Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/408

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nad oedd am ganiatau llais o gwbl mewn ymdriniaeth ag achosion i'r aelodau cyffredin. Eithr ychwanega: "Lleferais i'r byw am wneyd eilunod o'r gwn, a'r enw, a phethau eraill perthynol i'r offeiriaid. Dangosais yr angenrheidrwydd am edrych. ar y cwbl fel y gwna yr Arglwydd. Nad yw yr enwau a'r pethau yma (o eiddo yr offeiriaid) ond cnawdol, ac ar gyfer rhai cnawdol; ond fod llawer o Gristionogion (Methodistaidd) na wnant edrych ar unrhyw weinidogion ond offeiriaid, ac felly hefyd yr offeiriaid eu hunain; ond fod doniau yr Yspryd a gwaith Crist yn gyfartal ogoneddus yn mhawb. Cyfeiriais at waith lleygwyr yn addysgu, megys Paul, Apolos, a'r brodyr gwasgaredig o Jerusalem; fod Calvin, a hyd yn nod yr esgobion, yn cyfaddef y gallai lleygwyr bregethu mewn achosion o angenrheidrwydd ac erledigaeth. Eglurais pwy oedd yn fawr yn fy ngolwg i, sef y rhai ydynt yn ofni, yn caru, ac yn anrhydeddu Duw mewn gwirionedd, y rhai sydd a'i achos ar eu calon, sydd yn rhodio yn ostyngedig gerbron Duw, ac a ydynt yn wyliadwrus. Gwelwn bethau yn fwy yn yr Yspryd nag erioed, a bod yr Arglwydd wedi myned allan, gan ddechreu gosod meini yn nghyd." Ystyr y frawddeg olaf, feddyliem, yw, ei fod yn canfod addfedrwydd yn bresenol i ffurfio plaid ar wahan i'r Methodistiaid. Meddai eto: "Dangosais y modd yr oeddynt hwy hyd yn nod yn parchu y clerigwr am fod yr enw offeiriad arno; ond y dylem eu parchu i'r graddau ag y mae yr Arglwydd yn eu harddel, a dim yn mhellach." Diau ei fod yn hollol yn ei le yn hyn, ond gwelir fod ei yspryd wedi newid yn ddirfawr er y Gymdeithasfa gynt yn Watford, pan y gweinyddai gerydd ar ryw gynghorwr anffodus, oedd wedi dweyd rhywbeth yn anmharchus am y gŵn. Ychwanega: "Cefais ffydd i gyflwyno yr oll a ddywedais am yr offeiriaid, sef Rowland a Williams, i Dduw, gan mai am ddyrchafu yr Arglwydd yr wyf fi, ac am i bob un aros, a chael ei weled, yn y lle y gosododd yr Arglwydd ef ynddo. Cefais lythyr o Gilycwm, i gymeryd gofal y seiat yno; lledais yr achos gerbron yr Arglwydd, a chefais ganiatad i'w chymeryd yn Nuw, a thros Dduw." Y mae y frawddeg olaf yn bwysig tuhwnt. Dengys fod y cweryl rhwng Rowland a Harris yn rhedeg i mewn yn gryf i'r seiadau, a'u bod hwythau yn dechreu rhesu eu hunain gydag un neu y llall. Syn, braidd, yw gweled seiat Cilycwm yn anfon y fath genadwri at Howell Harris; yn Nghilycwm yr oedd Williams, Pantycelyn, ar yr hwn yr edrychai Harris yn awr fel gwrthwynebwr, yn aelod, a rhaid fod dylanwad y bardd yn ei gartref ei hunan yn gryf. Deallwn ar ol hyn nad oedd y llythyr wedi cael ei anfon gan y seiat yn ei chyfanswm, ond gan ryw bersonau ynddi.

Ar y pumed o Fawrth, cyrhaeddodd Drefecca, ar ol taith fwy manwl trwy Ddeheudir Cymru nag a wnaethai erioed o'r blaen. Yno yr oedd llythyr oddiwrth John Cennick yn ei aros. Teimlai y fath anwyldeb at y brawd hwn, fel y gallai rhedeg yn ei gwmni dros y byd, a llefai am ei gael yn gydymaith yn y gwaith drachefn. Y mae yn sicr y teimlai Howell Harris yn dra unig yn awr. Yr oedd wedi anghytuno â Whitefield, ar yr hwn yr edrychai unwaith fel tywysog Duw; ac yr oedd wedi ymddyeithrio oddiwrth ei hen gydweithwyr yn Nghymru. Enwa Cennick, Beaumont, John Sparks, John Harry, John Richard, a Thomas Williams, Groeswen, fel rhai oeddynt yn cydymdeimlo ag ef. Yr oedd yn awr yn pregethu yn gyhoeddus yn erbyn yr offeiriaid Methodistaidd, fel y dengys y difyniad canlynol o'i ddydd-lyfr : "Mawrth 10. Arweiniwyd fi i lefaru yn llym am falchder a hunan ein proffeswyr ieuainc, nad yw crefydd Crist i'w gweled ynddynt. Dangosais y modd y mae offeiriaid a phobl y Methodistiaid yn syrthio fwy fwy i hunan a balchder. Pa nifer o honynt a ddaw yn mlaen, Duw yn unig a ŵyr. Am y nifer fwyaf, dangosais eu bod o'r gwraidd yn Iuddewon, yn Phariseaid, ac yn elynion i'n Hiachawdwr ; nad yw eu crefydd ond ychydig o oleuni pen, a chyffyrddiadau ysgafn ar y dymher, tra y mae hunan o dan y cwbl, a'u bod yn tyfu yn y cnawd, gan ddwyn ffrwyth i'r cnawd ac i'r byd." Buasai yn anhawdd dweyd dim mwy miniog, a rhaid ei fod yn peri i'r bobl edrych ar Daniel Rowland a'i blaid mewn goleu tra anffafriol. "Byddai cystal genyf," meddai, "fyned i uffern yn gyhoeddus, a myned yno yn nghymdeithas proffeswr cnawdol."

Ychydig o ddyddiau y bu gartref; cawn. ef yn fuan yn cychwyn am daith i Sir Drefaldwyn. Yn mhob pregeth o'i eiddo. yn mron y cyfeiriai at yr offeiriaid, nad oeddynt yn adnabod eu lle, a'u bod yn byw yn y cnawd. Yn y Tyddyn, Mawrth 14, ysgrifena fel y canlyn: "Y brawd Richard Tibbot a ofynodd i mi pa beth i