Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/407

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gyffesasant fawredd eu pechodau, eu dyledswyddau, a'u breintiau. Datgenais Datgenais fy serch atynt, a'm bod yn eu ceryddu mewn cariad. Clywais gymaint am lygredigaethau a sismau yn tori allan yn ein mysg, fel mai braidd y gallwn ddal, ac am frodyr yn esgeuluso eu lleoedd wedi iddynt gael eu cyhoeddi. Gymaint o bethau sydd genyf i fyned trwyddynt. Y mae yn dda mai yr Arglwydd sydd Dduw." Yr ydym yn cael yma, am y tro cyntaf, y cytunai Peter Williams a'r offeiriaid, sef Rowland, Williams, a Davies, mewn gwrthwynebiad i Howell Harris. A oedd yn wrthwynebol i'w athrawiaeth, nis gwyddom; y prif gyhuddiad a rydd yn ei erbyn yw, ei fod yn pregethu ei hun. Braidd na awgryma hyn fod ei safle yn mysg y Methodistiaid, a'i gwerylon a'i frodyr, yn cael cryn le yn mhregethu Harris yn ystod y daith hon. Yr ydym yn cael, hefyd, fod Harris erbyn hyn, wedi gwneyd ei feddwl i fynu i ymranu, ac i ffurfio plaid ei hun, gan obeithio y byddai i'r nifer fwyaf o'r cynghorwyr, ac o'r bobl, ei ganlyn. Yr oedd hyn yn ei fryd er ys tipyn, a chawn ef yn awgrymu y peth wrth Daniel Rowland, yn Llandilo Fawr.

Yn Rhosfawr, lle yn ngorllewin Morganwg, cafodd ymddiddan maith â dau gynghorwr, sef John Richard, Llansamlet, a William James. Ei amcan yn amlwg oedd eu henill i fod o'i du ef, yn yr ymraniad ag yr oedd wedi penderfynu arno. Fel hyn y dywed: "Dangosais iddynt ein cwymp oddiwrth Dduw i yspryd y byd, a gwelent nad yw yr Arglwydd Iesu yn awr yn cael ei garu, ond fod llygredigaethau yn dyfod i mewn fel afon. Dangosais mai gwybodaeth pen a bregethai yr offeiriaid; mai y pen a'r teimlad y maent yn gyfarch; ond fod yspryd y bobl yn myned yn fwy daearol, hunangar, cellweirus, nwydus, a chnawdol; fod y bobl yn diystyru pawb ond yr offeiriaid, gan barchu y gŵn, a'r enw. Eglurais yr angenrheidrwydd am edrych ar yr oll yn Nuw, a chanfod pob peth yn awr yn ngoleu y dydd diweddaf. Dymunwn arnynt ymgasglu yn nghyd, nid er mwyn plaid, ond i gadarnhau y naill y llall yn y goleu a roddasid iddynt gan Dduw; ar iddynt fyned i fysg y bobl, i'w hachub rhag y plâ sydd yn ein hanrheithio, sef ysgafnder, ac edrych yn y cnawd am bob peth; ar iddynt geisio dyrchafu y bobl i fynu hyd at y goleuni; ac ar iddynt adael i mi wybod sut yr oedd pethau yn myned yn mlaen. Dangosais nad oedd genyf neb yn awr i'm cynorthwyo; fod llawer yn cyfarwyddo y cynulleidfaoedd, ond nad oeddynt yn cynyddu yn nghariad Crist, nac yn gofalu am ei orchymynion; nad oedd Gair yr Arglwydd yn cynyddu mewn dylanwad, am nad oeddent yn gweled Crist yn ei fygythion, yn ei addewidion, ac yn ei orchymynion; nad ydynt yn ei weled ef a'i Air yn un, a'u bod yn edrych ar y Gair yn y cnawd, fel y gwna y byd. Gwelwn ei bod yn bryd, bellach, i sefyll, ac i wrthwynebu parchu y pen, a pharchu y cnawd. Dywedais fy meddwl am yr offeiriaid, ac yn arbenig Rowland, fy mod yn tybio mai efe a fyddai y diweddaf i ddyfod i'r goleuni; a'i fod yn elynol i bob bygwth, ac yn ddifater am wybod meddwl Duw." A yn ei flaen i gyhuddo yr offeiriaid o ariangarwch, ac i ddweyd nad oedd eu gweinidogaeth yn effeithiol i ddwyn oddiamgylch fywyd ysprydol. "Gwelwn ei bod yn bryd i mi," meddai, “i ddyfod o Loegr i Gymru i wrthsefyll yr hunan sydd yn dyfod i mewn. Rhaid i mi ddysgwyl cael fy marnu yn llym, a'm camdrin gan bobl, y rhai, fel plant drygionus, a ymwrthodant a'r iau." Yna, datgana ei ffydd yn ei swydd, ac y rhaid i'r gwaith fyned yn y blaen, er cymaint y gwrthwynebiad. Nid yw yr hanes hwn mewn un modd yn ddymunol i'w adrodd; nid melus gweled hen gyfeillion wedi ymranu, ac wedi myned i gamddeall eu gilydd mor drylwyr; a rhaid fod yspryd Harris ei hun yn cael ei glwyfo, pan yn cyhuddo ei gymdeithion. a'i gyd-lafurwyr gynt, o fod yn meddu ar oleu pen yn unig, ac o edrych ar wirioneddau gogoneddus yr efengyl yn gyfangwbl yn y cnawd. Eithr yn hyn oll, tybiai ei fod yn cario allan y comissiwn dwyfol.

Yn Cefngleision, cynghora y goruchwylwyr perthynol i'r seiadau i gyfarfod unwaith y mis o leiaf, ar eu penau eu hunain, i gydweddïo, i agor eu calonau i'w gilydd, ac i drefnu y gwahanol achosion a fyddai yn codi. Nid oedd am i'r trefniadau fyned o flaen yr holl gymdeithas, gan fod perygl felly iddynt gael eu mynegu i'r byd. "Dangosais," meddai, "am fabanod a phlant, na ddylid ymddiried cyfrinach iddynt; mai bara yn unig sydd yn angenrheidiol i'r cyntaf, ac ymborth, dillad, dysgyblaeth, a gwaith, i'r ail; ac oni chedwir hwy danodd, y gwnant ddinystrio eu hunain, a phawb cysylltiedig â hwynt." Gwelir ei fod yn credu mewn llywodraethu y cymdeithasau â gwialen haiarn, braidd,