau, a'u gwaith yn peidio edrych at yr Arglwydd." Awgryma ei gondemniad o'r dywediad hwn gan Rowland, ei fod wedi cael ei ddylanwadu, i ryw fesur, gan syniadau Wesley, parthed perffeithrwydd. Dywed, yn mhellach, na ddaeth gogoniant Crist i'r amlwg, ac iddo gael ei feddwl yn ymwneyd a'r pwnc o brynu coed ieuainc, i'w planu yn Nhrefecca. Dengys hyn gyfnewidiad dirfawr yn ei yspryd; nid dyma y modd yr arferai wrando ar Daniel Rowland. Yn nghyfarfod neillduol Gymdeithasfa, cyhuddodd Rowland ef o fod yn barhaus yn newid ei syniadau, ac o dra-arglwyddiaethu ar bawb na wnai ymostwng iddo, gan wneyd ei arch yn mhob dim. Atebodd yntau ei fod yn ddieuog o'r ddau gyhuddiad. Am y cyntaf, bod yn bwhwman mewn athrawiaeth, nad oedd wedi cyfnewid o gwbl, er pan ddechreuodd fyned allan yn gyhoeddus. Am yr olaf, sef arfer tra-awdurdod, mai dyna y pechod â pha un yr oedd wedi halogi ei hun leiaf; mai ei brif ddyben yn wastad oedd dyrchafu Crist. "Dywedais yn mhellach," meddai, "y gwnawn eu hargyhoeddi of gywirdeb fy amcanion, trwy ymneillduo, a rhoddi i fynu fy lle yn mysg y pregethwyr, ac yn mysg y bobl. Fy mod wedi gweithredu ynddo mor hir ag yr oeddent hwy yn barod i'm derbyn mewn ffydd; ond os oedd pethau fel y dywedai efe (Rowland), a'u bod yn ofni dweyd eu meddyliau wrthyf, y gwnawn ymadael, gan fyned o gwmpas yn unig i'r lleoedd y cawn ddrws agored gan Dduw. Yr awn at y pregethwyr a'r bobl a roddai dderbyniad i mi, nas gallai neb fy rhwystro i wneyd hyny." Ychwanega, fod yr ystorm yma wedi codi oddiwrth Mr. Whitefield, ac oddiwrth eu rhagfarn at y brawd Beaumont. Tebyg y tybiai ddarfod i Whitefield anfon at Rowland, fod syniadau arbenig John Wesley yn nawseiddio ei bregethu i ryw raddau. Gyda hyn, cododd Howell Harris i fyned allan. Atebodd Rowland mai gwell i Harris aros, ac yr ai ef (Rowland) allan. Tawelodd pethau am ychydig. "Cododd ystorm drachefn," meddai," gyda golwg ar y brawd Beaumont. Dywedais fy mod yn foddlawn iddynt ei geryddu am unrhyw beth oedd allan o le ynddo, mewn athrawiaeth neu ymddygiad ; ond na wnawn gyduno i'w droi ef i ffwrdd, yn unig oblegyd rhagfarn, ac heb achos cyfiawn. Dywedais fy mod yn gwybod ei fod yn iach yn y ffydd, ac yn cael ei arddel gan Dduw, a fy mod yn anfoddlawn i'w rwymo, megys â chadwyn, gyda golwg ar y lleoedd i bregethu ynddynt, rhag fod gan yr Arglwydd ryw genadwri i'w hanfon trwyddo. Gwelwn eu bod (yr offeiriaid) yn cam-ddefnyddio eu hawdurdod. Gwelwn, a dywedais hyny, ein bod yn wynfydedig nad oedd neb yn ein mysg mewn awdurdod, a'r fath farn fyddai i rywun gael ei osod." Aeth yn ei flaen i siarad am Grist, anwybodaeth llawer o honynt am dano, anfeidroldeb ei ddyoddefaint, ei glwyfau, a'i waed, ac anfeidroldeb pechod. "Pan y siaradai y brawd Rowland yn gnawdol," meddai, " dywedais wrtho am weddïo rhag i'w holl wybodaeth fod allan o lyfrau. Yr oedd yn ystorm enbyd, a'r brawd Rowland a fygythiai ymadael, oni throem Beaumont allan." Aeth Harris a'r achos at yr Arglwydd; gwelai yn glir mai cadw Beaumont i mewn oedd achos yr holl gyffro yn Lloegr, ac yn Nghymru. Ond gadael pethau fel yr oeddynt am y chwar-