Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/406

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o gariad brawdol, a chymundeb Cristionogol ag ef yn awr," meddai Harris, "ond yn hytrach, y mae fy yspryd yn cael ei gau. Dywedais wrtho mai ychydig o natur pechod a welem, onide y byddai arnom fwy o'i ofn; ac nad oeddwn yn gweled y gwaith yn pwyso ar neb, o ganlyniad, yr awn allan wrthyf fy hun. Ymddiddanasom, hefyd, am gael tŷ i bregethu ynddo yma. Yn Longhouse, yn Sir Benfro, cyfarfyddodd â Benjamin Thomas, yr hwn a ystyriai yn nesaf at Daniel Rowland, fel un o'i brif wrthwynebwyr. Fel hyn y dywed yn ei ddydd-lyfr: "Lleferais yn rhydd wrth Benjamin Thomas, gan ddangos y fath blant ydym oll, a'r modd yr ydym, bawb o honom, allan o drefn, heb neb yn adnabod ei le, ac mor anwybodus ydym oll o Grist. Cymerodd yntau y cwbl genyf. Gwelais, a theimlais, mor fawr yw y gorchwyl o ddwyn Crist gerbron y bobl; nad oeddwn yn ei wneyd yn iawn, a llefwn am gael bod gerbron yr Arglwydd, gan nad wyf yn goddef unrhyw bechod (yn y seiadau), ac nad wyf yn caniatau lle i hunan. O ganlyniad, y mae y gwrthwynebiad, nid yn fy erbyn i, ond yn erbyn Duw." Teifl y difyniad diweddaf gryn oleuni ar ystâd ei feddwl, sef, yr ystyriai fod yr Arglwydd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar y cymdeithasau, a chan ddarfod iddo yntau, hyd eithaf ei allu, fod yn ffyddlawn i'r ymddiriedaeth, fod codi yn ei erbyn yn wrthryfel yn erbyn y trefniadau dwyfol. Cawn ef, yn nesaf, mewn Cymdeithasfa Fisol yn Hwlffordd, yn mha un yr oedd Howell Davies yn bresenol. Nid yw yn ymddangos i ddim o bwys gael ei benderfynu ynddi, ond y mae ei ymddiddan wrth ffarwelio â Howell Davies yn haeddu ei gofnodi. "Dywedais wrtho," meddai, "fod gogoniant Crist yn dechreu. cael ei amlygu, ac y cai pawb a wrthwynebai eu dinystrio. Dangosais iddo am gnawdolrwydd a deddfoldeb y brawd Rowland, nad yw yn cynyddu mewn gwybodaeth o Grist, a'i fod yn ymddangos fel yn tyfu mewn hunanoldeb. Cyfeiriais at falchder y brawd Beaumont, a'r modd yr oeddwn, hyd y gallwn gael cyfleustra, er pan gafodd gogoniant Crist ei amlygu gyntaf yn ein mysg, yn ymdrechu chwilio y Beibl, a gweithiau dynion da. Ac yn awr, y dinystrai Duw yr holl wrthwyneb Dywedais, fy mod yn tybio mai y brawd Rowland a fyddai y diweddaf i ddod i mewn." Y diweddaf i ddod i gydnabyddiaeth â gogoniant yr Arglwydd Iesu a olyga, yn ddiau. Pa ateb a wnaeth Howell Davies i hyn oll, nis gwyddom; efallai y gwelai nad gwiw iddo ar y pryd wneyd unrhyw amddiffyniad i Daniel Rowland.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol, hefyd, yn Nghaerfyrddin, a bu Harris yn anerch y cynghorwyr a'r goruchwylwyr gyda difrifwch mawr. "Y mae hyn," meddai, “yn rhan o fy swydd bwysig, i'r hon, yn wir, y perthyn llawer o ganghenau, y rhai na welais yn y goleu priodol o'r blaen. Gwelaf fod mwy o ganghenau wedi eu rhoddi i mi nag i neb o'r pregethwyr, yr offeiriaid, na'r cynghorwyr, oddigerth Mr. Jones (Griffith Jones, Llanddowror). Arweiniwyd fi yma i geryddu am ysgafnder, ac yfed, ac am fod yn un â Christ; a dangosais fel y mae llawer wedi syrthio trwy falchder. Yr oeddwn yn llym am gynyddu mewn tlodi yspryd. Dangosais fel y mae y gwaith, er pob peth, yn myned yn y blaen yn rhyfedd, a'r modd y mae fy mwa yn arhoi yn gryf. Gwrthodais un a syrthiasai, oedd yn cynyg dyfod atom, ac a ymddangosai yn dra gostyngedig, am nad oedd ei yspryd yn ddigon drylliedig, ac am nad oeddwn yn teimlo yspryd yn ei eiriau." Wedi teithio trwy gryn lawer o Sir Gaerfyrddin, a rhan o Forganwg, cawn ef yn Llangattwg, ger Castellnedd, ac y mae yr adroddiad a rydd am ei helynt yn y lle hwn yn dra phwysig. "Neithiwr,' meddai, "gwedi i mi bregethu yn gyhoeddus gyda chryn arddeliad, darfu i Mr. Peter Williams fy ngwrthwynebu yn bendant, gan ddweyd fy mod yn cyhoeddi fy hun; gwnaeth hyny yn fwy ar ol y seiat breifat; yna, aeth i ffwrdd. Yr oeddwn yn llym ac yn geryddol yma, fel yn Hwlffordd; ond yma, yn benaf, oblegyd eu difaterwch am waith Duw, ac am eu pleidgarwch a'u cnawdolrwydd tuag at Mr. Rowland. Dywedais, nad oeddwn yn gweled neb yn adwaen ei le, ac felly, fy mod yn benderfynol o fyned o gwmpas fy hun, gan weled pwy a unai yr Arglwydd â mi, gan osod ei waith arnynt, fel yr aent trwy bob peth. Dangosais, fy mod yn gweled yspryd slafaidd a sismaidd yn meddianu y bobl; mai gweinidogaeth y Gair yn unig a gawsai ei roddi i ni, a'r ordinhadau i fod yn yr eglwysydd plwyfol. Rhoddais gynghorion gyda golwg ar amryw achosion. Gwedi hyn, cynghorais yn llym, am fod yn un â Christ yn mhob peth. Daeth yr Arglwydd i lawr ar hyn. Llawer o'r cynghorwyr a'r stiwardiaid